BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Celfyddydau
Ralph Steadman
Ralph Steadman

Ganwyd: 15 Mai 1936 yn Wallasey

Magwyd: Abergele

Addysg: Ysgol Ramadeg Abergele


Cartwnydd a darlunydd dychanol a deifiol

"Mi rydach chi'n cael dweud pethau na fedrwch eu dweud mewn unrhyw ffordd arall. Mi fedrwch chi regi dyn a chael eich erlyn am enllib, ond mi fedrwch chi awgrymu pethau mewn llun a fedran nhw ddim mynd ar eich ôl chi. O leiaf, dydw i ddim yn meddwl y medran nhw," Ralph Steadman yn sôn am ei gartwnau.

Ralph Steadman ydy un o gartwnwyr a darlunwyr enwocaf Prydain. Fo wnaeth agor uned greadigol newydd Adran Gelf Ysgol Emrys ap Iwan a enwyd er anrhydedd iddo.

Ganwyd Ralph, mab Gwendoline a Raphael Steadman - gwerthwr dillad isaf merched oedd hefyd yn cynhyrchu gwin cartref - yn Wallasey a'i fagu yn Abergele. Ar ôl gorffen ei addysg yng ngogledd Cymru, aeth i Lundain i astudio celf yn yr Ysgol Argraffu a Chelf Graffeg yno.

Mae wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn yn gweithio ar gartwnau i Punch, Private Eye, The New Statesman a'r Daily Telegraph.

Mae hefyd wedi creu darluniau ar gyfer nifer o lyfrau gan gynnwys:

  • Jelly Book (1967)
  • The Yellow Flowers (1968)
  • The Little Red Computer (1969)
  • The Tale of Driver Grope (1969)
  • Scar Strangled Banger (1988)
  • Gonzo (hunangofiannol) (1997)


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy