BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Castell Rhuddlan Melinau ar yr afon Ffyddion
Erthygl gan y diweddar Islwyn Morris, Rhuddlan a ysgrifennwyd tuag ugain mlynedd yn ôl.
Roedd melin yn y gorffennol yn Lôn y Pentre, Rhuddlan, a dyma'r man neu'r pandy hynaf a gofnodir yng Nghymru. Yn anffodus dim ond safle'r felin sydd ar ôl ond fe ellir gweld ar adegau olion Llyn y Felin yn ystod y gaeaf. Yr afonig fechan o'r enw Afon Goch sy'n rhedeg drwy gwrs golff Rhuddlan a roddai bŵer i'r felin.

Rhyw hanner milltir yn uwch i fyny'r afon fe ddown at Fferm y Pentre. Dyma fferm tra adnabyddus yn hanes Rhuddlan ac un o safleoedd melinau Castell Rhuddlan yn ystod nerth neu rym y castell.

Gweithredu fel melin meillion
Malu ŷd a wneid yma am y rhan fwyaf o'i hoes ond cefais wybodaeth y bu'n gweithredu fel melin meillion am rai blynyddoedd cyn iddi gael ei chau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyfeisiwyd peiriannau newydd ar ôl hyn a fyddai'n gallu malu'r meillion gan adael yr hadau ar ôl i'w plannu yn y flwyddyn ddilynol.

Rhyw filltir ymhellach i fyny'r afon fe ddown at Felin Llewerllyd. Mae'r adeilad bellach yn dy annedd ond mae plac ar yr adeilad sy'n honni mai ei ddyddiad adeiladu oedd 1785.

Gellir gweld golygfa dda o lôn Dyserth i Ruddlan o safle'r felin yma.

Y melinydd olaf
Y dyddiad olaf i'r felin falu oedd 1960. Gwr o'r enw Mr. Williams oedd ei melinydd olaf a phreswyliai yno gyda'i chwaer Miss Edith Williams.

Cefais sgwrs hir gyda hi yn 1977 a dywedodd ei bod yn bedair oed yn symud yno. Roedd Miss Williams yn 82 ar y pryd ac felly fe symudodd y teulu yno yn 1899 o Abergele.

Ei thad oedd Thomas Williams a anwyd yn Tyddyn Uchaf Bach tra'r oedd ei mam yn hanu o Ty'n y Caeau, Betws yn Rhos. Prentisiwyd ei thad gyda Lloyd Llwyd ym Melin Llanfair Talhaearn a phan ddaeth Melin Llewerllyd yn wag manteisiwyd ar y cyfle i symud yno.

Dal yslywod ac eogiaid
Ni chofiai Miss Williams yr olwyn ddwr erioed wedi rhewi ond cofiai'r teulu'n dal yslywod ac eogiaid yn ffrwd y felin. Arferai ei brawd ddefnyddio picfforch i'w dal.

Arhosodd Miss Williams gyda'i brodyr yn y felin hyd ei chau.

Roedd fflodiart yn y cae ac yn ystod llifeiriant gadawyd i'r dwr ychwanegol lifo tuag at Aber Rinsey.

Cofiai Miss Williams gerdded bob gyda'r nos gyda pheint a hanner o lefrith i wr o'r enw Mr. Kirkham a oedd yn byw yn Nyserth.

Cerddai drwy'r caeau gyda llefrith a châi geiniog a dimai amdano. Credai Mr. Kirkham fod llefrith hwyr y p'nawn yn fwy maethlon na llefrith bore.

Dywedodd Miss Williams hefyd fod ffermwyr cylch y Rhyl yn talu am falu eu hyd ond byddai'n well gan ffermwyr cylch Trelawnyd, Cwm ac Abergele dalu toll. Felly roedd yn y felin bob amser rywfaint o rawn.

Dywedodd Miss Williams wrthyf ei bod wedi rhoddi'r Tirpec a'r Ffiol i'r Amgueddfa yn Sain Ffagan.

Gweithio ddydd a nos
Fe gymerai ddwy awr i lyn y felin lenwi ac ar adegau rhaid oedd gweithio ddydd a nos. Roedd perygl i'r meini malu boethi gormod a rhoi'r lle ar dân.

Fe gofiai Miss Williams un flwyddyn pan roedd black blight ar yr ŷd gan ei wneud yn anodd i'w falu ac roedd y gwragedd i gyd yn cwyno nad oedd y bara'n codi wrth ei bobi.

Ambell ddiwrnod fe fyddai pum fferm wedi dod â'u cynnyrch yno ac fe welid pedair trol a'u ceffylau ar y buarth yn eithaf aml.

Cedwid buwch a moch ganddi hi a'i brawd a defnyddir yr eisin i fwydo'r anifeiliaid.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy