BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Clawr y llyfr Cofio'r Cefn
Gorffennaf 2007
Yn ystod saithdegau y ganrif ddiwethaf roedd carafán gennym wrth ochr yr afon Elwy yn agos iawn i Marli.
Roedd prynu'r garafán yn benderfyniad doeth. Mewn llai na chwarter awr o'n cartref yn y Rhyl roeddem yng nghanol llonyddwch a phrydferthwch y wlad. Mae'r profiad yn peri imi ofyn y cwestiwn: Pwy sydd yn gweld rhyfeddodau - y peilot sydd yn hedfan ledled y byd, neu'r ffarmwr sydd yn gweithio'n agos i natur?

Ar y pryd nid oeddwn yn ymwybodol o bwysigrwydd a rhamant hanes Cefn Meiriadog, yma yn ogofau'r plwyf mae digon o dystiolaeth i gynhyrfu archeolegwyr a haneswyr. Rwy'n dyfynnu o adroddiad 1984 Dr. Stephen Green o Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

"The recent excavations have made Pontnewydd Cave into a site of international importance. It is now known that the cave was occupied by humans a quarter of a million years ago. Pont-newydd Cave scores a number of firsts and, for this reason, has appeared in the Guinness Book of Records, it is the oldest known occupied site in Wales; it has produced the oldest human tooth ever found in Britain; and it is the most north-westerly earlier Palaeolithic site in Europe."

Mae'n werth ei ailddarllen - mae'r brawddegau mor bwysig a chyffrous!!

Wrth gwrs, mae hanes canrifoedd sydd yn agosach o lawer i'n dyddiau ni yn amlwg iawn yno hefyd - y ffordd Rufeinig, Catrin o Ferain - mam Cymru, y "Cross Foxes" gynt yn dafarn a chartref mam H.M. Stanley, capeli, eglwysi, ysgolion. Roedd dwy ysgol yma, a llu o bynciau difyr eraill.

Daeth dau beth yn amlwg wrth ddarllen "Cofio'r Cefn". Yn gyntaf mor bwysig yw hi ein bod yn ymwybodol o'n hanes lleol. Ac yn ail fod cerdded ein milltir sgwâr a'n llygaid ar agor yn grefft werth ei pherffeithio.

A diolch am yr arwyr sydd a'r weledigaeth, y gallu a'r egni i sicrhau nad yw hanes ein hardaloedd yn mynd ar gall. Oherwydd brwdfrydedd a gwaith di-flino Meurig Owen a'r pwyllgor bychan daeth Cymdeithas Hanes Cefn i fodolaeth ym 1977. Cam pwysig oedd penderfynu cyhoeddi y cy1chgrawn "Cofio'r Cefn" i gofnodi y darlithoedd difyr a phwysig a draddodwyd yn y cyfarfodydd. Yma cawn hanes plwyf trwy gyfraniadau archeolegwyr, daearegwyr, haneswyr ac hefyd, deuluoedd ac unigolion sydd wedi byw yng Nghefn Meiriadog ar hyd eu hoes.

Mae'r lluniau diddorol yn ychwanegu at stori'r Gymdeithas. Ffotograffau o adeiladu hanesyddol y cylch, a hefyd o dripiau'r aelodau i wahanol rannau o Brydain ac Ewrop. Mae yma hefyd luniau pensil arbennig gan yr arlunydd Jenny Brown.

Ffrwyth hyn i gyd yw'r llyfr hwn sydd yn dathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn drideg. Llongyfarchiadau cynhesaf iddynt a llongyfarchiadau calonnog i Meurig Owen am ei waith clodwiw yn golygu cyhoeddiad sydd mor ddifyr a gwerthfawr.


[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy