BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Naid y March Naid y March
Hydref 2008
Elfed H. Evans yn rhoi esboniad am enw anghyffredin y pentre bychan yn Sir y Fflint.

Hanner ffordd rhwng Brynford a Phantasaph mae pentre bychan o'r enw Naid y March. Mae'n enw od iawn a does neb yn sicr sut y cafodd ei enw, ond mae pawb yn credu ei fod rhywbeth i'w wneud â'r ddwy garreg sydd wrth ochr y ffordd. Cerrig calch tua llathen o daldra ydynt gyda 25 troedfedd rhyngddynt, a mae'n amlwg na fu cŷn na morthwyl ar eu cyfyl erioed. Mae na bwll bas, tua 6 troedfedd ar draws, yn y canol rhwng y ddwy garreg, sy'n awgrymu fod rhywun efallai wedi dechrau suddo siafft yno ar un adeg.

Gwyddom i sicrwydd fod yr enw yn mynd yn ôl cyn belled â 1613, oherwydd fe welir yr enw 'Horse's Leap' ar fap o eiddo perchnogion Mynydd Helygain. Gelwir hwy yn Naid y March gan Thomas Pennant yn ei lyfr 'History of the parishes of Whiteford and Holywell [1796]' ac fe dybia eu bod yn perthyn i'r cyfnod Brutanaidd; ond cred eraill eu bod yn hŷn na hynny ac wedi eu gosod yn ystod yr oes Efydd.

Y cwestiwn sy'n cael ei ofyn yn fynych yw 'Pam y gelwir y ddwy garreg yn Naid y March?'. Yn ei lyfr 'Gleanings of the Histories of Holywell [1831]' dywed yr awdur Poole fod y sgweier Thomas ap Harri, a oedd yn byw yn y ffermdy Perth-y-Maen ger Trelogan, wedi neidio gyda'i geffyl rhwng y ddwy garreg rhyw bum can mlynedd yn ôl. Yn bersonol, derbyniaf hyn, ond credaf fod yr enw Naid y March yn llawer hŷn na hynny. Yn yr hen amser, defnyddid mesurau fel modfedd, troedfedd, cam, gwrhyd a thafliad-carreg i fesur hyd pethau gan bobl yn eu bywyd beunyddiol. Roedd yn naturiol felly iddynt ddefnyddio 'naid march' i ddynodi y pellter rhwng y ddwy garreg. Ymddengys mai camu y pellter rhwng y ddwy wnaeth Pennant oherwydd rhydd y mesur fel 'tua 22 troedfedd'.

Ers sawl blwyddyn bellach, mae Bwrdd Ymgynghorol Helygain [Halkyn JCB] wedi bod yn ceisio edrych ar ôl buddiannau'r comin drwy gyfarfod rhyw bedair gwaith yn y flwyddyn. Yn un cyfarfod, derbyniwyd llythyr gan Norma Walmsley o'r pentre yn cwyno am gyflwr y ddwy garreg, oherwydd yr oeddent wedi eu gorchuddio gan chwyn a phrysgoed. Yn dilyn hyn, ffurfiwyd gweithgor bychan, gyda Gwyn Williams, cyn lyfrgellydd y Sir, yn geffyl blaen arno, er mwyn ceisio adfer a diogelu'r cerrig.

Drwy gymorth Cadwyn Clwyd, cafwyd arian i wneud y gwaith angenrheidiol gan Cemex, sef perchnogion chwarel Pant-y-Pwll Dŵr. Gwnaed ffens addurnedig gan y gof Richard Jones, Dyserth, i ddiogelu'r cerrig ac fe welir cerfluniau arni sy'n adlewyrchu cefndir y fro. Yn ogystal, gosodwyd tabled wrth ochr y ffens sy'n rhoddi hanes traddodiadol y ddwy garreg. Ar ddydd Sadwrn, Awst 16 2008, fe ddathlwyd gorffen y gwaith drwy gynnal cyfarfod ar y safle a bedyddio'r tabled yn y ffordd arferol. Yn dilyn hynny, cafwyd barbiciw bendigedig a llawer o hwyl yng ngardd fferm Naid y March, sydd o fewn tafliad carreg i'r cerrig enwog.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy