Un o delynorion mwyaf blaenllaw'r Gymru gyfoes.
Ganed Elinor Bennett yn Llanidloes, a symudodd hi a'i theulu i Lanuwchllyn ger y Bala pan oedd yn chwe mlwydd oed. Aethant i fyw i'r Gwyndy, tŷ oedd yn rhan o hen gartref OM Edwards, y Neuadd Wen. Aeth Elinor a'i chwaer i'r ysgol gynradd leol cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Bala i Ferched, sef Ysgol y Berwyn erbyn hyn.Pan gyrhaeddodd y teulu Lanuwchllyn, ymunodd tad Elinor â chôr llwyddiannus y pentref, Côr Godre'r Aran. Aeth yr holl ffordd i'r Dorchester yn Park Lane yn Llundain i'w cyngerdd cyntaf a daeth yn ôl adref ar y trên wedi prynu telyn i'w ferched.
Meddai Elinor: "Y cyfan dwi'n ei gofio ydy deffro un bore yn chwe mlwydd oed, a gweld y peth gorgeous yma mewn clawr pinc yng nghornel y 'stafell. Doeddwn i erioed wedi gweld telyn o'r blaen. Roedd yn dipyn o benderfyniad i fy nhad ei phrynu, ond dywedodd ei bod ar fy nghyfer i a fy chwaer pan fydden ni'n hŷn."
Ei hathrawes telyn gyntaf, yn 11 mlwydd oed, oedd Alwena Roberts o Bwllheli, a fyddai'n teithio o amgylch gogledd Cymru yn dysgu'r offeryn.
Ar ôl gadael yr ysgol, penderfynodd Elinor fynd i Aberystwyth i astudio'r gyfraith oherwydd, mae hi'n tybio, fod athro'r gyfraith Syr David Huws Parry, a oedd yn briod â merch OM Edwards, yn byw drws nesaf iddi yn y Neuadd Wen.
Meddai Elinor: "Doedd gen i ddim syniad beth arall i'w wneud ar ôl yr ysgol. Wnes i 'rioed feddwl o ddifri' am ddilyn gyrfa gerddorol. 'Doeddwn i ddim wedi astudio cerdd yn yr ysgol ac felly wnaeth o erioed croesi fy meddwl i."
Ar ôl graddio yn y Gyfraith, aeth Elinor i weithio mewn swyddfa gyfreithiol yn Llundain - "gwaith digon diflas," meddai. Penderfynodd ymgeisio am ysgoloriaeth i astudio yn Academi Gerddoriaeth Frenhinol Llundain gydag Osian Ellis. Fe enillodd yr ysgoloriaeth ac mae'n dweud iddi gael tair blynedd gwych yn byw yn y brifddinas.
Erbyn hyn mae Elinor Bennett yn un o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru ac wedi chwarae'r delyn i gynulleidfaoedd ar draws y byd. Mae hi yr un mor gyfforddus yn chwarae darnau traddodiadol a chyfoes fel ei gilydd, ac wedi rhannu llwyfan gyda Cerys Matthews.
Mae hefyd wedi gweithio efo arweinwyr byd-enwog fel Barbirolli, Boult, Britten, Leinsdorf a Colin Davis ac wedi cyhoeddi dros 12 o recordiau dros y blynyddoedd.
Yn 1985, enillodd Wobr Churchill, â'i galluogodd i ymweld ag Awstralia i astudio therapi cerddoriaeth, a gwnaeth lawer i gefnogi'r maes yng Nghymru pan ddychwelodd.
Caiff ei chydnabod fel un o brif athrawesau Prydain ar y delyn ac ymysg ei chyn-ddisgyblion mae Catrin Finch sydd bellach yn briod â'i mab, Hywel, sydd hefyd yn gerddor. Bellach yn byw yn Bontnewydd ger Caernarfon ers blynyddoedd, mae ganddi hi a'i gŵr, y cyn Aelod Seneddol ac Aelod yn y Cynulliad, Dafydd Wigley, hefyd ferch o'r enw Eluned Haf.
Mae'n teimlo'n gryf dros drosglwyddo ei chariad at gerddoriaeth ymlaen i'r genhedlaeth nesaf ac mae'n gwneud hyn drwy ei gwaith fel cyfarwyddwr artistig i Ganolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon.
"Dwi'n teimlo fod cerddoriaeth yn bwysig ofnadwy," meddai. "Heb gerddoriaeth, mi fyddai fy mywyd i wedi bod yn ofnadwy, ac mae'n ffordd o fyw i mi."