BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Aelodau o'r côr o gwmpas y gofeb Cofio'r Dywysoges Gwenllian
Rhagfyr 2005
Eleni, aeth taith flynyddol Côr Glan Alun [Arweinydd: Dr Goronwy Wynne] â nhw i Swydd Lincoln, yn Nwyrain Lloegr.

Yn ystod yr arhosiad yn Lincoln, cafwyd cyfle i ganu yng nghadeirlan y ddinas, adeilad trawiadol sydd ymhlith eglwysi cadeiriol godidocaf yr ynysoedd hyn. Trefnwyd hefyd i'r Côr gynnal cyngerdd ar y cyd gyda Chôr Meibion tref Louth ac i gymryd rhan mewn gwasanaeth, fore Sul, yng Nghapel Monks Road yn y ddinas.

Cysylltiad â Chymru
Wrth i rywun deithio ar hyd gwastadeddau isel a digon undonog Swydd Lincoln, tiroedd a fu unwaith dan wyneb y môr, mae'n anodd meddwl sut y gallai'r fath le fod â chysylltiad â Chymru. Mae'n anoddach fyth credu bod cysylltiad felly'n bod, ei fod yn un pwysig, a'i fod yn bodoli ers canrifoedd lawer. Y cysylltiad hwnnw, yn anad dim, a fu'n symbyliad i'r trefniant a wnaed i aelodau'r Côr deithio tuag ugain milltir o Lincoln, ar brynhawn Sul yr ymweliad, i le o'r enw Sempringham.

Hanes Gwenllian
Ym Mehefin 1282 yng Ngarth Celyn, Abergwyngregyn, ganwyd merch i Eleanor, gwraig Llywelyn ein Llyw Olaf. Roedd Eleanor yn ferch i'r barwn Ffrengig, Simon de Montfort, a oedd yn ŵr dylanwadol yng ngwleidyddiaeth Lloegr ar y pryd. Roedd de Montfort yn perthyn trwy waed i Iorwerth [Edward] y Cyntaf, brenin Lloegr. Pan laddwyd Llywelyn yng Nghilmeri yn Rhagfyr yn yr un flwyddyn, roedd ei ferch, Gwenllian, yn chwe mis oed. Gan nad oedd ganddi frawd, hi oedd aeres Tywysogion Gwynedd a theulu brenhinol Aberffraw.

Yn fuan ar ôl marwolaeth Llywelyn, daeth Cymru gyfan dan reolaeth Iorwerth, ac aeth hwnnw ati, yn gwbl ddidrug¬aredd, i ddifa holl aelodau teulu brenhinol Cymru. Er mai baban diymadferth oedd Gwenllian, deallai Iorwerth y gallai rhai ei gweld fel symbol, ac y gallai hynny fod yn fygythiad iddo. Gwyddai y byddai'n rhaid iddo gael gwared arni, ond gwyddai hefyd y byddai ei lladd yn ennyn cynddaredd y Cymry. Ar ben hynny roedd hi'n perthyn iddo.

Yn y diwedd, pan oedd Gwenllian yn ddeunaw mis oed, trefnodd Iorwerth i'w herwgipio a'i halltudio ac fe aed â hi'r holl ffordd i Sempringham, lle cafodd ei rhoi yng ngofal lleianod y Priordy oedd yno. Trwy wneud hynny sicrhaodd Iorwerth na fyddai hi byth yn cael plant. Yno, ymhell o'i gwlad, ni fyddai neb yn gwybod pwy oedd hi, ac yno y bu hi farw yn 1337, heb wybod dim am ei theulu, ei gwlad na'i hiaith.

Mae stori Gwenllian yn un drist, ac mae'n anodd dod o hyd i'w stori mewn unrhyw lyfr hanes. Dim ond yn gymharol ddiweddar y codwyd cofeb iddi yn Sempringham a chafodd honno ei malurio ar ddyddiad pen-blwydd Diana, gwraig y Tywysog Charles, gan rywrai a deimlai mai Diana oedd gwir Dywysoges Cymru. Mae'n debyg eu bod yn teimlo nad oedd lle i gofeb Gwenllian ar dir Lloegr.

Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae cofeb newydd, fwy sylweddol, wedi'i chodi yn lle'r un wreiddiol gan Gymdeithas y Dywysoges Gwenllian. Daeth y maen coffa presennol o chwarel wenithfaen Penmaenmawr, heb fod ymhell o'r fan lle ganwyd Gwenllian. Mae rhai pobl yn dweud bod rhyw arwyddocad arbennig i'r ffaith fod ffurf lleian i'w weld yn eglur yn y maen hwnnw.

Bu ymweliad aelodau'r Côr â'r gofeb a'r eglwys sydd gerllaw iddi yn ddigwyddiad cofiadwy ac emosiynol. Cawsom ein croesawu i Sempringham gan aelodau Cymdeithas Gwenllian sy'n byw yn Swydd Lincoln, a gosodwyd torch o flodau, ar ffurf coron, ger y gofeb gan Heulwen Bott, Ysgrifennydd a Threfnydd Teithiau'r Côr. Cyn i'r aelodau ymgynnull o amgylch y gofeb i ganu Dros Gymru'n Gwlad' a'r Anthem Genedlaethol, gwrandawyd ar Nesta Ellis yn darllen y cywydd 'Yn Sempring¬ham' gan Mererid Hopwood.

Geirlau olaf y cywydd hwnnw yw:
'Ynom ni mae Gwenllian,
hi yw'r gerdd a nodau'r gân,
a chaff hi eto ei choffau.
Yma heddiw, rhaid maddau.

Gruff Roberts


Cyfrannwch

Canon E. Trefor Jones, Llandudno
Fe wyddai saith lleian arall, a gyfoesai a Gwenllian yn Sempringham, pwy oedd hi! Merched Dafydd, ewythr Gwenllian, oedd y saith lleian arall; hwythau hefyd yn garcharorion mewn gwahanol leiandai Urdd St Gilbert yn swydd Lincoln. Treuliodd y Dywysoges Gwladys 1283 - 1336 yn gaeth ym Mhriordy Urdd Gilbert yn Sixhills. Bu farw o fewn blwyddyn i Wenllian.
Wed Jun 3 20:07:20 2009


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy