BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Hefin gyda'i dractor Fordson bach Rali Hen Beiriannau
Mai 2005
Yn 1984 - 1985 roedd gan Bwyllgor Apêl Llanelwy darged o £3000 i'w gasglu tuag at Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl.
Cynhaliwyd nifer fawr o atyniadau cymdeithasol i godi'r arian ac un ohonynt oedd Rali Hen Beiriannau ar dir Roe Parc yn Llanelwy.

Oherwydd fy niddordeb mewn hen dractorau a pheiriannau roedd wedi bod yn uchelgais gennyf ers rhai blynyddoedd i drefnu Rali o'r fath ac o'r diwedd daeth y cyfle ac roedd y Pwyllgor Apêl yn gefnogol iawn i'r syniad er nad oedd gan yr un ohonynt syniad beth yr oeddwn yn ymrechu i'w wneud.

Y cam cyntaf oedd cael caniatad Cyngor Tref Llanelwy ac wedi ysgrifennu llythyr at y clerc cefais wahoddiad i roi fy syniadau o flaen aelodau'r Cyngor. Roedd y profiad yn debyg iawn i gyfweliad am swydd ond cefais eglurhad ganddynt am y rheolau a oedd ynghlwm â chynnal unrhyw ddigwyddiad ar dir Roe Parc. Er enghraifft, doeddwn i ddim yn cael defnyddio'r cae i barcio ceir yr ymwelwyr a hwn oedd y rhwystr cyntaf o lawer. Er nad oeddent yn deall yn llwyr beth oeddwn am ei wneud roeddent yn weddol gefnogol i'r syniad a chefais wahoddiad i'w hail gyfarfod pan oedd gen i gynlluniau mwy pendant.

Gan fy mod yn aelod o ddwy gymdeithas hen beiriannau roedd gen i lawer o gysylltiadau a doedd cael pobl i ddod i arddangos eu tractorau ac ati ddim yn broblem ond roedd yn rhaid creu ffurflen gofrestru gydag amodau yswiriant ac yn y blaen arni. Roedd angen trefnu "public liability insurance", bwyd i'r cyhoedd, argraffu catalog a phosteri, cael ffair i'r plant, a rhywle i barcio'r ceir.

Ar ôl misoedd o waith roeddwn mewn sefyllfa i fynd yn ôl at y Cyngor. Unwaith eto roeddwn o flaen y pwyllgor llawn. Teimlwn y tro yma fy mod yn gallu rhoi gwell syniad o'r diwrnod a'r trefniadau, ac roeddent yn gefnogol iawn gan ddweud y buasai yn beth da iawn i'r dref.

Erbyn diwrnod y Rali roeddwn wedi cael amrywiaeth o atyniadau yn cynnwys hen dractorau wrth gwrs ac injan ddyrnu yn cael ei throi gan dractor Marshall. Roedd nifer o hen geir a beiciau modur, injans oel, casgliadau o fodelau a hen gelfi, ac injan stem bach a fu'n cario plant o amgylch y cae drwy'r dydd. Hefyd roedd llawer o stondinau crefftau a chyfle i bobl daflu coets. Yn wir, roedd dros 150 o atyniadau i gyd.

Trefnais i gyhoeddi catalog oedd yn enwi pawb a oedd yn arddangos rhywbeth ar y diwrnod ac ar ôl cael busnesau bach Llannelwy i dalu am roi hysbyseb ynddo, llwyddais i dalu costau argraffu y catalog, y posteri hysbysebu ac yn y blaen gyda ychydig elw ar ôl.

Trefnais fod plac pres gyda logo'r Eisteddfod arno i'w gyflwyno i bawb oedd wedi arddangos yno a hefyd cyflwynwyd un i faer y dref.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant, yn ariannol yn ogystal ag yn gyfle i deuluoedd y dref gael diwrnod allan o fewn pellter cerdded i'w cartrefi. Gwnaethom elw o £1200 (er mai 70c oedd tâl mynd ar y cae) ac roedd hyn yn ollyngdod i Eleri a minnau gan ein bod wedi rhoi swm eithaf o arian o'n poced ein hunain i drefnu'r diwrnod.

Gweithiodd aelodau'r pwyllgor Apêl yn galed iawn ar y diwrnod. Roedd rhai yng ngofal y stondin fwyd, rhai yn gwerthu nwyddau'r Eisteddfod ac eraill yn gofalu am y maes parcio tu ôl i syrjyri'r doctor. Y person a ddaeth bellaf i arddangos oedd ffrind i mi, sef Wally Ap Simon o Gaerdydd gydag injan oel ac roedd yn fwy na bodlon i yrru un o'r tri tractor oedd gennyf i yn y sioe.

Yn dilyn llwyddiant y diwrnod gofynnodd y Cyngor Tref i mi drefnu un o 'r fath bob blwyddyn ond gwrthod oedd raid i mi neu mi fuaswn wedi cael ysgariad yn fuan iawn!

Rhywbeth a ddaeth yn amlwg o'r diwrnod hwn oedd bod yna angen cymdeithas yn Nyffryn Clwyd i bobl oedd â diddordeb mewn hen beiriannau, a dyna pryd y sefydlais Gymdeithas Hen Dractorau Dyffryn Clwyd sydd bellach wedi bod mewn bodolaeth am 20 mlynedd. Rydym wedi cynnal cyfarfodydd yn fisol drwy'r gaeaf a hynny drwy'r iaith Gymraeg. Bob blwyddyn mae rhwng 35 a 50 yn ymaelodi ac rydym wedi cynnal 'Diwrnod Troi' bob blwyddyn bron am 19 mlynedd ac wedi rhoi cyfle i'r aelodau a llawer o ddynion a merched o bell ac agos gystadlu gan ddefnyddio hen dractorau ac erydr.

Roedd Pwyllgor Apêl Llanelwy tuag at Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006 (er nad oedd wedi ei sefydlu ar y pryd!) yn ddigon craff i ymgymryd â'r dasg o baratoi'r bwyd yn Niwmod Trot 2004 a byddant yn gwneud yr un fath eto yn 2005 a thrwy hynny yn chwyddo coffrau Apêl Llanelwy unwaith eto.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy