BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
19eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Chwaraeon
Becky Brewerton
Becky Brewerton

Ganwyd: 20 Hydref 1982, Llanelwy

Magwyd: Abergele


Golffwraig ifanc sydd wedi cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol

Trifia: Ymysg diddordebau eraill Becky mae gwrando ar gerddoriaeth, gwylio ffilmiau - a chwaraeon!

Daeth Rebecca Dawn Brewerton yn chwaraewr golff proffesiynol ar 17 Tachwedd 2003, fis ar ôl ei phen-blwydd yn 21 oed.

Cyn hynny, roedd wedi cael gyrfa amatur lwyddiannus: roedd yn Bencampwraig Merched Iau Cymru 1997 ac 1988, yn Bencampwraig Merched Cymru 1999 a 2001, cynrychiolodd Wledydd Prydain ac Iwerddon yng Nghwpan Curtis 2000, Tlws Vagliano 2001 a 2003 ac ym Mhencampwriaeth Tîm Golff Amatur y Byd yn 2002.

Yna, ar ôl dod yn 13eg yn Ysgol Gymhwyso Cylchdaith Merched Ewrop yn 2003, dechreuodd ar ei thymor cyntaf fel chwaraewr proffesiynol yn 2004.

Yn y tymor proffesiynol cyntaf hwnnw, daeth Brewerton yn ail yng nghystadleuaeth Chwaraewr Newydd y Flwyddyn yng Nghwpan Ryder Cymru.

Yn 2005, tra'n cynrychioli Cymru ar y cyd â Becky Morgan o'r Fenni yng Nghwpan Golff Merched y Byd yn Ne Affrica cyrhaeddodd y chweched safle.

Llwyddodd y ddwy i wella eu perfformiad yn 2006 a chipio'r trydydd safle y tu ôl i Sweden a'r Alban. Daethant yn wythfed ym mhencampwriaeth 2007.

Yn 2007 hefyd ennillodd le yn nhîm Ewrop i gystadlu yng nghwpan Solheim, sef fersiwn y merched o'r Cwpan Ryder.

Hi ydy'r unig Gymraes i wneud hynny.

Dechreuodd chwarae golff yn ei harddegau dan ddylanwad ei thad, Steve, a fu'n gadi iddi ym y tro olaf ers dechrau ei gyrfa yng Nghwpan Golff Merched y Byd 2007.

Roedd yn cymryd rhan am y pedwerydd tymor fel chwaraewr proffesiynol yng Nghylchdaith Merched Ewrop yn 2007 ac enillodd Bencampwriaeth Agored Lloegr y flwyddyn honno.

  • Cadwch lygad am y diweddaraf am Brewerton ar safle Chwaraeon Cymru'r Byd.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy