BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Ysgol Mornant Derwen lle bu'r fesen fach
Hanes Ysgol Gynradd Mornant - cofio yn ôl i'r diwrnodau cynnar

Yn drystiog gweithiwn drosti -Yn wrol
Gwnawn ein gorau erddi.
Mae'r iaith rhwng ei muriau hi
Yn addas sylfaen iddi.

Einion Evans

1953 'Derwen lle bu'r fesen fach...2003

Gweledigaeth a brwdfrydedd Dr Haydn Williams, Cyfarwyddwr Addysg Sir y Fflint ar ddechrau'r pumdegau symbylodd sefydlu Ysgol Mornant yn Ffynnongroyw, ie, sefydlu Ysgol Gymraeg mewn bro Gymraeg. Yn nechrau'r pumdegau - yr oedd ysgol fabanod Saesneg yn y pentref, ac yn hon yr oedd llawer iawn o Gymry Cymraeg eu hiaith.

Yng ngoleuni hyn bu cryn drafod yn niwedd y pedwardegau a dechrau'r pumdegau gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Addysg i sefydlu ysgol Gymraeg yn y pentref. Yr unig adeilad addas oedd ar gael oedd ysgol y babanod. Yn dilyn hyn penodwyd Rhys Jones, y cerddor, cyfeilydd, cyfansoddwr, yn bennaeth yr ysgol.

Agorwyd y drysau i 'Ysgol Gynradd Gymraeg Ffynnongroyw' fel ei hadwaenid ar y pryd a chofrestrwyd 72 o blant a'r mwyafrif ohonynt yn Gymry Cymraeg dan ofal tri o athrawon. Yn ddiweddarach y mabwysiadwyd yr enw 'Ysgol Mornant'. Bwriad yr Awdurdod Addysg Lleol yn 1960 oedd adeiladu ysgol newydd ym Mhenyffordd, rhyw filltir o'r pentref a symud yr ysgol yno. Ni wireddwyd hyn.

Yn ystod y cyfnod hwn fe dyfodd yr ysgol o ran nifer ac yn haf 1958 roedd 103 o blant ar y llyfrau. Daeth tymor Rhys Jones i ben fel pennaeth yn 1961 yn dilyn ei apwyntiad fel dirprwy bennaeth Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Gosodwyd yr ysgol ar sylfaen gadarn a mawr oedd y parch iddo yn y pentref a'r fro.

Yn dilyn cyfnod Rhys Jones, penodwyd Eifion Tudno Jones fel pennaeth. Dyma gyfnod 'Y Cobleriaid'. Ar sail eu perfformiad fel 'cobleriaid' mewn cyngerdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969, fe'u gwahoddwyd gan Gymdeithas Cymry Llundain i berfformio yn Neuadd Albert ar Ddydd Gŵyl Ddewi. 1970. Tybed a oes rhai o'r 'cobleriaid' yn ddarllenwyr Y Glannau? Byddwn yn falch o glywed oddi wrthych! Daeth tymor Eifion Tudno Jones i ben fel pennaeth yn haf 1971.

Yn ystod gaeaf 1970 penderfynodd Y Pwyllgor Addysg dynnu allan gynllun i ad-drefnu addysg yn y cylch. Y m 1971, ar ymddeoliad pennaeth ysgol Gwespyr Picton, Elwyn Smith, daeth yr adeilad ysgol yn rhydd. Rhyw ddwy filltir o bentref Ffynnongroyw a milltir o Benyffordd. Er nad oedd y rhieni yn llwyr gytuno â'r symudiad, buan iawn y gwelwyd fod y 'cartre newydd' yn welliant mawr ac yn fwy diddos.

Dyma ddechrau cyfnod Geraint Jones-Evans fel pennaeth Ysgol Mornant. Wedi sefydlu'r ysgol ym Mhicton (Butyn i'r bobol leol) ehangodd dalgylch yr ysgol. Cyn hyn plant Ffynnongroyw a Phenyffordd a fynychai'r ysgol ond wedi'r trosglwyddiad manteisiodd rhieni o Glanyrafon, Trelogan, Trelanwyd, Llansana, Gwespyr, Gronant a Thalacre ar gynnig addysg Gymraeg i'w plant. Fel canlyniad i hyn, cynyddodd y canran o rieni di-Gymraeg i ryw 98%.

Os her fe fu'n bleserwaith - caf loydd
'r ôl cyflwyno'r heniaith
o gofio gydag afiaith
hanner oes yn trin yr iaith.

Er egni ambell rwgnach - yn wylaidd
datgelaf gyfrinach
heb-os eu troi'n Gymry bach
a'r gwir doedd gwaith rhagorach.

Pedwerydd pennaeth yr ysgol yw Mrs Anne Jones. O dan ei gofalaeth aiff yr ysgol o nerth i nerth a dymunir bob llwyddiant'I'r ysgol ar y bryn lle mae'r Gymraeg yn fyw'...... am yr hanner canrif nesaf a diolch i weledigaeth Dr Haydn Williams am sefydlu ysgol Gymraeg mewn bro Gymraeg yr adeg honno.

Ffrind i'r ysgol dros y blynyddoedd fu'r r Prifardd Einion Evans ac yn nathliad chwarter canrif yr ysgol ym 1978, fe i gwahoddwyd i gyfansoddi cywydd i'r dathlu, ac fe'i gosodwyd ar gerdd dant gan y diweddar Glyndŵr Richards. Fe'i canned gan barti o'r ysgol yn y dathliad. Mae'n werth ei roi ar gof a chadw yn 2003 a dyma fo.......

Derwen (lle bu'r fesen fach)
yn dwyn lloniant i'n llinach
a welir. O'r ymylon
y daw nodd y goeden hon.
Yn ddi-os trwy'r broydd hyn
ni bu yno well bonyn.

Yn seiniau plês swn y plant
fe aeth afiaith i'w thyfiant
Pwer eu hiaith sy'n parhau
yng nghanol ei changhennau.
Oeda'r haf drosti'n drwch
ei hirddail yw ei harddwch.

Darn o hil yw'n derwen ni,
hi ddeil i'n hangerddoli.
I ddwyn braw ni ddaw i'n bro
arwyddion o'i di-wreiddio.
Yn ei hansawdd unionsyth
boed yma i bara byth.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy