BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Robin McBryde
Robin McBryde

Ganwyd: 3 Gorffennaf 1970

Addysg: Ysgol Gynradd Cae Top ac Ysgol Tryfan, Bangor.


Bachwr i dîmau rygbi Scarlets Llanelli a Chymru.

Dyma un o'r ychydig ogleddwyr sydd wedi llwyddo fel chwaraewr rygbi proffesiynol.

Cafodd yrfa lwyddiannus - yn fwyaf diweddar fel bachwr i dîm Scarlets Llanelli ac aelod allweddol o sgwad Cymru - cyn ymddeol fel chwaraewr yn 2005.

Magwyd Robin Currie McBryde yn Llanfechell, Ynys Môn, ac fe ddechreuodd chwarae rygbi yn ifanc iawn. Bu'n chwarae i dîm Porthaethwy, yr Wyddgrug a thîm gogledd Cymru cyn mentro i'r de ac ymuno ag Abertawe.

Ar ôl symud i Lanelli, fe arweiniodd y tîm i fuddugoliaeth yng Nghwpan 1998 ac yna yng Nghynghrair Cymru yn 1999 fel aelod allweddol o'r garfan.

Enillodd ei gap cyntaf dros ei wlad yn y gêm yn erbyn Fiji ar daith 1994. Ar ôl cyfnod yn Nhîm A Cymru, dychwelodd i'r prif dîm yn 2000 ac fe gafodd ei alw i sgwad y Llewod ar gyfer taith i Awstralia yn 2001.

Cafodd Robin ei enwi yn un o bedwar capten Cymru yn y daith i Dde Affrica yn 2003 ac yn fachwr dros dîm ei wlad a roddodd gymaint o fraw i Loegr a'r Crysau Duon ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd yn Awstralia 2003.

Ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2005, daeth yn o'r gogleddwyr prin sydd wedi bod yn aelod o dîm buddugol y Gamp Lawn.

Ond, wedi cael llawdriniaeth i'w gefn yn 2005, ei flwyddyn dysteb ar Barc y Strade, cafodd ei orfodi i ymddeol o'r gamp oherwydd yr anaf, ar ôl ennill 37 cap i Gymru.

Mae'n parhau i gymryd rhan flaenllaw mewn rygbi rhanbarthol a chenedlaethol fel hyfforddwr.

Ffeithiau:

  • Safle: Bachwr
  • Clybiau: Porthaethwy, Yr Wyddgrug, Abertawe, Llanelli (capten 1997-99), Sgarlets
  • Capiau: 37
  • Cap cyntaf: Fiji, 18-06-94
  • Cap olaf: Iwerddon 19-03-05
  • Taith y Llewod: Awstralia 2001 (dim cap)

    Robin McBrydeFis Tachwedd 2006, cyhoeddodd Robin ei hunangofiant, Y Cymro Cryfa (Lolfa £9.95), sy'n datgelu rhai o uchafbwyntiau ei yrfa rygbi yn ogystal â sôn yn onest am rai o'r isafbwyntiau. Mwy yma.

    Wedi marwolaeth Ray Gravell yn 2007, cyhoeddwyd mai Robin fyddai'n cario'r cleddyf adeg seremonïau'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 wedi iddo gamu i mewn fel Ceidwad y Cledd dros dro yn ystod salwch Grav.


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy