BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
26ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Dewi Bebb
Dewi Bebb

Ganwyd: 7 Awst 1938

Magwyd: Bangor

Addysg: Ysgol Friars, Bangor


Un o arwyr y bêl hirgron a chwaraeodd dros Gymru a'r Llewod.

Ganwyd Dewi Iorwerth Ellis Bebb, mab yr hanesydd enwog W. Ambrose Bebb ym Mangor ac yno y cafodd ei addysg hefyd. Ar ôl cwblhau ei wasanaeth milwrol, aeth i Goleg y Drindod, Caerfyrddin ac yna i Gaerdydd i hyfforddi'n athro.

Chwaraeodd gyntaf i dîm rygbi Abertawe mewn gêm yn erbyn Llanelli ar 11 Hydref 1958 a hynny ar yr asgell chwith. Roedd yn gapten ar Abertawe o 1963 i 1965 ac fe chwaraeodd mewn gemau allweddol i'r clwb fel yn erbyn y Springboks yn 1960, y Crysau Duon yn 1963 ac Awstralia yn 1966.

Er iddo symud i fyw i Gaerdydd yn ystod y chwedegau ac er gwaethaf diffyg llwyddiant y clwb, fe fu Dewi yn ffyddlon i Abertawe. Fe chwaraeodd mewn 221 o gemau drostyn nhw gan ennill 87 cais ac ymddangos am y tro olaf mewn gêm yn erbyn Pontypŵl ar 22 Ebrill 1967.

Ond fe ddechreuodd Dewi ei yrfa ryngwladol yn erbyn yr hen elyn sef Lloegr a chwarae yn eu herbyn am y tro olaf yn y crys coch hefyd. Mae'r chwe chais a sgoriodd yn eu herbyn yn dal i fod yn record a rhwng 1959 ac 1967 enillodd 34 cap dros ei wlad a sgorio 11 cais.

Cafodd gyfle i fynd ar daith efo'r Llewod yn 1962 ac 1966, gan chwarae mewn dau brawf yn Ne Affrica, pedwar yn Seland Newydd, dau yn Awstralia ac un yng Nghanada. Fo oedd y prif sgoriwr ar daith 1966.

Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd Dewi dros nifer o dimau gan gynnwys Bae Colwyn, Biwmares, y Llynges a'r Barbaiaid.

Athro oedd o'n wreiddiol yng Nghaerdydd ond yn ddiweddarach aeth i fyd darlledu a newyddiadura. Bu farw ar 14 Mawrth 1996 ac yntau yn 57 oed.

Diolch yn fawr i Sioned o Gyffordd Llandudno am gynnig enw Dewi.

Ystadegau:

  • Ymddangosiad cyntaf dros Gymru: yn erbyn Lloegr 17 Ionawr 1959
  • Capiau dros Gymru: 34
  • Pwyntiau dros Gymru: 33
  • Gemau i Abertawe: 221
  • Pwyntiau dros Abertawe: 87


  • Cyfrannwch

    Alwyn Rowlands
    Pleser o'r mwyaf oedd bod yn bresennol pan roedd Dewi yn chwarae i Ysgol Ramadeg Y Bechgyn, Friars yn y 50au cynnar - un tymor bu i'r tim cyntaf ennill pob gem. Dwi'n siwr fod dyled mawr iawn i'r athro a fu yn gyfrifol am hybu rygbi yn yr ysgol, sef Tom Davies ag aeth ymlaen i Fangor i weithio i'r BBC.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy