BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Garddio Fuoch chi 'rioed yn garddio?
Ebrill 2009
A hithau'n fis Ebrill mae'r gerddi'n galw eto!

Bydd y garddwr profiadol wedi cynllunio a pharatoi eisoes, a bellach yn hau a phlannu. Ond beth am y rhai ohonoch sydd erioed wedi rhoi eich dwylo yn y pridd? Wel, beth bynnag yw eich oed (a mae'r sawl sy'n llunio'r geiriau hyn wedi hen fynd heibio oed yr addewid!) nid yw byth yn rhy hwyr.

Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd aeth pob math o fwydydd yn brin iawn ym Mhrydain. Cyn y rhyfel byddai 55 miliwn tunnell yn cael eu mewnforio o wledydd tramor. Disgynnodd hynny i lai na'r hanner wrth i longau tanfor yr Almaen suddo y llongau a'i cludai yma. Roedd gwir beryg y gallai poblogaeth yr ynysoedd hyn lwgu. Ac aeth y llywodraeth ati i lunio polisi anarferol iawn sef dogni pob eitem o fwyd yr oeddem yn ei fwyta. Ychydig iawn o fenyn a siwgwr a chig a hyd yn oed o lefrith y byddai pawb yn ei gael bob wythnos. Ac roedd pawb yn gwbwl gaeth i'r drefn honno. Wrth gwrs roedd ffrwythau o dramor fel yr oren a'r banana wedi diflannu yn llwyr o'r siopau. Pa ryfedd felly fod casglu aeron a mwyar o'r cloddiau yn yr hydref yn rywbeth y byddai pawb yn ei wneud?

Ond yn ogystal â'r dogni caeth lluniodd y llywodraeth bolisi arall cyfochrog. Slogan yr ymgyrch hon oedd 'Dig for Victory'. Roedd pawb i wneud ychydig o arddio a thyfu bwyd. Ac yn wir llwyddodd y polisi tu hwnt i bob disgwyl. Aeth y cynghorau lleol ati drwy'r wlad i ddefnyddio eu rhandiroedd a'u parciau a'u troi'n erddi cynhyrchiol. Trowyd borderi blodau yn lle i dyfu bresych! Ac roedd disgwyl i bawb wneud yr un peth yn y cartref. Palwyd tir pob lawnt a defnyddiwyd y buarth cefn. Anogwyd ni hyd yn oed i gadw mochyn neu afr, cwningen neu ddwy ac ychydig o ieir. Gallai'r cymdogion gynorthwyo gyda'r bwydo trwy estyn eu gwastraff a'u crafion. Dyna ail-gylchu o'r iawn rhyw ynte? Ac fe weithiodd y ddau gynllun yn rhyfeddol.

Ond beth sydd a wnelo hyn â ni heddiw? Wel, oni ddylai cyflwr ein economi byd-eang, ynghyd â goblygiadau brawychus y newid yn yr hinsawdd, ein sobri i gyd a pheri i ni ail-ystyried rhai agweddau ar ein ffordd o fyw? Onid oes modd i bawb ohonom wneud ychydig i leddfu'r sefyllfa? Rydym bellach wedi dygymod â'r drefn ail-gylchu; onid oes modd i ni ddod yr un mor gyfarwydd â'r egwyddor o dyfu ychydig o fwyd i ni'n hunain hefyd? Mae sôn am newid y pwyslais yn y gystadleuaeth a elwir 'Britain in Bloom'. Tybed ai cystadleuaeth i'r garddwyr mwyaf cynhyrchiol fydd honno eleni?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy