BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bywyd Cyhoeddus
Syr Ifan ab Owen Edwards
Syr Ifan ab Owen Edwards

Ganwyd: 1895

Magwyd: Llanuwchllyn ger y Bala


Sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru

"Beth wnawn ni blant Cymru, i gadw'r iaith yn fyw? Sefydlwn Urdd newydd a cheisiwn gael pob plentyn dan ddeunaw i ymuno â ni."

Ganwyd Ifan ab Owen Edwards yn Llanuwchllyn ger y Bala yn 1895 yn fab i Owen Morgan Edwards, yr addysgwr uchel ei barch. Mae cerflun o'r tad a'r mab wedi ei godi yn Llanuwchllyn ac mae i'w weld ar ochr y brif ffordd o'r Bala wrth ichi basio'r troad am y pentref.

Cofeb i OM Edwards a Syr Ifan ab Owen EdwardsYn ŵr ifanc, aeth i Goleg y Brifysgol Aberystwyth i astudio hanes. Gwasanaethodd fel milwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna fel athro yn Nolgellau.

Fel ei dad o'i flaen, roedd yn awyddus i ddiogelu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mewn erthygl yn 1922 yn y cylchgrawn i blant, Cymru'r Plant, a sefydlwyd gan ei dad, fe wnaeth gais anarferol. 'Beth wnawn ni blant Cymru, i gadw'r iaith yn fyw? Sefydlwn Urdd newydd a cheisiwn gael pob plentyn dan ddeunaw i ymuno â ni.'

Yn sgîl yr apêl hon, sefydlodd Urdd Gobaith Cymru. Dim ond 700 o aelodau oedd gan y mudiad yn 1922 ond erbyn heddiw mae'r ffigwr yn nes at 50,000. Treuliodd Syr Ifan weddill ei oes yn hyrwyddo'r mudiad a'r egwyddorion sylfaenol roddodd fod i'r mudiad sef gwasanaethu Cymru, cyd-ddyn a Christ. Fe'i gwnaethpwyd yn farchog yn 1947.

Yr Ysgol Gymraeg gyntaf
Ymsefydlodd Ifan ab Owen Edwards a'i deulu yn Aberystwyth ac yn 1939 agorodd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yno. Dim ond saith oedd ar y gofrestr a'r ddiweddar Norah Isaac oedd yr athrawes. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 81 o blant a phedwar athro yn Ysgol Lluest. Er mai ysgol breifat oedd yr ysgol, cydnabyddir mai'r ysgol hon arweiniodd at sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill ar draws Cymru.

Arloeswr Ffilm
Roedd Syr Ifan yn arloeswr ffilm hefyd. Ef yn wir oedd y cyntaf i wneud ffilm Gymraeg, sef y Chwarelwr a ddangoswyd am y tro cyntaf yn 1937. Fel rhan o'i gynllun i hyrwyddo'r Gymraeg, fe deithiodd Syr Ifan Gymru benbaladr yn dangos y ffilm. Mae'r ddau fab hefyd wedi bod yn amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Owen Edwards oedd Cyfarwyddwr cyntaf S4C yn 1982 ac mae ei frawd Prys Edwards yn ddyn busnes amlwg, yn gyn Gadeirydd Bwrdd Twristiaeth Cymru ac yn Llywydd Anrhydeddus yr Urdd.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy