BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Beic O Gaerdydd i Gaergybi
Gorffennaf 2009
Pum diwrnod o feicio - dyna'r gamp a gyflawnodd Nan Hughes o Ruddlan er budd elusen BOBATH, y ganolfan sy'n gofalu am blant sy'n dioddef o barlys yr ymennydd.

Dydd Sadwrn, Mai 23
Cyfarfod ym Mae Caerdydd am 7.30 y bore ar Fai 23 a chyfarfod y criw am y tro cyntaf. Beicio'n hamddenol wedyn drwy strydoedd gweddol wag ar fore Sadwrn a chyrraedd llwybr beics hyd lan Afon Taf, a hyd ffyrdd cefn i Ferthyr Tudful i gael cinio. Aros mewn hostel a chwarae gemau i ddod i 'nabod y criw yn well.

Dydd Sul, Mai 24
Bore bendigedig o braf wrth gronfa dŵr Tal-y-bont, ger Aberhonddu, a hanner can milltir o daith i Raeadr - hyd waelodion Bannau Brycheiniog tua Thalgarth, y Felindre a Llanfilo. Hyd hen reilffyrdd a lonydd coed braf hyd at Y Clas-ar-Wy, a chinio wrth ochr yr afon. Dringo wedyn am 16 milltir i gyrraedd Talgarth, Llanelwedd, Cwm Elan a Rhaeadr. Swper a gwely cynnar er mwyn medru wynebu taith galed i Garno drannoeth.

Dydd Llun, Mai 25
Nid oeddwn yn edrych ymlaen at y diwrnod yma - bu'n daith galed ddwy flynedd yn ôl - ond mwynhaeaid y diwrnod eleni. Gadael dyffryn Afon Wysg a gwynebu Canolbarth Cymru. Cinio mewn coedwig a dringo wedyn i ben uchaf y Lôn Las - lle mae'r arwyddbost yn nodi'r man uchaf - tua 510 metr ar ben Pumlumon. Golygfa o fynyddoedd Eryri. Tua 12 milltir i lawr allt yr holl ffordd i Fachynlleth a thros y bont newydd dros Afon Dyfi i Gorris ac aros yn nhafarn Y Fraich Goch yn barod am lond bol o fwyd, a dyna a gawsom, pryd ardderchog, ar ôl byw ar ddŵr, brechdanau, ffrwythau sych a bananas.

Dydd Mawrth, Mai 26
O Gorris i Dremadog. Cychwyn i fyny clamp o allt i fyny Mynydd Ceiswyn i'r ffordd fawr ger Minffordd wrth droed Cader Idris. Trosodd i Ddolgellau, aros dipyn ar y Marian, croesi Afon Mawddach a chael lôn wastad braf yr holl ffordd i'r Bermo - gwynt cryf o'r môr i'n hwynebau. Aros ar lan y môr i gael cinio, teithio drwy Dal-y-bont, Dyffryn Ardudwy a Harlech ac i fyny am Gwm Bychan a'r enwau'n perarogli - Eisingrug a Glyn Cywarch. Talsarnau, Penrhyndeudraeth a Minffordd, dros y Cob i Borthmadog, Tremadog a Golan. Aros mewn hostel braf.

Dydd Mercher, Mai 27
Glaw fel o grwc! Gorfod gwisgo'n dillad glaw am y tro cyntaf (cyn bwysau i'w cario ar y beic). I Ddolbenmaen, heibio ffermydd Ymwlch Bach a'r Gell, ger Cricieth, yna i lawr at lan y môr, a hithau'n dal i chwythu a bwrw glaw. Heibio Cae Llo Brith a heibio bedd Lloyd George, y Lôn Goed a Chapel y Beirdd i Fryncir, hyd Lôn Eifion i dref Caernarfon. Yna hyd ffyrdd cefn Ynys Môn yr holl ffordd i Gaergybi. Cael swper da a thystysgrif hardd i gofio am y daith.

Diolch am bob cyfraniad a gafwyd. Mae'r swm a godwyd i BOBATH gennyf erbyn hyn yn £1500 ond nid wyf wedi gorffen hel yr addewidion. Diolch yn fawr i bawb.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy