BBC HomeExplore the BBC

GWENER
27ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adloniant
Hugh Griffith
Hugh Griffith

Ganwyd: 30 Rhagfyr 1912

Magwyd: Marian-Glas

Addysg: Ysgol Ramadeg Llangefni


Actor a enillodd Oscar am ei ran yn Ben-Hur ac a serennodd yn y ffilm Grand Slam.

Wyddech chi?: Yn ôl yr hanes, pan ofynnwyd i Hugh Griffith "siarad rywbeth yn debyg i Arabeg" yn Ben-Hur, siaradodd mewn Cymraeg gan wneud i bawb o'i gwmpas feddwl ei fod yn medru Arabeg.

Mae Hugh Emrys Griffith yn un o'r Cymry prin hynny i ddod i'r brig ac ennill parch yn Hollywood a hynny flynyddoedd cyn i neb glywed sôn am Ioan Gruffudd.

Ganwyd Hugh Griffith ym Marian-Glas, Ynys Môn, yn fab i William a Mary Griffith ac fe'i haddysgwyd yn yr ysgol leol. Yn ddiweddarach fe safodd arholiadau i'r brifysgol ond fe fethodd y papur Saesneg a chafodd gyngor i ddewis gyrfa saffach mewn banc. Bu Hugh Griffith yn gweithio ar draws y gogledd i gwmni National Provincial yn Llandudno, Llangefni, yr Wyddgrug ac Abersoch.

Ond yn ei amser hamdden roedd yn hyfforddi aelodau ifanc yr Urdd mewn drama ac roedd yn awyddus i fod yn actor ei hun. Ar ôl symud i weithio yn Llundain, fe ymunodd â Theatr y Bobl yn St Pancras gan ennill lle yn RADA yn ddiweddarach - yr uchaf ar restr o 300.

Hugh Griffith yn Grand SlamRoedd Hugh yn ei nefoedd yn RADA. Enillodd Wobr Aur Bancroft fel actor Shakespearaidd gorau ei flwyddyn gan ennill bri arbennig yn chwarae'r Brenin Llŷr. Ond pan ddaeth y rhyfel, roedd rhaid iddo gymryd hoe o'i yrfa a mynd i wasanaethu fel milwr yn India a Burma.

Ond ar ôl adennill ei iechyd, fe ddychwelodd i'r llwyfan fel aelod o Gwmni Brenhinol Shakespeare cyn mynd i Hollywood efo'i briod Margaret Belgunder von Dechend yn 1947.

Fe gafodd ran yn un o ffilmiau enwoca'r ganrif ddiwethaf sef Ben-Hur fel Sheik Ilderim, cyfaill i'r tywysog Judah Ben-Hur a chwaraewyd gan Charlton Heston. Enillodd y ddau eu hunig Oscar fel actorion am eu rhannau yn Ben-Hur yn 1959 - Griffith am yr actor cynorthwyol gorau a Charlton Heston am yr actor gorau. Mae'r ffilm yn un o'r ychydig i gipio 11 Gwobr Academi.

Fe enwebwyd Griffith am Oscar eto ym 1963 am ei ran yn y ffilm Tom Jones ac hefyd yn y ffilm Oliver.

Daliodd ati i weithio tan ei farwolaeth yn 1980 gan chwarae rhannau mewn ffilmiau megis The Last Days of Dolwyn, The Sleeping Tiger, Exodus, Cry of the Banshee, Wuthering Heights, Loving Cousins, The Titfield Thunderbolt ar Passover Plot. Fe fydd gwylwyr teledu a dilynwyr rygbi yn cofio'i bortread o drefnwr angladdau yn y ddrama-gomedi Grand Slam efo Windsor Davies.

Cofeb i Hugh Griffith ar fur Hen Ysgol Marian-Glas Roedd Oscar Hugh Griffith yn cael ei gadw yng nghartref chwaer Hugh Griffith, Elen Roger Jones, hithau hefyd yn actores agos iawn at galon cynulleidfaoedd a gwylwyr teledu yng Nghymru.

Os methodd Hugh Griffith â mynd i'r brifysgol y tro cyntaf, cyflwynwyd gradd Doethur Llên er anrhydedd iddo cyn ei farwolaeth ym 1980 gan Goleg Prifysgol Bangor. Mae carreg goffa iddo ar wal ei hen ysgol gynradd ym Marian-Glas (uchod).


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy