BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
16eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Blodau Mis Mai yn yr ardd
Wedi treulio pum wythnos unwaith eto yn Awstralia a Seland Newydd fe welais y wlad yna ar ei gorau; digonedd o ddŵr a phobman yn wyrdd ar ôl yr holl sychder fu cynt.

Llenwodd Llyn Eyre â dŵr; a dim ond unwaith bob rhyw ddeng mlynedd mae hyn yn digwydd. Roedd y borfa yn tyfu yn gyflym iawn a'r llwyni yn blodeuo yn hardd.

Adref at fis Ebrill - y mis creulon dywed rhai - a dyma fi ar ôl diwrnod oer gwlyb yn meddwl am Fis Mai.

Gofalwch pan yr ydych yn tocio llwyni mawrion nad oes yna nythod adar a chywion ynddynt. Gadewch iddynt hedfan cyn tocio'r llwyn neu wrych. Tociwch Forsythia a Jasmine y Gaeaf ar ôl i'r blodau ddarfod - hefyd cyrants-coch-blodeuol a Kerria Japonica.

Clirio hen dyfiant

Torrwch un o bob tri o'r hen dyfiant i lawr at y llawr ac os ydynt yn rhy uchel tociwch i lawr at flaguryn cryf.

Tociwch yn ôl y Clematis a flodeuodd yn y Gwanwyn e.e: C Montana unwaith mae'r blodau wedi darfod os ydyw wedi ordyfu yn ei le. Tacluswch wrychoedd fel Lonicera Nitida, Potentilla, Privet, Viburnum Tinus ac (ar ôl iddynt flodcuo) Berberis Chaenomeles ac Osmanthus Delavayi. Mae'r gwenyn yn hoff iawn o'r olaf o'r rhain. Torrwch ddail y Genhinen Pedr unwaith maent yn dechrau marw.

Sicrhau tyfiant

Rhaid clymu yn saff dyfiant newydd y dringwyr, fel maent yn tyfu. Os medrwch glymu nhw fel bod y tyfiant i'r ochor, cewch fwy o flodau. Fel mae'r blodau yn marw rhaid eu torri fel bod y maeth yn mynd i annog tyfiant a blodau y flwyddyn nesaf.

Os nad yw hyn yn cael ei wneud, cewch fwy o hadau a llai o dyfiant. Os ydych wedi hau hadau blodau blynyddol ym Mawrth neu Ebrill bydd yn rhaid ichwi eu teneuo er mwyn cael blodau gwell.

Os y cewch ddiwrnod poeth sych, manteisiwch ar y cyfle, i ddefnyddio yr hof (hoe) i ladd y chwyn. Plannwch unwaith maent wedi caledu, y llysiau a blodau blynyddol hefyd "bylbiau"yr haf e.e. Gladioli a Dahlias. Rhaid dyfrhau os yw yn sych, unrhyw blanhigion neu hadau sydd wedi eu plannu ers y Hydref.

Dodwch mulch ar y borderi wedi eu dyfrhau, bydd y mulch yn cadw'r chwyn i lawr hefyd. Codwch a rhannwch sypiau o Gennin Pedr a Polyanthum unwaith mae'r blodau wedi darfod. Mae cael gormod mewn un man yn un o'r achosion pam nad ydynt yn blodeuo.

Beth i'w hau

Dyma'r adeg i hau hadau Canterbury Bells, Bysedd y Cwm (Foxgloves), Honesty, Sweet William, Calendula, Candytuft a Nasturtium. Cymerwch doriadau o Delphiniums, Larkspur, Hollyhocks. Defnyddiwch y tyfiant newydd o'r gwaelod unwaith maent tua 2"-4" (neu 5cm i 10cm). Rhaid torri'r lawnt unwaith yr wythnos i gadw'r tyfiad rwan a dodwch wrtaith yn cynnwys nitrogen, os yw'r dail yn oleu eu lliw.

Dodwch drapiau Pheromone ar y coed afalau ar gellygen i ddal a lladd y Codlin Moth sydd yn difetha'r ffrwythau. Edrychwch o dan ddail y gwsberen neu Eirinen Fair i gasglu a lladd cynrhon y 'Sawfly'. Mae'n haws defnyddio chwistrellydd. Rhaid rhoi rhwydi dros y mefus rhag i'r adar a'r wiwerod eu bwyta. Rhaid cadw'r gwlithod a'r malwod i ffwrdd hefyd. Codwch y pridd o amgylch y tatws fel nad oes dim ond blaen y blagur i'w weld.

Mae'n amser hau allan letys, bresych, moron, ffa ffrengyg, kale letys, pys a phanas. Hefyd radish, spinach, nionod y gwanwyn a brocoli. Yn y tŷ gwydr, gofalwch fod planhigion ifainc yn cael cysgod rhag yr haul rhwng 11 y bore a 3 y prynhawn. Mae yna Shade Netting ar gael neu Shade Wash i'w roi ar y gwydr. Awyrwch y tŷ gwydr a'r fframiau oer pan mae'n braf.

Plannwch cucumber a thomatos os gallwch gadw y tymheredd fel nad yw'n syrthio yn is na 10 gradd Celcius. Dodwch ddwr a bwyd yn rheolaidd i blanhigion y tŷ. Plannwch allan, unwaith maent yn ddigon mawr, y rhai gawsant eu hau ym mis Ebrill. Nid yw yn rhy hwyr i docio ychydig ar y mafon. Torrwch allan yr hen dyfiant a rhwymwch y tyfiant newydd i'r gwifrau. Fe ellwch blannu tatws Maincrop - byddent yn barod erbyn Medi a Hydref.

Ond yn Awstralia buaswn yn bwyta ffrwythau di-rif nawr!!

Bryn Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy