BBC HomeExplore the BBC

GWENER
10fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Arloeswyr
Esgob William Morgan
Yr Esgob William Morgan

Ganwyd: 1545

Magwyd: Wybrnant, Penmachno

Addysg: Gwydir a Phrifysgol Caergrawnt


Y gŵr a gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg dros bedwar can mlynedd yn ôl.

Mae William Morgan yn un o gewri hanes Cymru a'i gyfraniad i oroesiad yr iaith Gymraeg yn amhrisiadwy.

Mae ei gartref, Tŷ Mawr Wybrnant ym Mhenmachno, bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyn iddo gael ei ordeinio yn yr Eglwys, bu'n astudio yng Nghaergrawnt.

Urddwyd ef yn offeiriad yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, ac yna yn Archesgob yn Llanelwy yn 1601. Ond, heb amheuaeth, ei gyfraniad pennaf oedd ei waith mawr yn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Cwblhaodd y gwaith yn 1588 a hynny ar gais y Frenhines Elizabeth I . O'r diwedd, gallai'r Cymry ddarllen yr Ysgrythurau yn eu hiaith eu hunain am y tro cyntaf a, thrwy hynny, medd llawer, diogelwyd y Gymraeg.

Roedd y Testament Newydd wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg yn barod gan William Salesbury yn 1567, ond rhoddodd cyfieithiad yr Esgob Morgan ffurf ac orgraff ffurfiol a safonol ysgrifenedig i'r Gymraeg. Mae'n llawn o dermau hynafol, sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng iaith y Beibl ac iaith bob dydd y bobl yn amlwg o'r dechrau.

Newidiodd William Morgan hefyd rai geiriau Cymraeg de Cymru am eiriau Cymraeg y gogledd, fel 'cenllysg' yn lle 'cesair'. Mae'n bosib mai dyma ddechreuodd y syniad bod Cymraeg y gogledd yn rhagori ar Gymraeg y de.

Ond fe roddodd ehangder yr eirfa a barddoniaeth y cyfieithiad iaith aruchel i'r Cymry, yn wahanol iawn i'w brodyr a'u chwiorydd Celtaidd yng Nghernyw, yr Alban ac Iwerddon. Bob Sul, a hynny gyda sêl bendith frenhinol, fe fyddai cynulleidfaoedd Cymraeg yn clywed Cymraeg urddasol o'r pulpud. Roedd hyn yn gyfraniad aruthrol i sicrhau parhad yr iaith.

  • Yn 2004, cafwyd cyfres o ddigwyddiadau i nodi 400 mlwyddiant marwolaeth yr Esgob William Morgan - cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy