BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
14eg Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Criw gyda'u beics Clwb Beicio Cefni
Mae Clwb Beicio Cefni yn dal i fynd o nerth i nerth ar ôl dathlu dwy flynedd o feicio ar hyd a lled Ynys Môn a thu hwnt yn 2004 pan wnaethon nhw ymweld ag ardal y Wicklows yn Iwerddon am y trydydd tro.
Erbyn hyn, mae'r clwb wedi penderfynu cyfarfod yn wythnosol ac estynnir croeso i aelodau newydd ymuno.

"Rydym yn gobeithio y bydd mwy o feicwyr yn ymuno a ni, gan fwynhau gweld golygfeydd hyfryd Ynys Môn a dod yn fwy ffit yr un pryd - mewn cwmniaeth hwyliog a difyr," meddai Hywel Meredydd, un o'r arweinwyr.

Manylion:

  • Bob Bore Sadwrn.
  • Gadael Capel Cildwrn, Llangefni am 9.30am
  • Pellder - 25-30 millitir
  • Penderfynir ar y daith ar y bore
  • Am fanylion pellach am y clwb neu'r daith nesaf, cysylltwch â Hywel Meredydd drwy ffonio 01248 750323 neu anfon neges at hywel@meredydd.net.

    Sylwadau gan rai o aelodau'r clwb

    KenKen
    Cymysgedd o ferched a dynion yn y clwb, gweld gwelliant gyda phrofiad. Wrth ei fodd yn reidio tu ôl i'r genod!

    Kath
    Cofio'r daith gyntaf i fyny Mynydd Bodafon a pha mor anodd oedd hi. Diolch i Geraint am y baned a'r siocled yn Capel Coch. Clwb bach ni!

    Llinos
    Mwynhau'r cymdeithasu. Cofio'r daith gyntaf i Pont Lynas ac edrych yn ôl ar y teithiau a'r profiad yn ystod y ddwy flynedd. Diolch i Ken am hybu y beicwyr olaf ar y teithiau at y rhai ar y blaen a chadw pawb gyda'i gilydd.

    Llinos a Kath Eurwyn
    Damwain yng Nghaergybi. Dod allan o'r concussion a gweld bachgen ysgol yn sefyll yno! Colli hanner clust ar y bont yng Nghaergybi. Siom o fethu â dal Harvey ar y Wicklows!

    Huw Idris
    Wicklows yn y glaw. Agosatrwydd mewn cyfyngder!

    Owain
    Taith o amgylch Sir Fôn. Mynd â bachgen o Lesotto i'r Ysbyty - problem iaith rhwng Cymro a iaith Lesotto!

    Hywel
    Falch bod Clwb Cefni wedi annog Llinos a Kath o daith anodd byr i daith hir rhwydd o 100 milltir o amgylch Sir Fôn. Taith 80 o Gaer mor wahanol. Ysbryd y Clwb - dim cystadleuaeth - angen mwy o bobl dibrofiad a mwy o bobl leol. Cymysgedd o'r ddwy iaith.

    Y Criw Raymond Harvey
    Criw cymdeithasol ar dinau dedwydd!

    Dafydd
    Ar ôl bod ar ddwy daith gyda'r clwb - wedi mwynhau y teithiau. Braf cael gweld beics a phobl o bob siâp!

    Jenny Pye
    Wedi dod i 'nabod lot o bobl glên iawn trwy'r clwb, braf cael sgwrs tra'n seiclo ac mae'r teithiau'n amrywiol iawn ac yn hwyl, ac yn dipyn o sialens hefyd!

    Y daith i Iwerddon
    Fe aeth y clwb ar y daith i ddathlu dwy flynedd o seiclo i Iwerddon fis Medi 2004. Gan gychwyn o Gaergybi am 9:00am roedden nhw wedi cyrraedd Glen Cullen mewn pryd i fwynhau cinio a pheint o Guinness haeddianol erbyn amser cinio.

    Meddai'r Parch Hywel Meredydd, un o'r trefnwyr: "Mi deithion ni ryw ddeg milltir ar hyd yr arfordir i'r de o Dun Laoghaire cyn troi am Glen Cullen a stopio yn nhafarn Johnny Foxes - tafarn uchaf Iwerddon - sy'n amlwg yn lle poblogaidd i feicwyr gael hoe.

    "Mae'r golygfeydd oddi yno yn fendigedig. Wedi hynny, roedd hi lawr yr allt yr holl ffordd yn ôl i'r porthladd erbyn 3:30pm ac roedden ni yn ôl yng Ngŵyl Cefni erbyn min nos! Roedd hi'n daith braf iawn, iawn o ryw 30 milltir i gyd."


    Cyfrannwch

    iolo peters o llangefni
    Wedi diogi cymharol am ddegawd rwyf yn awr yn trio ail afal mewn beicio yn o ddifri gyda clwb cefni.


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy