BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Adar Brith
Mynydd Dugoed ger Mallwyd lle mae olion hen feddau a briodolir i'r Gwylliaid
Gwylliaid Cochion Mawddwy

Magwyd: Mawddwy yn yr 16eg ganrif


Ymosod, rheibio a dial.

Wrth deithio yng nghyffiniau Mawddwy yn y cyfnos llwyd olau, hawdd dychmygu herwyr yn cuddio y tu ôl i bob llwyn a choeden a chlawdd yn disgwyl am ysbail.

A dyna sut oedd pethau yn yr ardal yn dilyn gwrthryfel Owain Glyndŵr.

Mawddwy oedd cadarnle'r Gwylliaid Cochion, criw o herwyr a fanteisiodd ar y lleoliad a'r dirwedd i ysbeilio a dwyn - a phan oedd angen am hynny, lladd.

Oherwydd bod Mawddwy yn cwmpasu dau blwyf neu ddwy diriogaeth, a'r rheiny o dan rym awdurdodau a chyfreithiau gwahanol, peth hawdd i'r Gwylliaid oedd taro yn un plwyf a ffoi i'r llall.

Ond pwy oedd y Gwylliaid hyn a greodd y fath arswyd ac anhrefn?

Gwerinwyr oedd y mwyafrif ohonynt, rhai oedd wedi cefnogi Glyndŵr gydag arfau cyntefig fel pladuriau a chrymanau, ond roedd yna hefyd fân uchelwyr yn eu plith.

Yr hyn oedd yn gyffredin ymhlith y Gwylliaid oedd eu bod bellach yn ddi-eiddo.

Doedd ganddynt fawr o ddewis ond byw fel herwyr yn y coedwigoedd.

Ymateb yr awdurdodau

Penderfynodd yr awdurdodau roi diwedd ar yr ysbeilio.

O ganlyniad i Ddeddf Uno 1536, unwyd y ddwy diriogaeth, ond ni chafodd hyn fawr o effaith.

Yna, ailbenodwyd Lewis Owen, neu Lewys ab Owain, o Blas-yn-dre, Dolgellau, yn Siryf Meirionnydd yn 1554.

Cafodd ef a'i ddirprwy, John Brooke o Fawddwy, gyfarwyddyd i daro'r Gwylliaid yn galed, a dyna a wnaethant.

Carcharwyd a chrogwyd y Gwylliaid yn ddidrugaredd, ond dechreuodd y Barwn Owen bechu yn erbyn y mân uchelwyr lleol ac ar 12 Hydref 1555 fe'i llofruddiwyd.

Cyhuddwyd nifer o bobl naill ai o'r llofruddiaeth neu o gynorthwyo'r llofruddio, yn eu plith John Goch, John ap Llywelyn ap Rhys, Ellis ap Huw a Lowri, merch Gruffydd Llwyd o'r Brithdir.

Cafodd John ap Llywelyn ap Rhys ei glirio o'r drosedd ond cafwyd Lowri'n euog a'i dedfrydu i'w chrogi.

Cyfiawnder di-drugaredd

Gan ei bod hi'n feichiog, gohiriwyd y ddedfryd - ac er nad oes unrhyw dystiolaeth i brofi hynny, y tebygolrwydd yw iddi gael ei dienyddio wedi i'r baban gael ei eni.

Cyhuddwyd wyth o bobl o'r brif drosedd, y cyfan ohonynt yn cael eu disgrifio fel iwmyn.

Yn ogystal â John Goch, neu John Goch ap Gruffudd ap Huw, y prif ymosodwr, cyhuddwyd Gruffudd Wyn ap Dafydd ap Gutun o'r Brithdir, Ellis ap Tudur o Nannau, Robert ap Rhys ap Hywel, Siencyn ap Einion a Dafydd Gwyn ap Gruffydd, ill tri o Fawddwy, Morris Goch o Gemaes a Ieuan Thomas o Lanwddyn.

Disgrifiwyd yn y Sesiwn Fawr sut y dioddefodd y Barwn Owen anaf marwol pan drywanodd John Goch ef â gwaywffon.

Ymhlith arfau rhai o'r lleill roedd bilwg, cledd, dagr, bwa a saethau.

Ymddengys mai mân uchelwyr oedd yr ymosodwyr, ond cânt eu hadnabod o hyd fel aelodau o'r Gwylliaid Cochion.

Dienyddio - a dial

Prin yw'r dystiolaeth ysgrifenedig, ond dywed traddodiad mai dial oedd wrth wraidd llofruddio'r Barwn.

Dywedir i hwnnw a'i ddynion ymosod ar y Gwylliaid ar noswyl Nadolig 1554 pan honnir i 80 o'r Gwylliaid gael eu crogi o ganghennau'r coed derw ar y Collfryn uwchlaw Rhos Goch.

Roedd un ohonynt, John Goch, yn ifanc iawn ac roedd ei fam wedi ymbil am iddynt arbed ei fywyd.

Crogwyd ef ac yna, yn ôl y stori, dinoethodd y fam ei bronnau gan ddweud bod y bronnau hynny wedi rhoi maeth i feibion eraill, meibion a fyddai'n golchi eu dwylo yng ngwaed calon y Barwn.

Does dim tystiolaeth gadarn i hyn ddigwydd o gwbl, ond caiff yr hanes ei adrodd gan Thomas Pennant tua 1770/3 pan ysgrifennodd ei lyfr taith enwog.

Golchi mewn gwaed

Honnir i'r dial ddigwydd ddeng mis yn ddiweddarach.

Roedd y Barwn a John Llwyd o Geiswyn wedi bod yn y Trallwng yn trefnu priodas ac ar eu ffordd yn ôl dros Fwlch y Fedwen.

Yn sydyn disgynnodd dwy dderwen, y naill y tu blaen iddynt a'r llall o'u hôl - tacteg glasurol.

Taniwyd myrdd o saethau atynt a thrawyd y Barwn ddeg ar hugain o weithiau.

Gwireddwyd y felltith wrth i frodyr John Goch ymolchi yng ngwaed y Barwn a chodwyd croes yno i nodi'r fan lle bu'r Barwn farw. Enwyd y lle yn Ffridd Groes.

Erys hanes y Gwylliaid yn fyw o hyd yn y fro.

Ceir nifer o enwau lleoedd sydd wedi goroesi.

Un yw Cae Ann, lle dywedir i un o'r Gwylliaid, er mwyn profi ei allu â bwa a saeth, daro morwyn o'r enw Ann yn farw, a hynny o bellter anhygoel.

Ym Mraichlwyd wedyn, dywedir i Wylliad brofi ei fedrusrwydd drwy daro, o'i guddfan ar draws y cwm, gosyn yr oedd hen wraig yn ei gario dan ei chesail.

Y cof yn fyw o hyd

Dywedir bod y Gwylliaid yn arfer claddu eu meirw ar fynydd Dugoed, lle mae olion hen feddau i'w gweld o hyd; dywedir mai yno, mewn man o'r enw Pylla'r Glwferiaid, y byddai'r Gwylliaid yn trin crwyn anifeiliaid.

Credir mai enw gwreiddiol Pont y Byllfa oedd Pont y Babellfa, ac mai yno y byddai'r Gwylliaid yn gwersylla. Pont y Bwllfa, un o fannau gwersylla'r Gwylliaid.

Ar Fynydd Llwyngwilym wedyn, mewn man a elwir Carneddi'r Gwragedd, ceir Pont y Gwylliaid, sef pont a ddefnyddid gan y Gwylliaid i yrru gwartheg wedi eu dwyn o ardal Llanwddyn drosti.

Ceir hefyd Ffynnon y Gwylliaid a Llety'r Gwylliaid, y naill ar Fwlch y Groes a'r llall ar Fwlch Oerddrws.

Un o'r enwau mwyaf diddorol yw Llety'r Lladron ar Fwlch Oerddrws, lle byddai'r Gwylliaid, yn ôl y traddodiad, yn ymosod ar deithwyr blinedig wrth iddynt ddringo'r rhiw serth.

Honnir mai yn Henllys ger y Dugoed Isaf y trigai un o benaethiaid y Gwylliaid a cheir Palas y Gwylliaid, uwchlaw Ceunant Du a Stryd y Gwylliaid a Sarn y Gwylliaid gerllaw.

Mae'r hanesion am y Gwylliad olaf i'w ladd yn amrywio. Yn ôl un chwedl, digwyddodd hynny ger Caban Iddew a dywedir i'r Gwylliad druan gael ei lofruddio gan ei frawd.

Dywed stori arall mai yng Ngheunant y Gwylliaid y lladdwyd yr olaf. A dywed stori arall eto i'r olaf gael ei ddal a'i ladd yn sgubor y Gwanas wedi iddo dderbyn lletygarwch gŵr o'r enw Siôn Rhydderch.

Bradychwyd y Gwylliad gan ei westeiwr, ac am ganrifoedd wedyn bu dywediad mewn bri yn y cylch yn disgrifio rhywun 'mor ffals â Siôn Rhydderch'.

Lyn Ebenezer


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy