BBC HomeExplore the BBC

LLUN
21ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Yn yr ardd
Mae Ionawr yn fis tawel, ond mae yna ddigon i'w wneud yn yr ardd. Darllenwch rai o dips Bryn Williams ...
Am y tro cyntaf ers dros deugain mlynedd, nid wyf wedi bod yn pluo twrcwns at y Nadolig eleni. Llynedd roedd gennym 7,000 i'w pluo!

Er hynny, amser prysur yw'r Nadolig. Yna mis tawel yn yr ardd ond mae digon i'w wneud, sech hynny.

  • Codwch y planhigion mewn potiau oddi ar y llawr ac allan o'u soseri rhag iddynt rewi, a dodwch nhw mewn llecyn cysgodol i gymryd mantais o'r ychydig o heulwen sydd ar gael. Ond rhaid eu cysgodi o'r gwyntoedd oer. Os yw'r planhigion braidd yn dyner, gorchuddiwch nhw mewn 'bubble wrap' neu y cnu-ffug, ond rhaid clymu'r rhain yn ofalus neu fe ânt gyda'r gwynt.

  • Cyweiriwch y ffensys, pyst a threlis. Dyma'r amser i beintio'r waliau a tu ôl i'r dringwyr, yna eu clymu yn iawn wrth eu rhoi yn ôl.

  • Rhaid clymu coed, llwyni, rhosod, brocoli a bresych Brwsel at byst os yw'r gwynt yn eu hysgwyd. Mae hen sanau marched yn wych at y gwaith yma.

  • Rhowch fin ar gyllell y torrwr porfa a rhowch archwiliad i'r peiriannau. Mae pob llyfr garddio yn dweud wrthym am wagáu bob mymryn o betrol allan o'r peiriant dros y gaeaf am ei fod yn hel dwr o'r awyrgylch - ond nid ydynt yn dweud wrthych beth i'w wneud efo'r petrol wast. Mae'n beth peryg ofnadwy, a'r peth olaf ydych eisiau ydyw rhyw hen boteli hanner llawn o hylif dienw o gwmpas y sied.

  • Archebwch eich hadau, tatws Hâd setiau nionod ac unrhyw beth arall sydd yn edrych mor ardderchog yn eich catalog. Os yw'r gwyntoedd oer yn parhau i wneud difrod i'r rhosod neu'r llwyni, tociwch nhw at eu hanner. Tociwch y fuchsias at 1/3.

  • Di-heintiwch botiau a bocsys (Jeyes Fluid ne Citrose.) Taflwch lygad dros y ffrwythau yn y stôr rhag ofn bod rhai yn pydru.

  • Mewn ystafell-haul neu dŷ gwydr, neu unrhyw fan dan do, casglwch bob deilen a phob blodyn sydd wedi marw a'u dodi yn y tân neu yn y swp compost er mwyn cadw ffwng draw. Am yr un rheswm dodwch y mymryn lleiaf o ddŵr iddynt. Gofalwch chwistrellu yn erbyn yr aphids a'r pryfed gwynion. Newidiwch eich ffwng-laddwyr yn aml. Maent yn datblygu y gallu i wrthsefyll y chwistrellydd os ydych yn defnyddio yr un bob tro.

  • Gellwch hau, mewn tŷ gwydr di-wres, bys-pêr, nionod y Gwanwyn, ffa, letys a phys a tu allan -ffa, pys, radish a nionod y Gwanwyn - pryd? Unwaith -y gwelwch y chwyn yn blaguro!

    Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll.

    Bryn Williams


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy