Ie, lle cyfrinachol iawn oedd Rhydymwyn yn 1939, a llawer o'r cyfrinachau yn gudd hyd y dydd heddiw; a hynny ynghlwm ag ogofau a thwneli tanddaearol a hen waith mwyn. Pwy fuasai'n credu iddi fod yn rhan
o'r gwneud bomiau a rheiny'n cynnwys y nwy mwstard a Runcol a phethau gwenwynig o'r fath?
Ond nid dyna oedd bwriad Louie yn 1942. 'Roedd ar fin cychwyn gyrfa fel athrawes gwyddor tŷ. Aeth gyda'i Mam i Lerpwl i gael cyfweliad gyda phennaeth y coleg yno. Cafodd ei derbyn a mynd i nôl y dillad gwyn yn bwrpasol at y coginio.
Derbyniodd y rhestr llyfrau ond cyn cychwyn i'r coleg, daeth llythyr yn ei gorfodi i fynd i weithio i Rydymwyn i'r Ffatri Arfau. 'Roedd y Weinyddiaeth Ryfel wedi gwario £100,000 i addasu a pharatoi'r lle. 'Roedd ogofau a thyllau yn y ddaear a dau dwnnel hirgul a drws haearn cadarn yn eu pen draw. Safai'r lle ar lan yr afon Alyn a'r dasg gyntaf oedd atal y llifogydd yn yr ogofau. Daeth gweithwyr profiadol o bwll mwyn Halkyn i glirio'r safle. Adeiladwyd cytiau a siediau ynghyd â simneiau uchel oedd i geisio cadw'r awyr yn bur yn y gwaith. Gwnaed waliau cryf a fuasai'n gymorth rhag tanchwa. 'Roedd pawb yno'n gweithio gydag elfennau peryglus iawn, ac yn gorfod gwisgo dillad pwrpasol a'u newid cyn dod allan o'r gwaith.
'Roedd Louie yn dweud peth o'i hanes, yn cychwyn ar y gwaith yn ddeunaw oed; tipyn o newid o'r hyn oedd ei dewis gyrfa.
'Roedd yn cychwyn o Danlan ger Ffynnongroyw am 5-30, dal y bws Courtaulds i Faesglas a disgyn wrth y Ship Inn: croesi'r ffordd a dal y bws arbennig am Rydymwyn. Teithio ar foreau tywyll Y Gaeaf drwy Halkyn, Treffynnon a Rhosesmor a chyrraedd y gwaith erbyn saith y bore. Wedi cyrraedd, y peth cyntaf oedd "clock on" yna mynd ymlaen i adeilad "Aeronautical Inspection Department". Y gorchwyl cyntaf oedd mynd i 'stafell newid y merched, ac yno diosg pob cerpyn a'u rhoi yn ei "locker", cloi hwnnw a mynd ymlaen - wedi ei lapio mewn tywel - heibio'r gawod ac i ran "budr" y ffatri. Gan chwerthin y disgrifiai Louie y dillad a wisgai i mewn yn y ffatri. 'Roedd "liberty bodice" a "knickers" at benglin a lastig i'w cadw'n eu lle. 'Roedd trowsus "khaki" a chrys o'r un defnydd. Gwisgent 'sanau dynion trwchus a wellingtons am eu traed. Aed ymlaen wedyn i adeiladau'r gwaith. Y dynion oedd wrthi'n llenwi'r bomiau. Gwisgent ddillad mackintosh, wellingtons, gogls a menyg.
'Roedd pob un yn gweithio yn ei 'stafell fach ei hunan ac yn llenwi'r bomiau a ddeuai o ran arall o'r ffatri. 'Roedd rhai merched wrthi'n paentio cylch gwyn neu felyn ar y bomiau i ddangos pa fath o nwy oedd ynddynt, unai "Toxic" neu "Mustard". 'Roedd y bomiau'n saith troedfedd o hyd ac fe'u gelwid yn "Flying Cows".
Un o orchwylion Louie oedd eistedd ger y 'stafell fach a chymryd rhif y bom a'i gofnodi'n ofalus mewn llyfr. 'Roedd rhaid nodi lliw y cylch a sicrhau fod y mesur cywir o'r nwy ynddi.
Weithiau, 'roedd rhaid gweithio'r nos a gwisgent siaced lwyd o wlân gan fod yr ogofâu a'r pyllau tan ddaear yn eithriadol o oer. Yno y cedwid y boms oedd wedi eu llenwi. 'Roedd rhaid mynd o gwmpas yn gwneud yn siŵr nad oedd dim yn gollwng. Pan symudid hwy ymlaen o'r ffatri, ni wyddai neb i ble yr aent. 'Roedd rheilffordd arbennig a thrên ger y ffatri i'w cychwyn ar eu taith.
Yn ystod y dydd, byddai'r merched yn cael cyfle i wneud paned gyda'u brechdanau, a hynny mewn 'stafell bwrpasol. Cofia Louie fod y merched yn dysgu dawnsio tango ar ôl cael cinio.
Cyn dod allan, 'roedd rhaid ail-newid o'r dillad ffatri, mynd drwy'r gawod a gwisgo eu dillad eu hunain.
'Roedd siars gref nad oedd y gweithwyr i ddatgelu natur eu gwaith i undyn. Bob hyn a hyn 'roedd rhaid arwyddo dogfen i gadarnhau na fuasent yn dweud dim.
Yn 1941 'roedd 262 yn gweithio yn Rhydymwyn ac erbyn 1944 'roedd yno 1038. Bu damwain yn 1942 pan anafwyd 11 o weithwyr. Y rhyfeddod yw na fu mwy o ddamweiniau.
Erbyn hyn mae Louie dros ei phedwar ugain ond mae'r atgofion am Rydymwyn yn dal yn fyw iawn yn ei chof. Tybed beth sy'n llechu yn y dirgel tanddaearol erbyn hyn? Pwy a ŵyr?
Anne Eluned Evans