BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
30ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Jac Powell (Haman) a Elen Royles (Siwan) Theatr Elwy wedi agor yn swyddogol - Sioe i'w Chofio
Ebrill 2005
Hwrel Hwre! Mae Theatr Elwy wedi ei hagor yn swyddogol mewn seremoni rymus iawn gan Alun Pugh AC.
Yn ystod y noson gwelsom a chlywsom eitemau gwerth chweil gan grŵp roc o blith ein disgyblion a chân gan Francesca Hughes a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth 'Waw Ffactor' ar S4C yn ddiweddar. Gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan berfformiadau gan ddisgyblon sy'n cael gwersi mewn gweithdai wythnosol gan Dawns Gogledd Ddwyrain Cymru a Sarah Baldock o SB Entertainments.

'Roedd cyfraniad gwefreiddiol y gantores enwog Ann Atkinson yn wledd i'r glust. Cawsom gyfle hefyd i weld y Sgrin Sinema a Thaflunydd Data o'r radd flaenaf wrth i Tom Goddard, Artist Preswyl, roi portread o gymuned Theatr Elwy a rhoi rhagolwg i ni o'r prosiect celfyddyd digidol mae wedi ei gomisiynu i'w gwblhau. Cyflwynwyd tusw o flodau i Rosemary Jones, Dirprwy yr Ysgol, am ei dycnwch a'i phenderfyniad i gael y maen i'r wal a gweld Theatr Elwy yn realiti.

Siaradodd Dave Phoenix ar ran Sir Ddinbych ar hanes y theatr, ei rôl yn 2005 a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Soniwyd ymhellach gan Meurig Rees, Y Pennaeth, am y broses o ymgeisio am grantiau a diolchodd o waelod calon i'r holl noddwyr sydd wedi cyfrannu'n hael tuag at weld y freuddwyd o'r theatr newydd yn dod yn ffaith. Gwelwyd cyfraniad y gymuned i'r cyfanwaith gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli, John Owens. Soniodd ef am y partneriaethau gyda'r gymuned, yr Eglwys Gadeiriol a'r Ddinas Gerdd.

Clowyd y noson gydag eitemau o'r Sioe Gerdd 'Amser Maith Ymlaen'. Noson wych ac agoriad teilwng iawn i Theatr Elwy.

Amser Maith Ymlaen

Cychwynwyd yr wythnos o ddathlu agoriad swyddogol Theatr Elwy gyda disgyblion Ysgol Glan Clwyd yn perfformio'r sioe gerdd 'Amser Maith Ymlaen' gan Caryl Parry Jones a Toni Llywelyn ar y nosweithiau Llun, Mawrth a Mercher, Mawrth 7 i 9.

'Roedd y sioe gerdd ei hun yn cychwyn yn y flwyddyn 2009 cyn teithio'n ôl mewn amser trwy Beiriant Amser Dr. Baglan a Hanna i'r blynyddoedd 1904, 1943 a'r 1950'au. Dyma ddigwyddodd i Siwan ac Aron wrth iddynt brofi anturiaethau brawychus a gwych yn y gorffennol.

Yn anffodus, nid oeddent i brofi'r anturiaethau hyn hefo'i gilydd gan eu bod wedi eu gollwng mewn amseroedd gwahanol yn y gorffennol. 'Roedd yn anodd iawn iddynt i ddychwelyd i 2099 i dathlu gwrogaeth i'r unben Haman. Byddai Cymru'r dyfodol yn cael ei rheoli fel gwladwriaeth dotalitaraidd ac 'roedd hynny'n gwylltio'r Aron a Siwan ifanc gan eu bod 'eisiau gwneud gwahaniaeth'. 'Roeddent am wneud rhyddid yn flaenoriaeth a mwynhau bywyd.

Cafwyd canmoliaeth uchel iawn i'r perfformiadau. Da iawn chi blant a diolch i chi am eich gwaith caled a gwaith caled y'ch hyfforddwyr hefyd.

Ar y nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mawrth 11 a 12, cafwyd dathliadau pellach wrth agor Theatr Elwy gyda chyngerdd wedi ei drefnu gan Bwyllgor Llanelwy, Dinas Cerdd ar y nos Wener a Noson Lawen ar y nos Sadwrn.

Cofiwch - eich theatr chi ydi hi, defnyddiwch hi! Os am logi'r theatr ar gyfer cynnal gweithdai neu berfformiadau cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau ar 01745 582611 am fwy o fanylion.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy