BBC HomeExplore the BBC

GWENER
25ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Rhos
Grahame Morris wedi ei wisgo fel marchog Marchog o'r Rhos
Mae Graham Morris o Rosllannerchrugog wedi cael ei wneud yn farchog - wel am wythnos yr Eisteddfod beth bynnag.
Dan y teitl Marchog y Fflint mae'n helpu i ddod â hanes yn fyw ym mhabell CADW ar y maes, trwy ymddangos fel marchog o'r bymthegfed ganrif - Syr Preis Yrrwyl (am y cyntaf i ddatrys y pôs yn yr enw!).

Fel cymeriad dychmygol a fagwyd ar fferm gefnog ym Mhenmaenmawr ac a anfonwyd i Sir y Fflint yn saith oed i ddysgu trin cleddyf, mae'n adrodd sut y byddai plant bonedd yn cael eu hanfon i ffwrdd at deuluoedd mawr neu gestyll gyda'r gobaith eu bod yn tyfu drwy'r rhengoedd i ddod yn farchog cefnog.

Meistr Syr Preis dychmygol Graham oedd Iarll Swydd Derby, Thomas Stanley, sef ffigwr hanesyddol go iawn.

Ond beth am yrfa Graham Morris ei hun? Wedi ei fagu yn y Rhos, symudodd i lawr i dde Cymru yn 1978 lle bu'n athro am 14 mlynedd mewn ysgol anghenion arbennig. Mae bellach wedi ymddeol ac yn byw yn Aberdâr.

  • Mwy o'r Eisteddfod

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Hanes
    Radio Cymru
    Trefi


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy