BBC HomeExplore the BBC

GWENER
18fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Arloeswyr
Plac er côf am Morrisiaid Môn
Morrisiaid Môn

Ganwyd: 1700au

Magwyd: Llanfihangel-tre'r-beirdd

Addysg: Cartref


Cyfranwyr i lenyddiaeth Cymru.

Aeth y Parchedig Dafydd Wyn Wiliam ati i sefydlu Cymdeithas Morrisiaid Môn yn 1997 i ddathlu bywydau'r brodyr, a'u cyfraniad i lenyddiaeth Cymru.

"Teulu digon bach yn tarddu o ogledd ddwyrain Môn oedd y Morrisiaid. Ond gyda'i gilydd, ffurfiwyd un o'r teuluoedd hynotaf â gafodd cenedl Cymry erioed.

Morris Prichard oedd y tad, a'i wraig oedd Marged. Cawsant bump o blant rhwng 1701 a 1713; Lewis, Richard, Wiliam, Elin a Siôn. Ganed y tri chyntaf yn Llanfihangel-tre'r-beirdd, a'r ddau olaf ym Mhenrhosllugwy, lle cawsant eu magu.

Roedd yr ardal yn un ddiwylliedig, ond hefyd yn un wledig iawn. Byddai'r plant yn cyfeirio at y pentref cyfagos fel 'City Dulas'!

Roeddynt yn byw yn fferm Pentre Eiriannell ac er na chafodd eu rhieni lawer o addysg swyddogol, roedd eu Cymraeg yn bur ar eu gwefusau a'r naill a'r llall efo diddordeb mawr mewn diwylliant. Meithrinwyd y plant ar yr aelwyd a chawsant eu hyfforddi i ddarllen yn gynnar. Gellir dweud iddynt 'yfed eu dysg'; nhw sy wir bia'r ymadrodd yna.

Erbyn bod y meibion yn eu harddegau, roeddynt yn medru rhigymu a llunio englynion ac roeddynt hefyd yn gerddorol, yn chwarae'r delyn, y ffidil, y crwth a'r pibgorn; offerynnau a welid ar yr aelwyd.

Croes fel cofeb i Morrisiaid Môn Roedd ganddynt hefyd ddiddordeb mewn mathamateg, daearyddiaeth, ffosiliau a hanes. Yn y man trefnodd y tri brawd hynaf eu trysorau megis cregyn, cerrig a phethau eraill mewn cwpwrdd arbennig.

Roedd y plant yn gyfarwydd â gwaith y fferm, ond 'doedd y rhieni ddim eisiau i'r meibion fynd i drin y tir achos bod eu brestiau yn gaeth. Ond dysgodd y meibion wrth helpu eu tad, oedd hefyd yn fasnachwr ac yn cludo nwyddau yn ei long.

Lewis
Roedd Lewis yn un aflonydd a dysgedig. Mi ddaru un o dirfeddianwyr mwyaf Môn, Owain Meurig, Bodorgan, ofyn iddo fapio ei holl diroedd. Roedd Lewis â'r gallu i feistroli unrhyw bwnc a chyflawnodd y gwaith yma'n gampus.

Yna aeth yn swyddog y doll yng Nghaergybi, swydd a neilltuid fel arfer i'r dosbarth canol breintiedig. Roedd wrth ei fodd, gyda digon o amser hamdden i ddarllen a barddoni, llunio rhyddiaith a throi ymhlith beirdd Môn.

Ond roedd o'n uchelgeisiol a chafodd swydd gan y goron i wneud arolwg o arfordir gorllewin Cymru. Ac yn wir i chi, er llawer o rwystrau, mi ddaru o gyflawni'r gwaith heidrograffig hwnnw ac mae'r ddwy gyfrol o siartiau i'w gweld yn y swyddfa heidrograffig yn Taunton.

Ond 'doedd Lewis ddim yn fodlon gyda hynny. Aeth ati i geisio gwneud ei ffortiwn drwy gloddio am fwynau, fel plwm a sinc. Ond er iddo fuddsoddi cryn dipyn o'i arian, methu ddaru o yn y fenter hon.

Aeth i Aberteifi fel swyddog i'r goron i arolygu cloddio am fwynau ar eu cyfer nhw. Ond daeth sawl un ag achos llys yn ei erbyn yn honni anonestrwydd - er mi ddoth yn rhydd o'r holl helyntion; hynny efallai am ei fod yn adnabod dynion pwerus, gan gynnwys y Prif Weinidog.

Er hyn i gyd, roedd o'n parhau i lunio barddoniaeth, casglu llawysgrifau a llythyru gyda gŵyr dysgedig. Aeth ati hefyd i sefydlu cymdeithas y Cymmrodorion, sy'n dathlu etifeddiaeth Cymru yn Llundain, ac yn parhau hyd heddiw.

Richard Morris
Yn 13 mlwydd oed, cymerodd yn ei ben i fynd ati i gasglu nifer o gerddi ac englynion gan ei ddwy nain, ei rieni a'i gyfoedion. Mae'r llawysgrif a luniwyd ganddo wedi goroesi ac yn un o bethau hynotaf ein hetifeddiaeth lenyddol ni.

Cerfiad ar ben croes er cof am Morrisiaid Môn. Ar ôl meistroli gwaith saer yn ifanc, aeth i Lundain yn 19 mlwydd oed. Bu mewn helbulon a bu yn dlawd iawn ond yn y diwedd cafodd swydd gyda'r llynges. Roedd yn is-lywydd Cymdeithas y Cymmrodorion.


Wiliam
Roedd hwnnw wedi mynd i Lerpwl lle y bu am ddeng mlynedd yn glerc i fasnachwr oedd yn hanu o Fôn. Mi ddychwelodd i Gaergybi i weithio gyda Lewis fel swyddog y doll, a hefyd - fel ei frodyr hŷn - casglu hen lawysgrifau Gymreig.

Elin
Er ei bod hi'n ferch ddawnus iawn, nid oedd cyfle iddi wneud mwy na llafurio a gweini ar yr aelwyd.

Siôn
Trodd y mab ieuengaf at y môr, ar ôl cael blas ar hwylio i Gaernarfon, Lerpwl a Dulyn gyda'i dad. Fe ddaeth yn rhyfel yn erbyn y Sbaenwyr, ac fe aeth ar long i India'r Gorllewin. Ond cyn cyrraedd yr ymladd, bu farw o haint ar Ynys Dominica yn 1740.

Roedd gan y pedwar brawd freuddwydion mawr, ac er ddaru nhw ddim gwireddu pob un, gwnaethant lawer i newid hanes Cymru. Trwy eu gweithgarwch nhw ac eraill, cafodd y traddodiad clasurol ei adfywio oherwydd eu gweledigaeth a'u hymroddiad."

Mae Dafydd Wyn Williams wedi ysgrifennu sawl cyfrol ar fywydau Morrisiaid Môn.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy