BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Capel Blaenannerch. Llun gan Sion Jones. Diwygiad 04-05
Yn 1903-04 yr oedd y Parchg Joseph Jenkins, Cei newydd, Sir Aberteifi wedi cychwyn cyfres o Gynadleddau Crefyddol, ac fel y dywedodd y Parchg M. P. Morgan, Blaenannerch yn Y Drysorfa yn 1952: "O'r Cei-newydd y daeth y sôn cyntaf am sŵn ym mrig y morwydd".

Daeth Jenkins i Gei-newydd yn 1892, ac yn 1894 daeth ei nai, y Parchg John Thickens, yn weinidog ar Eglwys y Tabernacl, Aberaeron, ac er bod perthynas ewythr a nai, roedd y ddau tua'r un oed. Teimlai'r ddau yn aneffeithiol, ac o Henaduriaeth De Aberteifi y daeth y cynnig hwn: "Bod moddion i'w mabwysiadu i feithrin teyrngarwch i'r Cyfundeb ac i Grist".

Y "moddion" a fabwysiadwyd oedd "Cynhadleddau er dyfnhau bywyd ysbrydol yr eglwysi" a chynhaliwyd y Gynhadledd gyntaf yng Ngheinewydd ar y dydd olaf o 1903 a'r dydd cyntaf ym 1904. Cafwyd sawl cynhadledd yn y Sir gyda'r penllanw yn dod yng Nghynhadledd Blaenannerch ym mis Medi 1904.

'Plyg fi, Arglwydd'

Dyma ddisgrifiad y Parchg John Thickens o'r hyn a ddigwyddodd yn y Gynhadledd gofiadwy honno: "Sylwem ar ddyn ieuanc a esteddai ar ein cyfer, a ddirdynnid gan ryw ddylanwadau pan lefarai Mr Joshua (y Parchg Seth Joshua).

Yng nghyfarfod y prynhawn daeth arnom yr hyn a ofnem, mewn cynyrfiadau. Ofnem y dyn ieuanc niwrotig - niwrotig yn ein barn ni, dealler - a'i gwmni. Yn ddisymwth syrthiodd y brawd ieuanc fel carreg ar ei liniau a gweddïodd mewn ingoedd, a'i chwys yn ddiferru oddi ar ei wyneb. 'Plyg fi Arglwydd,' oedd byrdwn ei weddi ddwys."

Evan Roberts, myfyriwr yn Ysgol Ramadeg Castellnewydd Emlyn, yn wreiddiol o Gasllwchwr, oedd y dyn ieuanc hwnnw.

Cymru'n cynhyrfu

Aeth yn ei ôl i weithio gyda ieuenctid Eglwys Moriah Casllwchwr cyn crwydro Cymru benbaladr, a hyd Lerpwl, yn cynnal Cyfarfodydd Diwygiadol eneiniedig. Lledodd y tân, a chafwyd adfywiad crefyddol a ledodd o Gymru i rannau eraill o'r byd. Ond yn 1905 oerodd Evan Roberts a symud i fyw at Mrs Penn Lewis yn Leicester.

Ni chafodd ei ordeinio'n weinidog erioed er mai ei fwriad o fynd i'r ysgol yng Nghastellnewydd Emlyn oedd paratoi ei hun am Goleg Trefeca, a'r Weinidogaeth. Daeth i Gaerdydd yn 1930 a bu farw ym mis Ionawr 1951 yn 72 oed.

Adladd y Diwygiad

Claddwyd ef a'i frawd Dan (y Parchg Dan Roberts a fu'n weinidog yn America cyn dychwelyd i Dreorci a Brynmawr) ac un arall o arweinwyr y Diwygiad, y Parchg Sydney Evans (fu'n athro yng ngholeg Diwinyddol Cherrapunji, India am chwarter canrif) ym medd y teulu ym Moriah, Casllwchwr.

Yn 1953 codwyd cofadail i Evan Roberts o flaen y capel, gydag englyn Eifion Wyn arno:

"Ardaloedd ar eu deulin - beth yw hyn?
Gobaith oes ddilychwin?
Eneidiau'n troi, Duw'n trin
Agoriad calon gwerin."

Cafwyd dylanwad crefyddol a chymdeithasol - lleihad aruthrol mewn meddwdod gydag achosion Llys Morgannwg yn syrthio o 10,528 yn 1903 i 5,490 yn 1906. Dywedir hefyd fod ceffylau gweithwyr y gwaith glo yn cael trafferth i ddeall cyfarwyddiadau gan nad oedd y gweithwyr bellach yn rhegi.

Gweddi wreiddiol

Daeth pobl gyffredin iawn yn weddiwyr heb eu hail.

Dyma farn un gweddïwr am y diafol: "Mae hi jyst ar ben ar yr hen ddiafol y dyddiau hyn. Mae o'n colli ei sowldiwrs i gyd. Mae pawb yn codi yn ei erbyn o, a gwaeth na'r cwbl mae'r merched yn codi yn ei erbyn o, ac os tynnith o'r merched i'w ben, mae hi wedi darfod amdano fo."

A dyma syniad pert gan un arall: "O Dad rwyt ti wedi dodrefnu'r hen galon yma'n bert iawn â'th ras. Anfon yr Ysbryd Glan i lawr i bolishio tipyn ar y dodrefn ac i sgleinio tipyn arnyn nhw er mwyn i Ti weld dy lun ynddyn nhw".

Cafodd Evan Roberts ei feirniadu am bwyso'n ormodol ar yr emosiwn, yn hytrach nac addysgu'r bobl yn athrawiaeth y Ffydd. Cynyrfiadau emosiynol yn bennaf oedd Diwygiad '04-'05. Emosiwn, nid Diwinyddiaeth oedd yn cario'r dydd.

'Achub y Byd'

Ple fawr Evan Roberts oedd "Plygu'r Eglwys ac achub y byd". Rhown y gair olaf i Evan Roberts ei hun: "Pam y dylaswn i ddysgu pan fo'r Ysbryd ei hun yn dysgu?

"A oes angen dweud wrth bobl eu bod yn bechaduriaid? Yr hyn sydd fawr ei angen arnynt yw achubiaeth. Onid ydynt yn sylweddoli hynny? Nid gwybodaeth sy'n brin ond penderfyniad gweithredu. A pham y dylaswn i reoli'r cyfarfodydd? Mae'r cyfarfodydd yn eu rheoli eu hunain, neu'n hytrach, y mae'r Ysbryd yn eu rheoli."



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy