BBC HomeExplore the BBC

IAU
16eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Neville Southall
Neville Southall

Ganwyd: 16 Medi 1958

Magwyd: Llandudno

Addysg: Ysgol John Bright


Gôl-geidwad i Gymru ac Everton

Yn ei ddydd, roedd Neville Southall yn un o gôl-geidwaid gorau'r gêm ac yn un o hoelion wyth timau Everton a Chymru am dros ddeng mlynedd cyn dod yn rheolwr.

Ganwyd a magwyd Southall yn Llandudno a chwaraeodd gyntaf yng nghanol y cae i dîm yr ysgol ac i'r Llandudno Swifts efo Joey Jones.

Tîm pêl-droed Ysgol John Bright

Dyma lun o 'Big Nev' gyda thîm John Bright - ond p'run fyddai'n mynd ymlaen i chwarae dros Gymru?

Yn ei arddegau, aeth ar brawf ddwy waith i Crewe Alexander a Bolton, ond bu'n aflwyddiannus y ddau dro, felly aeth i weithio fel adeiladwr a chwarae i dimau Conwy, Dinas Bangor a Winsford cyn cael ei brynu gan Bury am £6,000. Ond un diwrnod fe gafodd ei weld yn chwarae gan Howard Kendall, un o reolwyr mwyaf llwyddiannus Everton, ac fe gynigiodd £150,000 amdano yn 1981. Dipyn o dro ar fyd i un oedd yn gweithio ar safle adeiladu ychydig ynghynt!

Digon simsan fu ei yrfa i ddechrau ac aeth ar fenthyg i Port Vale am ychydig o fisoedd, cyn hawlio crys rhif un Everton iddo fo'i hun a neb arall. Enillodd y gleision bencampwriaeth y Gynghrair yn 1985 a 1987, Cwpan yr FA yn 1984 a 1995 a chwpan Enillwyr Cwpan Ewrop yn 1985. Yn y flwyddyn honno hefyd, dewiswyd Southall yn chwaraewr y flwyddyn gan y Football Writers Association a chanmolwyd yn arbennig ei allu i symud yn reddfol a'i bresenoldeb eofn yn y gôl.

Pan chwaraeodd ei gêm olaf i Everton yn Nhachwedd 1997, roedd wedi torri record y clwb drwy chwarae mewn 750 o gemau a record Cymru ar ôl chwarae 93 o weithiau dros ei wlad yn ystod wythdegau a nawdegau'r ganrif diwethaf.

Ers hynny mae Southall wedi chwarae i Southend, Torquay United, Bradford ac Amwythig fel hyfforddwr a gôl-geidwad pan fo angen. Bu Southall yn hyfforddi tîm dan 19 Cymru am gyfnod.

A gyda llaw, 'Big Nev' ydy'r pumed chwaraewr o'r chwith yn y rhes gefn (cyn iddo fo dyfu mae'n amlwg!)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy