BBC HomeExplore the BBC

LLUN
30ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bywyd Cyhoeddus
Megan Lloyd George
Megan Lloyd George

Ganwyd: 1902 yng Nghricieth

Magwyd: Llundain


Y ddynes gyntaf i fod yn Aelod Seneddol Cymreig.

Megan Arvon Lloyd George oedd merch ieuengaf y gwleidydd a'r gwladweinydd, David Lloyd George a'i wraig gyntaf, Margaret. Er mai yng Nghricieth y ganed Megan, fel pob un o blant y teulu, cafodd ei magu yn Llundain.

Rhwng chwech ac 14 oed, Stryd Downing oedd cartref y teulu - rhif 11 i ddechrau pan wnaed ei thad yn Ganghellor ac yna rhif 10 pan gafodd ei wneud yn Brif Weinidog yn 1916.

Fel yr ieuengaf o bum plentyn David a Margaret, Megan oedd cannwyll llygad ei rhieni ac roedd ganddi berthynas glos iawn gyda'i thad. O'r dechrau roedd yn rhan o ferw bywyd gwleidyddol ei thad yn helpu i ganfasio drosto ac yn cael sgyrsiau astrus am bolisïau ag o.

Byddai'n aml yn diddanu ymwelwyr â 10 Stryd Downing a châi ei galw yn 'the darling of Downing Street'.

Cafodd ei haddysg gan diwtoriaid preifat yn y cartref ac mewn ysgolion preifat cyfagos a dangosodd dalent arbennig at ddysgu ieithoedd ac actio. Mynnodd ei rhieni mai Cymraeg oedd iaith yr aelwyd a chafodd ei thrwytho yng Nghymraeg coeth Eifionydd, gan ei mam yn arbennig.

Yn 1928, yr un flwyddyn ag y cafodd merched o dan 30 oed bleidleisio am y tro cyntaf, enwebwyd Megan i fod yn ymgeisydd Rhyddfrydol ym Môn ac fe'i hetholwyd i'r sedd yn 1929. Daeth yn ddirprwy bennaeth ar ei phlaid ac yn ffigwr amlwg mewn gwleidyddiaeth.

Yn etholiad 1951, wedi dal sedd Môn am dros 20 mlynedd, collodd yr etholiad o fwyafrif bychan i'r ymgeisydd Llafur ifanc, Cledwyn Hughes.

Roedd Megan yn cefnogi Senedd Ffederal i Gymru a chafodd ei hethol yn llywydd yr ymgyrch dros Senedd i Gymru yn 1950 gan arwain y mudiad tan 1956. Llwyddodd hefyd i arwain y gwrthwynebiad i gynllun i godi gorsaf trydan-dŵr yn Nant Gwynant yn 1955.

Ym 1955, trodd oddi wrth y Rhyddfrydwyr ac ymuno â'r Blaid Lafur, plaid oedd wedi bod yn fwy cydnaws â'i syniadaeth wleidyddol hi ei hun ers tro. Fe'i hetholwyd yn aelod seneddol Llafur dros Gaerfyrddin yn 1957 ac mi gadwodd y sedd honno tan ei marwolaeth o gancr yn 1966, dri mis wedi iddi ennill y sedd am y tro olaf.

Etifeddodd Megan ddawn areithio ei thad yn ogystal â'i bersonoliaeth fyrlymus a bywiog a'i wleidyddiaeth radicalaidd. Ni phriododd, gan wasanaethu ar hyd ei hoes fel gwleidydd proffesiynol a oedd yn bencampwr hawliau merched, y difreintiedig ac achosion Cymreig.

Fel ei rhieni, roedd yn Eisteddfodwraig frwd a chafodd ei derbyn yn aelod o'r Orsedd yn 1935. Etifeddodd gartref y teulu ym Mryn Awelon, Cricieth, gan ei mam a threuliai lawer o'i hamser yno.

Cyfrannwch

Gwyn Buckland - Llandegfan
Erthygl ddiddorol iawn ar fywyd Megan Lloyd George - Am amser bu fy mam yn gweini mewn shop yng Nghricieth Siop "Cloth all" yn yr un amser y by ei thad yn prif weinidog yn Llundain. Arferai ac addoli yn yr un capel a Mrs Lloyd George a'i ddau mab ac y daeth i adnabod rhan yna or teulu yn dda iawn. Addolai y prif weinidog a'i ddwy ferch yng nghapel y bedyddwyr yng Nghricieth. Cyflog fy mam yn y siop oedd £7.10 swllt pob chwarter blwyddyn.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy