 |
 |
Awdur, cyfarwyddwr ffilm ac aelod o griw Monty Python
Er i deulu Terry Jones, neu Terence Graham Parry Jones o roi ei enw llawn, symud o Fae Colwyn i Claygate yn Surrey pan oedd yn bump oed, mae'n ystyried ei hun yn Gymro go iawn. Fe brofodd hynny, meddai, drwy gapteinio tîm rygbi'r ysgol!Aeth ymlaen i Rydychen i astudio Hanes y Canol Oesoedd ac mae ei ddiddordeb byw yn y pwnc wedi para hyd heddiw. Yn Rhydychen y cyfarfu â Michael Palin gan greu partneriaeth ysgrifennu comedi hynod lwyddiannus a weithiodd ar gyfresi fel At Last the 1948 Show a The Frost Report. Ar raglen Frost y cyfarfu'r ddau â gweddill y criw, sef John Cleese, Terry Gilliam, Graham Chapman ac Eric Idle. Fe fu Terry Jones yn ysgrifennu a pherfformio myrdd o gymeriadau cofiadwy gyda'r Pythons gan gynnwys mam Brian yn y ffilm a gododd wrychyn arweinwyr Cristnogol y dydd, Life of Brian. Ond fo hefyd a gyfarwyddodd lawer o'u ffilmiau, fel The Holy Grail (1975), Life of Brian (1979) a The Meaning of Life (1983). Ers hynny, mae wedi gweithio ar ei liwt ei hun ar ffilmiau eraill fel Personal Services, Erik the Viking a Labyrinth. Ar ôl magu teulu ei hun, aeth Terry ati i ysgrifennu ar gyfer plant a chyhoeddi llyfrau fel The Curse of the Vampire Socks, Fantastic Stories, Nicobonimus a, chyda'i hen gyfaill Michael Palin, Dr Fogg's Encyclopaedia of All Knowledge. Mae Terry Jones rŵan yn noddwr ar Theatr Colwyn.
 |
 |
 |
|

|