BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
9fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Dave Brailsford yn derbyn ei wobr gan Dame Kelly Holmes
Dave Brailsford

Ganwyd: 29 Chwefror 1964

Magwyd: Derby

Addysg: Ysgol Deiniolen ac Ysgol Brynrefail


Cyfarwyddwr perfformiad tîm beicio Prydain yn Beijing.

Magwyd Dave Brailsford yn Neiniolen, ger Llanberis, ar ôl i'w deulu symud yno pan oedd o yn dair oed. Ysgogwyd ei ddiddordeb mewn beicio gan ei dad, oedd yn cynnal teithiau i'r Alpau. Ar ôl gadael yr ysgol, aeth at ei dad i Ffrainc i gystadlu fel beiciwr proffesiynol.

Dychwelodd i Brydain i astudio Gwyddoniaeth Chwaraeon ac ôl-radd mewn busnes. Gwnaeth y gorau o'i sgiliau busnes a'i frwdfrydedd am feicio pan gafodd ei benodi yn Reolwr Rhaglenni gyda British Cycling. Cafodd y tîm dipyn o lwyddiant yn Ngemau Olympaidd Athens yn 2004 o dan ei arweiniad, ac fe cafodd ei anrhydeddu gyda MBE gan y Frenhines am ei waith.

Yn 2005, penodwyd Dave yn Rheolwr Perfformiad i dîm beicio Prydain ac aeth ati i baratoi ar gyfer 2008. Llwyddodd i sicrhau arian i gyflogi ffisiotherapyddion, hyfforddwyr a seicolegydd chwaraeon i hybu perfformiad y beicwyr, gyda canlyniadau ardderchog.

Cipiodd beicwyr Prydain hanner y medalau aur ym mhencampwriaethau'r byd yn 2008. Yna, yn Beijing, llwyddodd y tîm i ennill saith allan o'r deg cystadleuaeth beicio (ar y ffordd ac o amgylch y trac), gan gynnwys tri i Chris Hoy, ac un yr un i'r Cymry Nicole Cooke a Geraint Thomas.

Fel diweddglo i flwyddyn orau ei yrfa hyd yn hyn, enillodd Dave Brailsford deitl hyfforddwr y flwyddyn yn seremoni gwobrwyo y BBC.

Mae Dave erbyn hyn yn byw yn Derby gyda'i bartner, Lisa, a'i merch fach, ond mae ganddo deulu yn byw yn ardal Deiniolen o hyd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy