BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Mair a'r baban Atgofion o Nadolig a fi
Un o'r cyfrolau mwyaf diddorol am hanes y fro hon yw Hiwmor Synnwyr a Halen gan David Delta Evans, sef Dewi Hiraddug a rhoi iddo ei enw barddol.

Cyhoeddwyd y llyfr gan gwmni Foyles, Llundain rywbryd yn nechrau tridegau y ganrif ddiwethaf. Mewn pennod sy'n dwyn y teitl 'Bore Dydd Nadolig' mae'r awdur yn hel atgofion ac yn sôn am stori a adroddai ei fam am ei phlentyndod hi ei hun.

Bryd hynny, roedd hi'n byw gyda'i nain a'i thaid mewn tŷ^ o'r enw Rhos Mari, yng ngwaelod y pentref, heb fod ymhell oddi wrth y fynwent ac eglwys y plwyf. Rhos y Mynaich oedd yr enw cyffredin ar y rhan yma o'r pentref, a chredai'r trigolion fod y tiroedd yn perthyn, ar un cyfnod, i'r mynachod. Dywedid bod twnnel tanddaearol yn arwain o Ros Mari i'r eglwys ei hun.

Yn ôl mam Mr. David Evans, byddai'r hen bobl yn arfer dweud bod y gwenyn yn deffro o'u cwsg gaeafol ac yn dechrau canu mawl ar fore dydd Nadolig.

Un Nadolig, yn ystod gaeaf a fu'n eithriadol o fwyn, cododd y teulu'n blygeiniol i fynd gyda'u cymdogion i ardd gyfagos i glywed y gwenyn yn 'canu mawl'. Ond wrth iddynt sefyll yng ngolau hen lantern gorn yn ymyl y cwch gwenyn nid sŵn canu mawl y gwenyn a ddaeth i'w clyw, ond math o siffrwd o'r gwrych cyfagos.

Yna, er mawr syndod iddynt, gwelsant aderyn yn hedfan o ganol y gwrych. Wedi iddynt graffu arno, yr hyn a welsant yng ngolau'r lamp, oedd nyth bronfraith a phedwar o wyau gwyrddlas ynddo!

Heddiw, a phawb ohonom dan yr argraff bod yr hinsawdd yn newid, a bod ein hafau'n mynd yn boethach a'n gaeafau'n mynd yn fwynach, mae'n ddiddorol clywed am aeaf yn y gorffennol oedd cyn fwyned, os nad yn fwynach nag unrhyw beth cyfoes. 'Gaeaf glas' oedd enw'r hen bobl ar aeaf o'r fath.

Tybed a fydd gaeaf 2003-2004 yn aeaf glas a tybed a welwn ni wyau mewn nyth bronfraith ar Ragfyr 25 eleni?

Diolchir i Mrs. Gwyneth Lewis, Ffordd Hiraddug, am gael benthyg y gyfrol ddiddorol hon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy