BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cychod lliwgar ym Moelfre (© Bwrdd Croeso Cymru) Rhoi Moelfre ar y map
Mae trigolion un o hen gymunedau morwrol Môn wedi penderfynu cymryd y cyfrifoldeb dros ddyfodol eu pentref eu hunain drwy ddatblygu prosiectau i ddenu ymwelwyr a gwarchod eu treftadaeth.

Mae grŵp o bobl ym Moelfre wedi mynd ati i gyflwyno hanes cyfoethog y pentref i dwristiaid a dod â phobl y pentref at ei gilydd i ddatblygu eu hadnoddau.

  • Taith luniau o amgylch Moelfre

  • Y tywyswyr yn adrodd hanes y pentref

    Eisoes, mae'r pentrefwyr yn cynnal teithiau tywys i ymwelwyr sy'n eu dysgu am lefydd hanesyddol fel safle llongrylliad y Royal Charter, cartrefi pobl enwog lleol ac ymweliad Charles Dickens â'r pentref yn ohebydd ifanc.

    Ac rŵan maen nhw wedi creu gwefan i sicrhau bod yr holl wybodaeth ar gael ar y we fyd eang.

    Valmai Rees yn rhoi gwers hanes i ymwelwyr ar un o'r teithiau tywysMae hi'n cynnwys gwybodaeth am fusnesau lleol fel siopau, gwestai a llefydd bwyta, lluniau a map rhyngweithiol sy'n ymhelaethu ar hanes gwahanol bwyntiau ar y map.

    Partneriaeth Moelfre - grŵp o tua 30 o bobl leol - sy'n gyfrifol am y gwaith yma a ddechreuodd gyda chyhoeddi cylchlythyr rheolaidd i bobl y pentref.

    Yn ôl Jackie Lewis o Menter Môn, sef y sefydliad sydd y tu ôl i sawl partneriaeth debyg ym Môn, Partneriaeth Moelfre yw'r unig un ar yr ynys sydd wedi mynd ati i ddatblygu eu hagenda eu hunain - a'r cyntaf i gynnal teithiau tywys.

    Mae'r diolch am hyn, meddai, i ymroddiad y bobl leol.

    Mae'r teithiau tywys a lawnsiwyd yn 2003 yn rhoi bywyd newydd i hanes y Royal Charter, ymweliad Charles Dickens, y morwr lleol Twm Penstryd a fu fyw drwy drychineb y Cospatrick, yn ôl yr hanes, drwy droi at ganibaliaeth ac arwriaeth Dic Evans, llywiwr enwog bad achub Moelfre. Seiliwyd y teithiau a'r taflenni sy'n cyd-fynd â nhw ar waith ymchwil yr hanesydd lleol, Robin Evans.

    Y Cyng. Derlwyn Hughes yn dosbarthu'r cylchlythyr yn yr WylfanOnd er llwyddiant y prosiectau hyn, 'does dim golwg bod y bartneriaeth am orffwys ar eu rhwyfau - mae ganddyn nhw sawl prosiect arall ar y gweill fel yr eglura'r cynghorydd Derlwyn Hughes, sy'n un o aelodau blaenllaw Partneriaeth Moelfre.

    "Mi fydd dwy daith gerdded newydd yn cael eu cyflwyno - taith y saith traeth a thaith lenyddol yn manylu fwy ar y Royal Charter a Charles Dickens," meddai.

    "Rydym hefyd yn gobeithio cyhoeddi llyfryn dwyieithog syml gyda lluniau ar drychineb yr Hindlea ynghyd â dilyniant yn croniclo hanes Eglwys Llanallgo yn nes ymlaen.

    "Rydyn ni'n trïo gweld yn bell a meddwl am syniadau newydd," ychwanegodd.

    "Mi fydd hi'n 150 o flynyddoedd ers suddo'r Royal Charter yn 2009, felly rydyn ni'n meddwl ymlaen at hynny hefyd."

    Yn ogystal, mae tîm gweithgar wedi bod wrthi'n codi £40,000 i godi cofeb i Dic Evans a fydd wedi ei leoli nid nepell o gwt y Bad Achub ger canolfan yr Wylfan, sef canolfan ymwelwyr sy'n cofnodi hanes morwrol y pentref.

    Gobeithir dadorchuddio'r cerflun efydd, sydd wedi eu greu gan y cerflunydd Sam Holland, tua diwedd Medi.

    Bwriad y bartneriaeth maes o law ydy datblygu eu gwefan newydd i gyfleu gwybodaeth am orffennol a phresennol y pentref ac ychwanegu lluniau, hen a newydd, o'r ardal.

    Gwefan Moelfre


  • Cyfrannwch

    Gerallt o Menter Mon
    Derbyn y sylw ac yn ymddiheuro am y 'gwarth'. Ar adegau mae hi'n anodd cynnal pob cyfarfod sy'n cael ei lywio gennym drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog, sy'n golygu, fel rydych yn pwysleisio, nad ydym bob amser yn gweithredu'n union fel y dylem, na chwaith fel yr hoffem. Mae rhesymau am hyn sydd ynghlwm ag adnoddau ariannol i gyflogi cyfieithwyr i bob un o'r cannoedd o gyfarfodydd a gynhelir gennym mewn blwyddyn. Er bod eich sylw yn un teg iawn gobeithiaf yn fawr iawn nad 'honni' yn unig mae Menter Mon ei fod yn hyrwyddo'r Gymraeg ym Mon. Nodaf isod rhai o'r cynlluniau na fyddent yn bodoli o gwbl hebddom: Theatr Ieuenctid Mon Gwyl Cefni Monallu - syn rhoi profiad gwaith a chyflog am 10 wythnos dros yr Haf i 2hyd at 20 o israddedigion Cymraeg o Fon. Mae llawer mwy ond nid wyf yn dymuno llafurio'r pwynt. Gallaf ddweud gyda sicrwydd nad er mwyn broliant y gweinyddir y prosiectau yma, ond er mwyn canolbwyntio ein adnoddau ariannol ar brif adnodd yr iaith ym Mon, ei hieuenctid.

    Esme Lewis, Moelfre
    Cywilydd yw tystio fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy'r Saesneg yn unig. Mae'r agwedd tuag at y Gymraeg yn warth i gwmni fel Menter Mon sy'n honni bod yn gwmni sy'n hyrwyddo'r Gymraeg yn Ynys Môn.


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy