BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adloniant
Super Furry Animals
Gruff Rhys

Ganwyd: 18 Gorffennaf 1970 yn Hwlffordd

Magwyd: Bethesda

Addysg: Ysgol Dyffryn Ogwen


Prif leisydd y Super Furry Animals

Trifia: Os oes ganddoch chi gopi o'r sengl 'The Man Don't ...' cadwch eich gafael arno fo gan eu bod nhw'n brin iawn - cafodd copi gwreiddiol y sengl ei ddileu ar ddiwrnod ei gyhoeddi.

Arferai Gruff Rhys chwarae yn yr un band â chanwr Celt, Martin Beattie, ym Methesda yn ei arddegau ond daeth i amlygrwydd yn nes ymlaen fel prif leisydd Ffa Coffi Pawb.

Ar ôl arwyddo i label Ankst, fe ddaeth Ffa Coffi yn un o brif fandiau Cymru gan ryddhau tair albwm - Clymhalio, Dalec Peilon a Hei Vidal. Pan chwalodd y grŵp yn 1993, aeth Gruff i astudio celf yn Barcelona am gyfnod cyn mynd ati gyda'r drymiwr Dafydd Ieuan o Roscefnhir i ffurfio'r Super Furry Animals.

Aelodau'r grŵp bellach ydy Gruff y lleisydd, Dafydd ar y drymiau, Cian Ciaran, brawd Dafydd ar yr allweddellau, Huw 'Bunf' Bunford ar y gitâr a Guto Price ar y gitâr fâs.

Yn 1995, fe arwyddodd y band i label Creation Records. Yn ôl y stori, gofynnodd Alan McGee, pennaeth y cwmni, iddyn nhw ganu mwy o ganeuon yn Saesneg ar ôl bod yn eu gwylio'n perfformio - heb ddeall eu bod nhw wedi canu pob cân yn Saesneg. Fe wnaethon nhw'n siwr wrth arwyddo fod eu cytundeb yn cynnwys diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.

Rhyddhawyd eu halbwm gyntaf, Fuzzy Logic, yn 1996 - yr albwm gyntaf i Gruff ganu yn Saesneg arni. Wedi llwyddiant Fuzzy Logic aeth SFA ymlaen i fod yn un o fandiau mwyaf cynhyrchiol, creadigol a hirymarhous y sîn. Gyda sawl EP ac albwm Saesneg y tu ôl iddyn nhw erbyn hyn, fe wnaethon nhw hefyd gyhoeddi albwm Gymraeg hynod lwyddiannus, Mwng, yn 2000.

Ar ddechrau eu gyrfa roedd y band yn enwog am sawl rheswm heblaw eu cerddoriaeth fel yr eirth 40 troedfedd a'r tanc glas a ddefnyddiwyd ar eu teithiau cynnar ac am rannu llwyfan gyda dau 'ieti' cynoesol.

Yn 2003 daeth Gruff nôl i dref ei fagwraeth gyda'r Super Furries i gymryd rhan yng ngŵyl Pesda Roc, atgyfodiad o wyliau llai yr 80au yn y dref i ddathlu canmlwyddiant diwedd Streic Fawr y Penrhyn.

Ym mis Ionawr 2005, recordiodd ei albwm unigol gyntaf, yr Atal Genhedlaeth, gan berfformio ar ei ben ei hun, ynghyd ag Alun Tan Lan a phrosiect Kerdd Dant ar daith o amgylch theatrau Cymru i'w hyrwyddo.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy