Reslwr a ddaeth yn enwog yng Nghymru a thu hwnt fel El Bandito
Yr oedd Orig Williams yn un feibion Ysbyty Ifan, Dyffryn Conwy ac yn ymfalchïo yn y ffaith. Dysgodd sut i focsio fel bachgen bach pan ddaeth tad y newyddiadurwr, Terry Lloyd, â'r pâr cyntaf o fenyg bocsio i Ysbyty Ifan. Roedd Orig yn ddeng mlwydd oed ar y pryd, a chan ei bod yn adeg y rhyfel, byddai'r bechgyn lleol yn ymladd gyda'r efaciwîs o Lerpwl."Ni'n methu siarad Saesneg, nhw'n methu siarad Gymraeg - roedd cael ffeit yn naturiol!" cofia Orig.
Roedd wastad wedi bod yn hoff o bêl-droed, ac aeth i chwarae'r gêm yn broffesiynol i Oldham Athletic, Shrewsbury Town a sawl tîm yng ngogledd Cymru. Ond nid oedd Orig wedi anghofio'r sgiliau reslo a bocsio a ddysgodd tra'n aelod o'r Llu Awyr, ac aeth ati i greu gyrfa lwyddiannus fel reslwr.
Cychwynodd fel un o'r reslwyr a fyddai'n teithio o amgylch y ffeiriau i ymladd â hogiau lleol.
Meddai Orig: "Mi fydda ni'n sefyll ar lwyfan tu allan i'r babell, yn herio pawb am ffeit ac yn gweiddi 'I'll give you £20 if you'll go three rounds with him!' Nes i ymladd efo dynion mwy na fi, a llai na fi - a llawer oedd wedi meddwi er mwyn cael chydig o dutch courage".
Aeth Orig wedyn i'r Dwyrain Pell i reslo o flaen tyrfaoedd o hanner can mil ar ddyddiau Gwener - diwrnod o seibiant i'r Mwslemiaid.
Cafodd yr enw El Bandito pan gyrhaeddodd America.
Meddai: "Ro'n i di dod o'r dwyrain pell lle roedd gan bawb fwstash fatha Mecsican. Ond pan gyrhaeddes i America, mi wnaeth un dyn ddeud 'Hey, this guy looks more like a bandit than a Mexican' ac felly y cefais i'r enw, El Bandito".
Yn ôl Orig mae adlais o fandits neu wylliaid Ysbyty Ifan yn yr enw hefyd! "Yn yr hen ddyddiau, roedd Watkin Williams Wynn neu pwy bynnag yn rhedeg yr ardal tu hwnt i'r afon ger Ysbyty Ifan," meddai.
"Roedd o'n hel pawb o'i dir, ac yn gordrethu ac ati. Felly byddai unrhyw ddyn oedd yn gallu dianc dros yr afon i blwyf Ysbyty Ifan yn cael llonydd - a felly roedd y lle yn llond pobl ddrwg!"
Daeth yn ôl i Gymru fel hyrwyddwr bocsio, gan ddylanwadu ar yrfa Randolph Turpin, un o bencampwyr pwysau canol y byd sydd â chysylltiad â Llandudno.
Orig hefyd oedd y cyntaf i gynrychioli merched oedd yn reslo.
"Er i rai bobl wfftio'r peth yn y 1960au, roedd y neuaddau'n llawn dop ar unwaith - roedd pobl yn dyheu am weld merched yn reslo," meddai.
Bu Orig yn ysgrifennu colofn wythnosol yn y Daily Post a chyn hynny i'r Cymro.
Yn 1985 cyhoeddodd ei hunangofiant, Cario'r Ddraig.
"Dwi'n cael mwynhad mawr o allu mynegi barn. Nid pawb syn cael y cyfle ac fel arfer y bobl pwysig syn cael ei wneud o. Dwi'n sgwennu dros y werin datws," meddai ar y pryd.
Bu farw yn 78 oed Tachwedd 12, 2009.
Marw Orig Williams
Cofio Orig