BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
26ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Arloeswyr
Clough Williams-Ellis (chwith)
Clough Williams-Ellis

Ganwyd: 28 Mai 1883, Gayton, Swydd Northampton

Magwyd: Glasfryn, Pwllheli

Addysg: Ysgol Oundle, Coleg y Drindod, Caergrawnt ac Ysgol Sefydliad Pensaernïol yn Llundain


Pensaer Portmeirion, lleoliad y gyfres deledu boblogaidd o'r 1960au, The Prisoner.

Bertram Clough Willimas-Ellis oedd un o benseiri mwyaf gwreiddiol a dyfeisgar y ganrif ddiwethaf yn ogystal â bod yn ymgyrchydd brwd dros yr amgylchfyd.

Er iddo gael ei eni yn Lloegr, symudodd y teulu i Glasfryn, Pwllheli pan oedd o'n bedair oed. Aeth i Goleg y Drindod yng Nghaergrawnt, ond ni chafodd fawr ddim hyfforddiant ffurfiol fel pensaer. Dewisodd ddibynnu yn hytrach ar ei ddawn a'i ddealltwriaeth artistig gynhenid.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd â'r Gwarchodlu Cymreig ac ennill y Groes Filitariadd am ei ddewrder. Ym 1915 priododd Amabel Strachey, merch St Loe Strachey, golygydd a pherchennog cylchgrawn The Spectator.

Roedd Clough Williams-Ellis yn frwd dros bensaernïaeth amgylcheddol gyfeillgar ac fe hybodd y syniad o neilltuo ardaloedd gwyrdd o mewn dinasoedd ac ar y ffin ag ardaloedd gwledig.

Ond roedd ganddo freuddwyd fawr bensaernïol. Roedd o'n credu "y gallai rhywun ddatblygu hyd yn oed lleoliad arbennig o hardd heb ei ddinistrio gan roi digon o ofal cariad i wella ar yr hyn a greodd Duw." Aeth ati i chwilio am leoliad i'w freuddwyd ar draws y byd ond, yn y diwedd, dewisodd un yn ei filltir sgwar ei hun yn Eifionydd.

Adeiladwyd pentref hardd ac unigryw Portmeirion rhwng 1926-1939 ac yna rhwng 1954-1972. Mae'r adeiladau lliwgar yn ymdebygu i bentref Eidalaidd ar lan y môr.

Roedd yn un o sylfaenwyr Cyngor Diogelu Lloegr Wledig ac yn 1928, fe'i gwnaed yn aelod o'r Ymgyrch i Ddiogelu Cymru Wledig, ymgyrch y bu'n llywydd arni am dros 20 mlynedd.

Cafodd ei wneud yn farchog am ei wasanaeth i bensaernïaeth a'r amgylchfyd ym 1971.

  • Portmeirion: Breuddwyd un dyn
  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy