BBC HomeExplore the BBC

GWENER
1af Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Bryn Glas, Sir Faesyfed. Mae'r coed ynghanol y cae yn coffáu'r milwir a laddwyd yma. Brwydr fawr y genedl
Tachwedd 2007
Faint ohonom sy'n gwybod lle mae lleoliad brwydr fawr Owain Glyndŵr sef Pilleth neu Fryn Glas? Hywel Jones fu'n ymchwilio...
"Pwy oedd Rhys Gethin?" Dyma lyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion. Y gŵr dan ystyriaeth oedd un o brif swyddogion Owain Glyndwr ac ef arweiniodd ei fyddin mewn brwydr waedlyd yn erbyn y Saeson ym Mryn Glas ym Mehefin 1402.

Felly erbyn hyn, gwyddom rhywbeth am Rhys Gethin ond faint ohonoch sy'n gwybod ymhle mae Bryn Glas?

Cyndyn iawn ydym ni y Cymry i hysbysu safleoedd brwydrau tyngedfennol ein cenedl. Mae gan y Saeson eu Bosworth a Hastings a'r Albanwyr eu Glencoe a Bannockburn a'r safleoedd hynny wedi eu harwyddo oddiar y ffyrdd a'r traffyrdd.

Wedi cyrraedd maes y gad, mae disgrifiad manwl o'r hanes, y cynlluniau a'r tactegau a ddefnyddiwyd. Ond yng Nghymru prin iawn yw'r wybodaeth gyhoddus am frwydrau Pwysig ein hanes.

I gyrraedd Bryn Glas rhaid teithio i Sir Faesyfed. Y ffordd fwyaf cyfleus ydi teithio ar hyd y Gororau ar yr A49 o'r Amwythig i Llwydlo (Ludlow). Cyn cyrraedd y dref hon, mae pentref bychan Bromfield. Yma rhaid troi i'r dde a dilyn yr A4113 i Drefyclo (Knighton).

Ar gyrion y dref troi i'r chwith ar y B4355 (arwydd Llanandras (Presteign), Dilyn y ffordd yma am 1.5 milltir ac yna anwybyddu arwydd Llanandras a dilyn y B4357 i Whitton (milltir).

Ar y groesffordd troi i'r dde ac wrth deithio ar hyd y ffordd yma, edrychwch am eglwys wen ar lethrau'r mynydd o'ch blaen. Dilynwch y ffordd i gyfeiriad yr eglwys ac fe ddowch i bentref bychan Pilleth. Mae'n debyg mai seisnigyn o "pwll iaith" yw ystyr y gair er fod rhai yn dadlau mai Pilalau yw'r enw cywir.

Ta waeth! O edrych ar yr eglwys fe welwch y mynydd yn codi Y tu ôl iddi a dyma ydy Bryn Glas, sef safle y frwydr rhwng Rhys Gethin ac Edmund Mortimer a reolai y Gororau ar ran brenin Lloegr.

Bu'r frwydr yn un waedlyd a threchwyd Mortimer a'i gaethiwo yn nghastell Llanllieni (Leominster) gan Owain Glyndŵr.

Can mlynedd yn ôl, wrth aredig y tir cadarnhawyd safle'r gyflafan pan ddaethpwyd o hyd i gannoedd o esgyrn wedi eu claddu mewn bedd cyfunol.

Fel arwydd o barch, planwyd coed ifanc gan Sir Richard Green, tir feddianwr lleol, i goffau y frwydr. Erbyn heddiw mae'r coed wedi tyfu yn rhai aeddfed a thal a safant yn urddasol ar lethrau Bryn Glas ynghanol gwyrddni y caeau sydd yn eu hamgylchynu.

Os ewch i'r eglwys fe welwch fod carreg yn y fynwent yn coffau y digwyddiad a thu mewn cewch hanes y frwydr mewn mwy o fanylder.

Mae modd gadael y fynwent a throedio heibio'r ffynnon, sydd a'i dŵr yn ôl pob tebyg, yn meddu ar y gallu i wella anhwylderau'r llygaid.

Yna dilynwch y llwybr at y coed ac at safle'r frwydr.

Edrychwch yn ôl ar yr olygfa fendigedig o ddyffryn Afon Lugg (Llugwy ar hen fapiau) islaw.

Trist yw meddwl nad oes unrhyw gofeb cyhoeddus yma i goffau un o frwydrau mawr ein cenedl, mewn ardal sydd ymysg yr harddaf yn ein gwlad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy