BBC HomeExplore the BBC

IAU
10fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Arloeswyr
Michael D Jones
Michael D Jones

Ganwyd: 1822

Magwyd: Y Bala


Cymro sy'n enwog am ei ran yn sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia

Ar ôl dod yn anfodlon â bywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru yn y 19eg ganrif, daeth Michael D Jones yn ganolog i'r gwaith o sefydlu gwladfa newydd Gymreig i dros 150 o Gymry ym Mhatagonia.

Roedd Michael D Jones yn Gristion ymroddedig ac ar y pryd yn Brifathro Coleg Diwinyddol y Bala. Roedd hefyd yn feirniadol iawn o'r tirfeddianwyr Ceidwadol, a oedd, yn ei farn ef, yn trin y werin fel baw.

Ni chredai fod ymfudo i America ac Awstralia, fel oedd y werin yn ei wneud yn eu miloedd ar y pryd, yn ateb y broblem chwaith gan nad oedd modd cadw'r iaith Gymraeg yn fyw yno.

Chwiliodd felly am le a fyddai'n rhoi cyfle i'r Cymry arddel eu diwylliant eu hunain. Derbyniodd adroddiadau ffafriol iawn am Ddyffryn y Chubut ym Mhatagonia, ardal denau ei phoblogaeth yn yr Ariannin.

Hwyliodd 153 o Gymry ar y Mimosa o Lerpwl ym 1865 am Batagonia ac heb yn wybod iddyn nhw ar y pryd, i wynebu blynyddoedd o galedi. Dau amaethwr yn unig oedd ymhlith y criw arloesol - a phedwar gweinidog! Doedd gan y criw mo'r profiad amaethyddol felly i gynnal y wladfa newydd yn y blynyddoedd cynnar.

Ond, er gwaethaf y blynyddoedd anodd, fe lwyddodd Gwladfa Patagonia i gynnal ei Chymreictod tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd

Yn ddiweddar iawn, fe welwyd adfywiad mawr mewn diddordeb yn y diwylliant Cymreig ym Mhatagonia ac mae llawer yno yn dysgu'r Gymraeg eto.

Er iddo fod yn flaenllaw iawn yn y sefydlu, aros yng Nghymru a wnaeth Michael D Jones ei hun i godi arian at y fenter ac i hybu cenedlaetholdeb ymhlith y genhedlaeth ifanc fel y David Lloyd George ifanc.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy