BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
19eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Yr Ymgeiswyr: Leigh Jones, Richard Cameron, Gerallt Lyall ac Ynyr Llwyd Ffug Etholiad
Mehefin 2005
Ar fore Mercher Mai 4ydd, diwrnod cyn yr Etholiad Cyffredinol, buom ni yn Ysgol Glan Clwyd yn cynnal ein Hetholiad Cyffredinol ein hunain.
Yr ymgeiswyr (o Flwyddyn 11, 12 a 13) ar ran y gwahanol bleidiau oedd Richard Cameron (Ceidwadwyr), Leigh Jones (Rhyddfrydwyr Democrataidd), Gerallt Lyall (Llafur Newydd) ac Ynyr Llwyd (Plaid Cymru).

Bu'r ymgeiswyr yn gosod eu polisiau o flaen disgyblion eraill yr ysgol yn y gwasanaethau blwyddyn yn ystod yr wythnos flaenorol. Braf oedd gweld y disgyblion i gyd yn dangos diddordeb a gwrando'n astud ar yr ymgeiswyr fel bod pawb yn gwybod yn union yr hyn oedd pob ymgeisydd yn sefyll drosto cyn mynd ati i bleidleisio.

Bu pleidleisio brwd ar y bore Mercher, gyda phapurau pleidleisio pwrpasol wedi eu paratoi ar gyfer yr achlysur. Dyma ffordd ardderchog i ddysgu'r disgyblion sut i bledleisio a pham ei bod mor bwysig ein bod i gyd yn defnyddio ein hawl i bleidleisio. Wedi'r pleidleisiau gael eu cyfri, cyhoeddwyd y canlyniadau yn ystod yr awr ginio fel a ganlyn:

Ynyr Llwyd (Plaid Cymru) - 331 pleidlais.
Richard Cameron (Ceidwadwyr) -159 pleidlais.
Leigh Jones (Rhydd. Dem.) - 105 pledlais.
Gerallt Lyall (Llafur Newydd) - 84 pleidlais.

Llongyfarchiadau Ynyr! Diolch i'r holl ymgeiswyr am wneud yr etholiad yn un diddorol a bywiog. Diolch hefyd i bawb a fu wrthi'n ddygn yn cyfri'r pleidleisiau ac yn trefnu'r cyfan mor ddeheuig.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy