BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adloniant
Timothy Dalton
Timothy Dalton

Ganwyd: 21 Mawrth 1946, Bae Colwyn

Magwyd: Swydd Derby

Addysg: Belper, Swydd Derby


Actor llwyddiannus sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan James Bond.

"Dwi'n meddwl y basa unrhyw un yn wallgof i ddilyn Connery," oedd ymateb Timothy Dalton pan ofynwyd iddo chwarae rhan Bond yn wreiddiol.

Yn un o bump o blant, cafodd ei eni ym Mae Colwyn ar ôl i'w dad gael ei leoli yno yn ystod y rhyfel. Symudodd i Swydd Derby yn bedair oed a phan ddaeth ei ddiddordeb mewn actio i'r amlwg, ymunodd â'r Theatr Ieuenctid Genedlaethol lle perfformiodd yn Little Malcolm and his Struggle against the Eunuchs.

Daeth ei ran gyntaf mewn ffilm yn 1968 gyda Katherine Hepburn yn The Lion in Winter ac ymhlith ei ffilmiau eraill mae Permission to Kill a Flash Gordon.

Mae Dalton wedi cael llwyddiant mawr yn chwarae rhai o gymeriadau mwyaf rhamantaidd y sgrîn fel Mr Rochester mewn addasiad ar gyfer y teledu o nofel Jane Eyre a'r Heathcliffe gwyllt, llawn dirgelwch, yn Wuthering Heights.

Ond fel 007 y mae Dalton yn fwyaf adnabyddus er iddo wrthod rhan y sbïwr soffistigedig i ddechrau yn 1968. Efallai fod hyn wedi bod yn benderfyniad doeth iawn ar ei ran gan mai ychydig sy'n cofio'r actor a gymerodd drosodd gan Sean Connery, George Lazenby, yn On Her Majestys Secret Service!

Ond erbyn 1987, roedd Dalton yn fwy na pharod i ymgymryd â'r dasg o ddilyn Roger Morre ac fe wnaeth ddwy ffilm Bond sef Living Daylights a Licence to Kill cyn i Pierce Brosnan gymryd yr awenau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy