BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Arloeswyr
Indiaid Mandan
John Evans Waunfawr

Ganwyd: 1770

Magwyd: Waunfawr


Mapiwr ac anturiaethwr a aeth ar drywydd 'Indiaid Cymraeg' America.

Magwyd John Evans yn Waunfawr ger Caernarfon. Wedi'i annog gan Iolo Morgannwg, aeth ar daith i America i chwilio am yr 'Indiaid Cymraeg' a oedd, yn ôl y gred, yn ddisgynyddion i'r tywysog Madog ab Owain o Wynedd.

Yn ôl y chwedl, hwyliodd Madog i America yn y ddeuddegfed ganrif ac ymsefydlu yno. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, roedd yn cael ei gysylltu â llwyth y Mandaniaid a chredid bod elfennau o'u hiaith yn debyg i'r Gymraeg.

Cyrhaeddodd John Evans Baltimore fis Hydref 1792 cyn bwrw ymlaen ar droed tua'r gorllewin i chwilio am 'lwyth coll' yr Indiaid llygatlas. Pan gyrhaeddodd St Louis, cafodd ei garcharu gan y Llywodraethwr Sbaenaidd cyn cael ei ryddhau, a mynd ati i gynorthwyo'r Albanwr James MacKay i sefydlu amddiffynfeydd ar hyd afon y Missouri ac agor ffordd tuag at y Môr Tawel.

Erbyn 1796, ar ôl gorfod dianc rhag yr Indiaid Sioux, llwyddodd John Evans i gyrraedd y Mandaniaid yng ngogledd Dakota.

Bu'n byw efo nhw dros y gaeaf a chafodd ddylanwad mawr arnynt. Ond daeth i'r casgliad yn ddiweddarach nad oedd cysylltiad rhwng y Mandaniaid a'r Cymry. Er hynny, gwnaeth gyfraniad pwysig i hanes America drwy fod y dyn gwyn cyntaf i fapio hynt yr afon Missouri y tu hwnt i'r pwynt lle mae'r Mississippi yn ymuno â hi.

Bu farw yn ddi-waith yn New Orleans yn 1799 yn ddim ond 29 mlwydd oed.

Ydych chi'n gwybod mwy am John Evans neu ydych chi'n un o'i ddisgynyddion? Gadewch inni wybod!

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy