BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Philip Jones Griffiths yn Eisteddfod Dinbych Colli cawr y camera
Mai 2008
'Nid elw piau'r hen ddaear ond mewn rhith' ... Waldo Williams. Teyrnged i'r ffotograffydd o Ruddlan, Philip Jones Griffiths.
Ar Fawrth 19 eleni, collodd ardal Y Glannau, Cymru, a'r byd, ddyn a lwyddodd i ddylanwadu mewn ffordd arwyddocaol iawn ar hynt a helynt hanes yr ugeinfed ganrif. Philip Jones Griffiths oedd y gŵr hwnnw, gŵr a fagwyd yn nhref Rhuddlan. Bu farw yn Llundain yn 72 oed.

Gweithiwr rheilffordd oedd ei dad, Joseph Griffiths. Hannai ei fam, Catherine, o Fôn a gweithiodd hi am flynyddoedd fel nyrs ardal Rhuddlan.

Ganwyd Philip yn 1936 mewn tŷ yn Lôn Hylas, yng nghysgod muriau castell Edward y Cyntaf. Dywedodd sawl tro bod presenoldeb gormesol yr adeilad hwnnw wedi bod yn ddylanwad mawr arno, ac wedi ei wneud yn ymwybodol o'r modd y mae cenhedloedd mawrion y byd, ar hyd yr oesau, wedi gormesu cenhedloedd bach. Ym mlynyddoedd ei blentyndod roedd Rhuddlan yn dref bur wahanol i'r hyn yw hi heddiw a thyfodd Philip mewn cymdeithas lle roedd y diwylliant Cymraeg yn parhau mewn grym. Roedd y newid a ddigwyddodd i'r dref yn sgîl y mewnfudiad mawr iddi o Loegr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn destun gofid mawr iddo.

Dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth yn ystod ei blentyndod, a chafodd ei ysbrydoli gan ddarlith ar y pwnc hwn gan athro lleol, E. Emrys Jones. Ar ôl mynychu Ysgol Ramadeg Llanelwy, aeth yn ei flaen i Brifysgol Lerpwl i astudio Fferyllfa Er iddo droi ei gefn ar ei ardal enedigol pan oedd yn 18 oed ar ei gyfaddefiad ei hun wnaeth o erioed ei gadael hi mewn gwirioned.

Hi, a Chymru, lle bynnag yr ai, oedd ei ysbrydoliaeth ac o bersbectif ei fagwraeth y gwelodd y byd a gynrychiolir yn ei lu Cadwodd mewn cysylltiad a hi ar hyd ei oes ac âi â chopi o'r Flodeugerdd Gymraeg i'w ganlyn ar ei deithiau ar hyd a lled y byd.

Yn ystod rhyfel ciaidd Fietnam, pan oedd holl gyfryngau'r byd Gorllewinol yn pledio achos yr Unol Daleithiau, roedd llais camera PJG ymhlith y lleiafrif bach a geisiai ddweud beth yn union oedd yn digwydd i werin Fietnam. Disgrifiodd yr hyn a welai yno fel '... bwystfil mecanyddol yn distrywio gwlad ddilychwin'. Mae llawer yn credu bod ei luniau wedi deffro cydwybod yr Americanwyr, codi cywilydd arnyn nhw ac wedi ysbrydoli'r mudiad protest grymus a orfododd y llywodraeth yn Washington i ddirwyn y rhyfel erchyll hwnnw i ben. Mae'r ysgolhaig Americanaidd, Noam Chomsky, wedi dweud na fyddai'r Unol Daleithiau wedi mynd i ryfel yn Irac nac Afghanistan pe byddai trigolion y wlad honno darllen Vietnam Inc, sef y gyfrol o'r lluniau a dynnodd Philip. Bellach mae'r gyfrol honno yn glasur a rhaid talu yn agos at £200 i gael copi ail-law ohoni.

Defnyddiodd Philip ei gamera a'i gelfyddyd fel erfyn i geisio gwrthweithio rhai o'r dylanwadau a ystyriai ef yn esgymun bethau. Plediodd achos y truan a'r gwan a cheisiodd godi ei lais yn erbyn y cwmnïau a'r corfforaethau mawr sy'n ceisio meddiannu'r byd gwneud pob dim a phopeth yn unffurf a diflas. Heddwch i'w lwch.

Atgofion am Philip

Philip yn y cwt glo!
Mae amryw o drigolion presennol Rhuddlan yn ei gofio fel plentyn, ac mae cysylltiadau rhyngddo a sawl man yn y dref yn parhau i fod yn fyw yng nghof llawer . Mae un wraig, sy'n dymuno bod yn ddi-enw, yn ei gofio yn dod oddi ar y bws ysgol, bob pnawn, at berthynas iddi oedd a stiwdio ffotograffaidd ym mharlwr ffrynt ei dy ar Ffordd y Rhyl yn Rhuddlan. Yno y dechreuodd ddysgu am y broses o ddatblygu ffilmiau. Y cwt glo oedd eu hystafell 'dywyll'!

