BBC HomeExplore the BBC

IAU
3ydd Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adloniant
Charlie Brooks fel Janine Butcher
Charlie Brooks

Ganwyd: 3 Mai 1981

Magwyd: Y Bermo

Addysg: Ysgol Gynradd Tower House yn y Bermo, Ysgol Theatr Ravens Court, Llundain


Actores ddaeth i amlygrwydd fel Janine Butcher ar Eastenders

Fe ddaeth Charlie, neu Charlene, Brooks yn enwog am chwarae rhan y ferch gynllwyngar a dialgar Janine Butcher yn yr opera sebon, Eastenders.

Er iddi gael ei geni yn Llundain, symudodd y teulu i'r Bermo pan oedd Charlie yn fabi ac o'r cychwyn cyntaf dangosodd ddiddordeb mawr mewn actio. Cafodd gyfle i gymryd rhan mewn sawl cynhyrchiad ysgol a chyda chwmni amatur Theatr y Ddraig yn y Bermo.

Yno y gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf ar lwyfan lle roedd hi'n cymryd rhan mewn pantomeimiau a chyngherddau Nadolig - yn eironig o ystyried ei rôl ddiweddarach fel Janine, bu'n chwarae rhan angel un flwyddyn.

Charlie mewn golygfa o EastendersA hithau yn dal yn ei harddegau, erfyniodd ar i'w rhieni adael iddi fynd i ysgol theatr yn Llundain. Fe wnaethon nhw ildio a symudodd i Lundain ar ei phen ei hun i astudio drama. Yn ddiweddarach, symudodd ei mam a'i brawd i fyw yno hefyd.

Mae Charlie wedi cael rhannau mewn rhaglenni teledu amrywiol gan gynnwys London's Burning, The Bill a Jonathan Creek. Ond daeth i amlygrwydd go iawn ar ôl dechrau chwarae rhan Janine yn Sgwâr Albert. Mae ei thad yn dal i fyw yn y Bermo ac mae Charlie yn dal i ddychwelyd yno i weld ei theulu o bryd i'w gilydd.

Hi ydy'r drydedd actores i chwarae Janine ac ar ei phen-blwydd yn ddeunaw y clywodd ei bod wedi cael y rhan. Dair blynedd yn ddiweddarach, a hithau â gwallt golau erbyn hynny, roedd yn rhan allweddol o un o brif straeon y gyfres yn y cyfnod diweddar, sef marwolaeth ei gŵr newydd, Barry Evans, ychydig oriau wedi eu priodas yn yr Alban.

Beth fydd nesa i Janine, ac i Charlie, tybed?

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy