Heddwyn Jones:
"Ddaru mi gychwyn yn y pwll yn 1941. 'O'n i ond yn 14 oed amser hynny ac mi weithiais i yno tan 1968 pan naeth yr Hafod gau.
On i'n gorfod mynd achos nes i adael ysgol yn 14 oed a'r unig le oedd 'na rownd ffor' yma oedd pwll Hafod neu Bersham, ond oedd 'y nhad i'n gweithio yn Hafod, fo nath fy nghael i mewn.
Nes i weithio yno tan 1968 a phan dwi'n edrych yn ôl y peth gorau oedd y bobl on i'n gweithio efo nhw, comradeship fel maen nhw'n dweud yn Saesneg.
'On i'n neud ffrindiau a 'dan ni'n dal i fod yn ffrindiau. Dwi'n 80 oed rŵan a'r bobl dwi'n cwrdd â nhw yn y clwb [Clwb yr Hafod/Hafod Social Club yn Rhos] yw'r bobl o'n i'n gweithio efo nhw lawr yn yr Hafod.
Ddaru mi fwynhau'r amser ond ar ôl iddyn nhw gau'r Hafod es i weithio yn BICC yn y dre.
Roedd hi'n amser cau'r pyllau achos gwaith budr oedd o ynde, a pheryglus. Roedd y perygl yno drwy'r dydd - a'r llwch, dywedais fod hynny'n hen ddigon ac 'on i'n falch yn y diwedd bod y pwll wedi cau. On i'n gweithio mewn seam isel, o'dd ond two foot eight ac oeddet ti ar dy liniau o hyd, siŵr ei fod yn neud damage yn tydi?
Ddaru fi orffen yn 1968 pan fu'r Hafod gau. Job budr odd o - be oedd yr MP na'n ein galw ni - 'Worms of the earth'? Dene o'n ni'n cael ein galw, ac odd o'n iawn. Ond dwi'n falch bo fi wedi bod yno achos y bobl ddes i 'nabod. O'n ni i gyd yn ffrindiau ac yn dal i fod. Fi 'di un o'r rhai hynna sy'n dal i fynd. Dwi falch i weld y golau yn y bore pan dwi'n agor y cyrtens!"
Glyn Evans:
"Cychwynais i weithio yn yr Hafod ym 1944, adeg y rhyfel, yn 14 oed. Tri mis cyn i mi fod yn 15 o'n i'n gweithio ar lawr, odd 'na gymaint o ddynion wedi mynd i'r rhyfel ac roedd colliers yn marw'n ifanc amser 'na. Os oet ti'n 60 mlwydd oed pryd hynny odd hynny'n hen.
Oedd o'n brofiad ofnadwy, 650 o lathenni o dan ddaear a ddwedes i wrth fy hun 'Be gythraul dwi'n neud yma?' Mae pobl heddiw yn yr ysgol tan bo nhw'n 18 oed - dyna wahaniaeth.
Dyna oedd fy nghychwyn i a bues i ene tan i'r pwll gau yn 1968. Weles i ambell i ddamwain - un dyn gafodd ei gladdu a fi ddaru orfod dod ag o allan, oedd o 'di torri pob asgwrn yn ei gorff.
O'dd pedwar o blant ganddo pan gafodd ei ladd. Dwi'n cofio Lloyd George yn dweud 'Gwyn ein byd ni pan fydd na neb yn gweithio ar lawr' a mae hynny 'di dod yn wir rŵan bod y pyllau wedi cau a dwi'n falch o hynny.
Bysen i ddim yn gyrru 'mhlant fy hun i weithio ar lawr ond o'dd dim byd arall i wneud pan oeddech chi'n gadael ysgol adeg y rhyfel.
O'n i'n mynd i'r dôl ac oedd y Rheolwr yn cynnig 'Brickyard or pit?' 'Pit' medde fi. 'Why pit?' gofynnodd. 'My father is a miner and my elder brother is a miner so I'm following them'. 'Well that's alright then. Report to the Colliery Monday morning.'"
Adeiladwyd Gwaith Glo'r Hafod ar ôl i Waith Glo Rhiwabon orfod cau oherwydd gorlifo. Agorodd yn 1867 ac, ar ei brysuraf yn 1938, roedd yn cyflogi 1600 o ddynion.
Gwaith Glo'r Hafod oedd y prif gyflogwr yn y Rhos am 75 mlynedd ac roedd bywydau llawer yn dibynnu arno. Pan caewyd y pwll ar 9 Mawrth 1968 collodd rhan fwyaf o'r 1300 o weithwyr eu gwaith a chafodd eraill eu trosglwyddo i waith glo'r Bers neu Gresford. Cadwyd oddeutu 200 ohonynt i dynnu'r peiriannau tanddaearol cyn selio'r siafftau a dymchwel yr adeiladau ar yr wyneb.
Llun gwaith glo yr Hafod ar frig y dudalen drwy ganiatâd Ken Aspinall