Tynnu lluniau'r glowyr
Mae Gareth Griffiths, brawd Philip, yn ei gofio yn dod adref o Brifysgol Lerpwl bob penwythnos ac yn mynd, bob bore Sul i Bengwern, a ddefnyddid y pryd hynny gan Undeb y Glowyr, Swydd Derby. Byddai Philip yn tynnu lluniau'r criw oedd wedi bod yno am yr wythnos, yn rhuthro adref i wneud y gwaith datblygu ac yna'n prysuro'n ôl i ennill arian i gadw ei hun yn y coleg trwy werthu ei luniau.

Dro arall, pan oedd tîm pêl-droed Lerpwl yn chwarae gêm bwysig yn erbyn Spartak o Rwsia, a'r holl ffotograffwyr eraill yn defnyddio camerâu mawr, trwsgwl, Philip oedd yr unig un oedd a lens teleffoto. Ef oedd yr unig un a lwyddodd i dynnu llun y gôl a enillodd y gêm i Lerpwl, llun a ymddangosodd fore trannoeth mewn sawl un o bapurau newydd Lloegr.

Prynu'r Leica cyntaf
Roedd y Canon Glyn Price, Bodelwyddan, yn un o gyfeillion mawr Philip. Un arall yn yr un criw oedd y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts. Roedden nhw'n griw bywiog, yn llawn o syniadau radicalaidd, yn dadlau'n chwyrn gyda'i gilydd. Roedd pob un o'r pedwar yn benderfynol na fyddai dim un ohonyn nhw yn synio am ennill cyflog bras fel eu hunig nod mewn bywyd. Yn hytrach, roedden nhw am geisio gwneud rhywbeth a fyddai'n gwella'r byd a chyfrannu at ei ddatblygiad. Un haf, cafodd Philip swydd fel ffotograffydd yng ngwersyll gwyliau Lyons. gan ennill cyfanswm o £100. Ar y pryd, roedd y swm hwnnw'n sylweddol, ond er mawr syndod i'w ffrindiau gwariodd bob dimau oedd ganddo er mwyn prynu ei gamera Leica cyntaf. Bu'n defnyddio camerâu'r cwmni hwnnw ar hyd ei yrfa.

Cyfeillion oes
Mae Gerallt Llywelyn yn cofio Philip yn dda gan ei fod yn gyfaill oes i'w dad, y diweddar Barchedig William Lywelyn Jones, a fu'n weinidog yng Nghapel Bethesda, Prestatyn. Roedd ffotograffiaeth yn bwysig i'r ddau ohonyn nhw, a'r Parchedig W Ll Jones yn arbenigo ar gynhyrchu cyfresi o sleidiau ar hanes Cymru - cyfresi y byddai'n eu gwerthu i ysgolion. Pan fu farw'r Parchedig W Ll. Jones, daeth Philip yn un swydd yr holl ffordd o Baris i dalu'r deyrnged olaf i'w hen gyfaill.

Yn blentyn yn yr Ysgol Sul
Mae Mrs Evelyn Evans yn cofio Philip yn nosbarth Ysgol Sul Capel y Tabernacl. Roedd Philip yn 'gymeriad'. Gwnâi yr hyn a ddymunai ei wneud, ond doedd dim modd rhoi perswâd arno os nad oedd rhywbeth at ei ddant. Roedd ei daid a'i dad yn gantorion da, ond doedd canu ddim yn un o hoff bleserau Philip a chymrai arno nad oedd yn medru! Mae Mrs Evans yn cofio ffrwydrad yn y sied lle roedd un o arbrofion Philip gyda chemegau wedi mynd o chwith ac amdano yn llwyddo i osod peiriant petrol ar ei feic ymhell cyn iddo fod yn ddigon hen i fod a hawl i'w reidio!

Byw dros y ffordd
Roedd y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts yn byw yn Lôn Hylas, yn y tŷ gyferbyn â chartref Philip. Mae'n cofio fel roedd Philip wedi gwneud ystafell dywyll iddo'i hun yn y sied ym mhen yr ardd, yn cofio am y siop a agorodd mam Philip yn ystafell ffrynt y tŷ. Yn ystod cyfnod Elfed yng Nghaergrawnt byddai'n mynd i Lundain i gyafarfod ei hen gyfaill. Erbyn hynny roedd Philip yn gweithio fel fferyllydd yn nghangen Piccadilly cwmni Boots. Yno, pan nad oedd y fferyllfa'n brysur, byddai'n helpu i ddatblygu lluniau yn yr adran ffotograffiaeth. Dyna pryd, mae'n debyg, y penderfynodd roi gorau i'r yrfa honno gan ddatgan: 'Unwaith rydych chi wedi gorfod cyfri 1000 o dabledi, rydych chi'n gwybod ei bod hi'n amser gadael!'

A gadael wnaeth o.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy