BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Huw Gruffydd Roberts O 'Steddfod i 'Steddfod
Roedd Huw Gruffydd Roberts o Gricieth (Pentre Ucha' yn wreiddiol) yn adroddwr o fri a gystadlai ledled eisteddfodau bach yr ardal yn ei ieuenctid. Dyma rai o'i atgofion am y cyfnod a'r cymeriadau.

"Alun Ogwen Williams, a fu am gyfnod byr yn Brifathro Pentre Uchaf, a awgrymodd y dyliwn gystadlu yn Eisteddfod Mynytho, ar ddetholiad o Bryddest Cynan, 'Buddugoliaeth.'

"Roedd yn gyfle i minnau fynd tu allan i'm milltir sgwar ac i dderbyn beirniadaeth Waldo Williams, a oedd ar y pryd yn athro yn Ysgol Botwnnog a'r Parch R.D. Roberts oedd yn Ficer yn Llŷn.

"Bu'r gair da a gafwyd y noson honno yn symbyliaid pellach i ledu gorwelion - ond y siom i mi oedd deall fod Alun Ogwen i ymadael â'r pentref a minnau golli hyfforddwr.

"Cefais gymorth mawr gan ddau ŵr arall sef H Garrison Williams, Y Ffôr a W Glyn Owen, Pwllheli.

"Yn sicr dyna dri o'r rhai a roddodd i mi yr hyn sydd gennyf o arddull cyflwyno, er fy mod wedi ymladd yn galed â nerfusrwydd drwy'r blynyddoedd.

"Rwyf bob amser yn gredwr mawr yn y geiriau 'Pa beth bynnag yr ymaflo dy law ynddo - gwna a'th holl egni.'

"Felly ym myd cystadlu, nid er mwyn ennill, ond er mwyn datblygiad, ac os deuai wobr derbyn yn dawel a diolchgar heb ymchwyddo. Os colli, gwneud hynny'n foneddigaidd.

"Rhaid cyfaddef y byddai cofio'r darnau yn dreth weithiau gan y byddai rhai beirniaid yn rhoi mwyn o bwys ar i bob gair a sill fod yn unol â'r llyfr - yn fwy felly na'r dehongliad.

"Buaswn yn falch iawn pe bai fy nghof wedi bod hanner cystal ag un yr hen Huw Mari, un o gymeriadau tref Pwllheli.

"Roedd Huw yn tystiolaethu wrth gyfaill unwaith ei fod yn cofio cael ei eni.
'Paid siarad yn wirion,' medd hwnnw.
'Fact iti,' meddai Huw.
'Sut hynny?' ymholai'r cyfaill.
'Wel, rydw i'n cofio mam yn dweud wrth nain, gwnewch paned i'r Dr cyn iddo fynd!'

"Cymeriad arall a fyddai yn cystadlu ar 'Englyna' ac yn trafeilio gyda mi weithiau oedd 'Gwnys,' wedi ei fagu ar fferm y 'Gwynys Pistyll' ond a drigai yn Rhosfawr.

"Wedi i mi gael yr anffawd o anghofio, ddwywaith neu dair, a gorfod ymweld â'm meddyg, dyma'r englynion a ddaeth imi ar gerdyn post gan Gwnys.

Ni roddaf eiriau crwydrol - i'r cawr
Tra'r co'n ddiffygiol;
Gyr yn wir un gair yn ôl
Hyd lennych cystadleuol.

Huw Roberts a'i arabedd, - adroddai
Ei dreiddiol huawdledd;
Yn rhwydd i lu rhoddi wledd,
A deau hyd y diwedd.

Y cyfaill nid yw'n cofio, - ei feddyg
Rydd foddion diwygio;
Caiff andros dric y ffwndro
A niwl y wal o'i flaen!

Gwnys 24/01/1948

"Yn ychwanegol i'r cystadleuwyr a nodais, mae atgofion hyfryd am nifer sy'n rhy faith i'w cofnodi i gyd.

"Cofiaf rannu llety â Dei Price, Bodffari yn 'Steddfod Lewis's, Lerpwl ac a drefnid gan Gwilym Bethel. Yna Tom Jones, Cynwyd, Corwen, Rhiannon Caffrey, Machynlleth - y wraig a fu farw yn ieuanc iawn, ac i'm tyb i, nad oedd gyffelyb iddi am gyflwyno pennod gyntaf Jôb.

"Enwau eraill o'r cyfnod: Nansi Evans, Dinbych; Gwyneth Jones, Carmel; Megan Cadfan, Rhosgadfan; T.J. Williams, 'Brynfab,' Carmel; Oswald Griffith, Bangor; Lewis R Lewis, Ffestiniog - tad Eigra Lewis Roberts- a'i mam Gwaunferch, oedd yn ferch y 'Garreg Fawr,' Y Waunfawr; Christmas Jones a'i fab Hywel o Benygroes a llawer o rai eraill oedd 'Hoelion Wyth' y cyfnod yn y gogledd.

"Dichon mai Christmas oedd yr un a allai daro brawddeg annisgwyl a bachog mewn sefyllfa.

"Roedd yn ŵr diwylliedig ac yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac o'r herwydd yn teimlo ei fod yn awdurdod ar gyflwyno'r darn Chwaraelwr gan T Gwynn Jones. A gwae unrhyw feirniad na gydnabyddai hynny!

"Cofiaf fod tu allan i festri Capel yn Amlwch wedi rhagbrawf a ryw ddeunaw ohonom yn Eisteddfod Môn ym Amlwch ym 1947. Daeth y cyhoeddiad pwy oedd i ymddangos ar y llwyfan - ond ni alwyd ei enw. A dyma'r ateb: 'Pa fodd y syrthiodd y Cedyrn?'

"Fel y digwyddodd, i'm rhan i y daeth yr anrhydedd o ennill, a chan mai 'unrhyw ddewisiad', tipyn o fenter oedd cyflwyno 'Rhobat Wyn' i Cynan y beirniad ac yntau yn gymaint dramodydd a minnau braidd yn ieunac i lenwi'r cymeriad henaidd, heb na cholur na diwyg bugail i'm cynorthwyo.

"Yn sicr nid yw cystadlu ar lwyfan mor hawdd i'w feirniadu a, dyweder, ei fod fel rhedeg ras, gan y gwŷr pawb mai yr un sy'n cyrraedd y llinell derfyn yw'r buddugwr.

"I'm tyb i, rhaid i lwyfanwr llwyddiannus greu cymeriad effeithiol pan fo gofyn am hynny, a gwisgo llinellau moel y cyfansoddwr i ymateb i bersonoliaethau creadigol a chredadwyr gan osod a dehongli'r sefyllfa yn fyw.

"Er i chwi wneud hynny yn foddhaol i chwi eich hun, gall fod dadansoddiad y Beirniad yn hollol wahanol - a dyna lle mae 'chwaeth' yn dod i mewn, a llawer o 'lwc' medd rhai!

"Fel yr hen lanc oedd yn methu dod ymlaen yn y byd. Ffrind yn dweud wrtho nad oedd yn cymeryd bywyd yn y ffordd iawn: 'Rhaid i ti gymeryd mwy o siawns, a gadael i 'lwc' a 'ffawd' gymeryd rhan yn dy fywyd - dos a 'chwara wrth ddrws 'ffortiwn.'

"Ac meddai'r hen lanc: 'Rydw i wedi curo wrth ddrws ffortiwn lawer gwaith, ond misfortunesy'n agor bob tro.'

"Dros y blynyddoedd mae sôn a thrafod bod yn rhaid cael canllawiau pendant - ond sut?

"Y chwiw ddiweddaraf yw newid yr enw 'Adrodd' i 'Lefaru.' Ond beth mewn difri' mae hyn yn ei wneud i'r hanfodion o gyflwyno? Ymganiad clir, goslefu soniarus, fel bo'r llais yn disgyn yn esmwyth ar glust y gwrandawr. Dyna'r safon y ceisiwn i ei chadw, a'i throsglwyddo.

"Ond beth am y rhai a fu'n fy meirniadu dros y blynyddoedd? Caredig iawn a dweud y lleiaf - gallaf ddweud yn hollol onest na chefais fy nifrïo gan neb.

"Dyma rai o enwau beirniaid poblogaidd y cyfnod: Llwyd o'r Bryn; Parch William Morris, Caernarfon; Parch Herman Jones, Porthmadog; Parch D.S Owen, Llundain; W.H. Roberts, Niwbwrch; Lewis Moelwyn, Ffestiniog; John Evans, Llanegryn, Parch Dafydd Owen, Dinbych.

"Unwaith erioed wnes i gystadlu dan feirniadaeth y Parch E. Tegla Davies a hynny mewn prawf cyngerdd yn Neuadd y Dref, Porthmadog, y safle lle saif siop Woolworths heddiw.

"Yn y cyfnod hwnnw, byddai'r beirniaid adrodd yn aml yn arwain y 'Steddfod hefyd ac yn sicr roedd enw 'Caerwyn' yn amlwg yn y ddau faes.

"Gŵr byr gyda llais treiddgar a arferai ddefnyddio dywediad, os byddai peth aflonyddwch ymysg cynulleidfa. 'Rwy'n hoffi eisteddfod â mynd ynddi - ond nid 'steddfod â mynd a dwad!'

"Ef hefyd a ddywedai fod 'dull' yn beth cyffredin i bawb, ond mai peth personol oedd 'arddull.' A'i gyfeiriad ataf innau bob tro y cyflwynai wobr imi, gan fod cryn wahaniaeth taldra rhyngom: 'Mae'n fraint cael edrych i fyny ato fo, gobeithio nad yw ef yn edrych i lawr arnaf fi.'

"O'r holl feirniaid, credaf mai ef a allai wau beirniadaeth i wyrdroi meddylfryd cynulleidfa.

"Roedd cerdd W.J. Gruffydd, 'Ynys yr Hud' wedi apelio yn fawr ataf, a phan ddaeth yn ddarn gosod yn Eisteddfod Powys, dyma'r cyfle i wynebu'r her.

"O'r nifer a ymddangosodd yn y rhagbrawf, dau yn unig oedd i gael llwyfan dan feirniadaeth y Parch D.S. Owen, Llundain. Rhiannon Caffrey, Machynlleth a minnau oeddynt.

"Y dyfarniad oedd ein bod yn 'gyfartal iawn, ond oherwydd gofynion y darn, 'fallai bod gan y mab fantais ar y ferch..."

Diolch i Huw Roberts am ganiatâu inni gyhoeddi'r detholiad hwn o'i waith.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy