BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bywyd Cyhoeddus
Snowdon Lodge, man geni TE Lawrence
T E Lawrence

Ganwyd: 16 Awst 1888 yn Nhremadog

Magwyd: Rhydychen yn bennaf

Addysg: Prifysgol Rhydychen


Swyddog ym myddin Prydain a ddaeth yn enwog am arwain y gwrthyryfel Arabaidd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

A wyddech chi: Defnyddir yr ystafell lle ganwyd Lawrence fel toiled yng Ngwesty'r Snowdon Lodge.

Adnabyddir Lawrence bellach fel Lawrence o Arabia oherwydd ei ran yn y gwrthryfel a sicrhaodd fuddugoliaeth byddin Prydain yn erbyn Ymerodraeth Twrci. Anfarwolwyd ei anturiaethau yn y ffilm enwog Lawrence of Arabia a enillodd saith Oscar gyda Peter O'Toole yn chwarae rhan Lawrence.

Fe'i ganwyd yn Nhremadog gan fod ei deulu yn digwydd aros yno ar y pryd ar ôl ffoi o'r Iwerddon. Gorfu i'w dad, Robert Chapman, ail fab teulu o dirfeddianwyr o Iwerddon, adael ei gartref oherwydd iddo syrthio mewn cariad ag athrawes ei ferch, Sarah Lawrence. Pan ddaeth ei wraig i wybod am eu perthynas, symudodd Chapman i Ddulyn at Sarah cyn i'r ddau symud wedyn i Dremadog. Buont yn byw yn yr Alban a Ffrainc cyn cartrefu yn y pendraw yn Rhydychen.

Enillodd Lawrence radd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern o Goleg yr Iesu yn Rhydychen a dewis gyrfa fel archeolegydd gan deithio ar draws y Dwyrain Canol a gweithio yn Archamish yn arbennig.

Ond ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd â'r Gwasanaeth Gwybodaeth Cudd yn Cairo lle bu'n gweithio ar gynlluniau i sbarduno ac arwain gwrthryfel ymhlith yr Arabiaid. Er iddo gael ei ddal a'i boenydio sawl gwaith, roedd Lawrence yn allweddol ym muddugoliaeth y Prydeinwyr ar yr Ochr Ddwyreiniol. Gan wisgo dillad traddodiadol Arabaidd, arweiniodd Lawrence y gwrthryfel ac arwain ei ddynion i'r anialwch er mwyn gadael y ffordd yn glir i fyddin Prydain ymosod ar Syria a Phalesteina.

Yn ddiweddarach, ymunodd ag adran ddiplomataidd y Dwyrain Canol cyn newid ei enw i T E Shaw ac ymuno â'r RAF fel mecanig. Roedd ganddo gariad mawr at fotobeics ac fe brynodd sawl model George Brough, y rhai cyflymaf bryd hynny. Yn 1935, fe'i lladdwyd mewn gwrthdrawiad motobeic. Gosodwyd carreg goffa iddo yn Eglwys St Martin yn Eglwys Wareham, Dorset.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy