BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Celfyddydau
Brwshis paent
Moses Griffith

Ganwyd: 25 Mawrth 1747. m. 11 Tachwedd 1819

Magwyd: Bryncroes, Pen Llŷn

Addysg: Ysgol Rad Botwnnog


Arlunydd dyfrliw ac ysgythrwr a weithiai i'r naturiaethwr arloesol Thomas Pennant.

Ganwyd Moses Griffith yn Nhrygarn ym mhlwyf Bryncroes ym mhen draw Llŷn yn fab i Anne Griffith a Griffith William, labrwr wrth ei alwedigaeth. Cafodd ei fedyddio ym Motwnnog a chael rhywfaint o addysg yno, yn yr ysgol rad oedd yn cael ei rhedeg gan yr Eglwys.

Cafodd ei gyflogi fel gwas gan y naturiaethwr Thomas Pennant, sgweiar Downing yn Sir y Fflint, yn 1769 pan oedd yn 22 oed, o bosib oherwydd ei allu fel arlunydd, a threfnodd Pennant iddo deithio'r wlad gydag ef er mwyn creu darluniau ar gyfer ei wahanol lyfrau.

Cafodd gartref yn Gwibnant, un o dai'r stâd, a bu'n byw yno gyda'i wraig Margaret Jones, a briododd yn 1781, a'u dau blentyn, Moses a Margaret.

Roedd Griffith yn gweithio fel cydymaith a chofnodwr gweledol i Thomas Pennant ar ei deithiau gwyddonol a naturiaethol. Yn ei hunangofiant, The Literary Life, mae Pennant yn cyfeirio ato fel arlunydd ac ysgythrwr medrus ac yn dweud bod ganddo gryn allu fel cerddor hefyd. Aeth gyda Pennant ar ei holl deithiau o 1769 hyd 1790, a defnyddiwyd ei ysgythriadau i ddarlunio amryw o lyfrau ei feistr, yn enwedig yn y cyfrolau'n disgrifio'u teithiau yng Nghymru ac yn yr Alban.

Mae llawer mwy o'i ddarluniau dyfrliw gwreiddiol ar gael, yn enwedig darluniau o eglwysi a phlastai a golygfeydd eraill yng Nghymru a Lloegr, a defnyddiwyd nifer ohonynt i addurno copïau argraffedig o waith Pennant gan gynnwys Tour in Wales, 1778, ac A Journey to Snowdon yn 1781. Drwy'r cyhoeddiadau yma daeth Griffith yn adnabyddus i'r cyhoedd ac, oherwydd brwdfrydedd ei feistr, daeth pobl i wybod am ei weithiau dyfrliw.

Moses Griffith hefyd oedd yn gyfrifol am lawer o'r darluniau o anifeiliaid, adar a physgod sydd yn llyfrau Pennant ar hanes natur, ac mae'n amlwg hefyd, o gyfres o fân-ddarluniau o'i waith sydd ar gael, fod ganddo allu fel paentiwr portreadau.

Aeth Griffith ar ei daith gyntaf gyda Pennant yn ystod ei flwyddyn gyntaf dan ei gyflogaeth pan aethant i'r Alban gan gwblhau'r daith yn 1772 gydag ymweliad ag Ynysoedd Heledd. Ffrwyth y daith hon oedd A Tour in Scotland and Voyage to the Hebrides yn 1774.

Byddai Griffith yn gweithio i bobl eraill hefyd ond dim ond drwy ganiatâd ei feistr, a oedd yn aml yn gweithredu fel asiant iddo, e.e. pan gyfrannodd ddarluniau i The Antiquities of England and Wales gan Francis Grose (1772-87).

Weithiau roedd Griffith yn ysgythru ei ddyfrliwiau ar gopr ei hun, ond byddai ysgythrwyr eraill yn cael eu defnyddio i ddehongli ei waith hefyd.

Bu farw Thomas Pennant yn 1798 ond roedd wedi gwneud yn siŵr fod Moses Griffith yn parhau i fod yn rhan o'r teulu yn ei ewyllus a bu'r arlunydd yn byw yn Gwibnant ac yn gweithio i'w fab, David Pennant, hyd ei farwolaeth.

Ymysg gweithiau mwyaf nodedig Griffith mae argraffiadau o Tour in Wales a gyhoeddwyd ar bapur mawr gyda phaentiadau gwreiddiol. Cyhoeddwyd y copïau ar gyfer noddwyr gan gynnwys Syr Watkin Williams Wynn, Syr William Burrell a William Storer - yn ei gopi ef yng ngholeg Eton mae'r wybodaeth yma wedi ei chofnodi.

Mae copi Pennant ei hun, sy'n cynnwys mwy fyth o ddarluniau, yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Yno hefyd mae copi llawn darluniau o The History of the Parishes of Whiteford and Holywell (1796) gan Pennant, sy'n cynnwys golygfeydd diwydiannol nodedig, law yn llaw â lluniau mwy cyffredin o dirluniau a phortreadau.

Mae dau hunan bortread wedi goroesi o Moses Griffith - un ohono yn ŵr ifanc, chwithig-yr-olwg, a'r llall mewn gwth o oedran. Bu farw ar 11 Tachwedd 1819 yng Ngwibnant a chafodd ei gladdu ym mynwent Chwitffordd.

Ym 1990, aeth Grŵp Pennant (Cymdeithas Thomas Pennant bellach) ati i adnewyddu bedd Moses Griffith a dadorchuddiwyd y feddfaen a chofeb iddo yn y fynwent.

Ar y cyd â Chyfeillion Llŷn mae'r gymdeithas hefyd wedi codi cofeb lechen i'r arlunydd ar wal ei hen gartref yn Nhrygarn, Llŷn, hefyd.

Daeth rhan helaeth o'r wybodaeth ar y dudalen hon o'r Oxford Dictionary of National Biography a Bywgraffiadur y Llyfrgell Genedlaethol ar-lein.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy