BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Gwyl y Cadi Ha Treffynnon Bwrlwm bro ar drothwy'r haf
Mehefin 2002
Cafwyd y bwrlwm arferol ym Mro Treffynnon yn nechrau mis Mai. Roedd yno rywbeth at ddant pawb!

Y Sadwrn cyntaf daeth y Cadi Ha' yn llawn direidi i arwain dawnsio lliwgar drwy'r Stryd i erddi'r Tŵr, cyn symud ymlaen i dir Abaty Dinas Basin Maesglas ac yna Caerwys. Daeth yr wyl flynyddol i ben mewn Twmpath yn Yr Wyddgrug.

Pwy oedd o Cadi 'ma tybed? Dywed Geiriadur Prifysgol Cymru wrthym mai ffurf anwes yw Cadi ar Catrin. Hen ferch o ddyn, busnesgi, ymyrrwr; un o'r dawnswyr haf gynt wedi gwisgo feI merch.

Un o'r cymeriadau traddodiadol
Fe ychwanega Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru mai un o'r cymeriadau traddodiadol ydoedd a gymerai ran yn nathliadau Calan Mai yng ngogledd ddwyrain Cymru pan gludid cangen haf o gwmpas yr ardal gan ddawnswyr.

Yn aml iawn, dyn ydoedd â'i wyneb wedi ei bardduo yn gwisgo côt dyn a phais merch! Wrth gwrs, ar lafar yn y gogledd ers y 19eg, gelwir rhywun merchetaidd yn Gadi Ffan.

'Steddfota
Ar yr ail Sadwrn cafwyd deuddeng awr o 'steddfota gwefreiddiol.

Llongyfarchiadau mawr i Dr. Aled Lloyd Davies, Yr Wyddgrug am ennill y Gadair, ac i Catrin Lyall Glan Clwyd a Christopher Griffiths, Caerwys am ennill Medalau Llên yr Ifanc eleni.

Yna, ar ddydd Sul y 12fed o Fehefin, daeth y dathliadau i ben yn hwyl y Jambori a'r Gymanfa Ganu.

'Hwyl fis Mai a chroeso fis Mehefin!'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy