BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
cantorion
Arfon Wyn
Arfon Wyn

Addysg: Ysgol David Hughes, Porthaethwy; Prifysgol Cymru, Bangor.


Athro, canwr a chyfansoddwr.

Magwyd Arfon Wyn yn Llanfairpwll, a mynychodd Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy. Aeth ymlaen i astudio Diwinyddiaeth ac Addysg Arbennig ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Tra yn yr ysgol, ffurfiodd fand roc trwm o'r enw Yr Atgyfodiad - aeth rhai o'r aelodau ymlaen i ffurfio Brân, band a gafodd gryn sylw yn y 70au.

Yn y coleg, ffurfiodd y band Pererin, oedd yn fwy gwerinol ei naws gydag elfennau o genhadu Cristnogol yn y caneuon. Bu'r band yn boblogaidd ar y gylchdaith Geltaidd, gan berfformio yn rheolaidd yn Llydaw ac Iwerddon.

Ar ôl gadael y coleg, bu Arfon Wyn yn dysgu yn ysgolion arbennig Pendalar yng Nghaernarfon a Hafod Lôn ger Pwllheli, lle bu'n brifathro am naw mlynedd. Gwnaeth waith pwysig yno yn arloesi dulliau o ddysgu plant ag anghenion arbennig, ac mae bellach yn brifathro ar Ysgol Gynradd Biwmares, gan ganolbwyntio'n arbennig ar brif-ffrydio addysg arbennig.

Arfon Wyn gyda rhai o aelodau'r Moniars Ar ôl i Pererin ddod i ben ddiwedd yr 80au, bu bwlch tan iddo ffurfio ei fand nesaf, Y Moniars. Y bwriad oedd creu band ar linellau The Pogues Cymraeg, ac yn wir roedd blas mwy Gwyddelig a Cajun ar y gerddoriaeth y tro hwn, a buan yr enillodd y Moniars ei blwyf fel un o fandiau byw mwyaf prysur a phoblogaidd Cymru. Hyd yma, maent wedi rhyddhau pum casgliad, sy'n llwyddo i ail-greu llawer o hwyl ac egni byw y band: Fe Godwn Eto (1992), I'r Carnifal (1993), Y Gorau o Ddau Fyd (1995), Hydnoed Nain yn Dawnsio (1995). Mae'r casgliadau yn

Bu'r Moniars o'r cychwyn yn fand a roddodd gyfle a dechreuad i sawl cerddor ifanc, ac roedd Harbwr Diogel (2002) yn cynnwys caneuon gyda'r gantores Elin Fflur - bu Arfon Wyn yn canu gyda'i mam, Nest Llywelyn, flynyddoedd ynghynt, yn Yr Atgyfodiad. Roedd y gân a roddodd deitl i'r albym eisoes wedi ennill gwobr Cân i Gymru, gwobr yr oedd Arfon Wyn wedi ei hennill yn barod gyda'r gân Cae o Yd. Mae eu halbym ddiweddaraf Edrych Ymlaen at Edrych yn Ôl (2005) yn cynnwys llais y gantores Sara Mai o Gaernarfon, a llu o gerddorion ifanc eraill.

Prin bod penwythnos yn mynd heibio nad yw'r Moniars ac Arfon Wyn yn perfformio'n egniol mewn gŵyl neu sioe ar draws Cymru, a bydd eu dilynwyr ffyddlon am sicrhau mai felly y bydd am flynyddoedd i ddod.

Shon Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy