BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Dr Aled Rhys Wiliam Cofio Dr Aled Rhys Wiliam
Chwefror 2008

Ar Galan Ionawr eleni bu farw'r Prifardd Dr Aled Rhys Wiliam.

Ond mewn gwirionedd yr oedd wedi'n gadael ers tro, a chafodd gyfnod lled hir o waeledd diwedd oes ac yntau dros ei bedwar ugain mlwydd oed.

Yn nechrau wythdegau'r ganrif ddiwethaf caed cyd ddigwyddiad chwilfrydig yn ardal Y Glannau, sef yr ardal o Abergele yn y gorllewin i Fagillt yn y dwyrain, pryd y sefydlwyd ein Papur Bro. Dyma hefyd yr adeg y daeth Aled ac Ann Wiliam i fyw i Gilhendre, Elm Grove, Y Rhyl.

Ar y pryd ni wyddai'r helyw ohonom am ei allu fel bardd - ond yr oedd si ym mrig y morwydd ei fod yn ysgolhaig, ac wedi ymddeol i'r dref ar ôl cyfnod fel uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Salford. Yr oedd rhai yn ei gofio yn ddarlledwr gyda'r BBC a rhai hŷn wedyn yn cofio iddo fod yn gweithio ar Eiriadur Prifysgol Cymru.

Daeth pawb ym myd 'y pethe' i'w adnabod fel gwr bonheddig, gweithiwr diymhongar dros y papur bro, ac un a gyfrannodd yn helaeth i fyd diwylliadol y fro fel darlithydd WEA ac yn achlysurol mewn cyfarfodydd llenyddol ac ati.

Y tro cyntaf i mi ei gyfarfod oedd yn noson plygu'r Glannau cyntaf un - a sylweddoli yno bod ei briod, Ann, wedi bod yn gyd-ddisgybl a mi yn Ysgol Ramadeg Brynrefail. Oherwydd y cysylltiad hwn daethom yn bennaf cyfeillion. Bryd hynny yr oedd y 'noson plygu' yn ddigwyddiad cymdeithasol pwysig yn y fro.

Llond neuadd yn ymgynnull a phaned, bisged a sgwrs hanner amser - wedi'r cyfan mae dalgylch Y Glannau yn eang ac yr oedd yn gyfle da nid yn unig i ddod i adnabod ond i gadw cysylltiad. Nid oedd neb mwy brwdfrydig ac egniol yn hyn oll na Dr Aled a daeth Ann am gyfnod yn ysgrifennydd Y Glannau. Daeth yntau Aled ar y pwyllgor a chael ei hun yn llenwi sawl swydd gan esgyn i swydd Llywydd Anrhydeddus.

Bu hefyd yn Llywydd Cylch Llenyddol Plas Pen Uchaf Caerwys - cylch a sefydlwyd wedi bwrlwm Eisteddfod '69 yn nhre'r Fflint. Gwelaf ef rŵan yn eistedd yn y gadair esmwyth, yn gwrando'n astud ar pwy bynnag fyddai'n traethu, yna yn araf fynd i'w waled, tynnu darn o bapur allan a darllen englyn pwrpasol i'r person a'r noson...ond 'rwy'n neidio ymlaen yn ormodol.

Cofiaf yn Hydref/Tachwedd '83 ffonio Cilhendre a chael Ann ar y ffon.
"Ydi Aled yna?"
"Ydi ond mae yn y stydi - mae'n barddoni," oedd ei hateb.

Yn 1984 yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan a'r Fro, Dr Aled a gododd i alwad y Corn Gwlad yn seremoni Cadeirio'r bardd!

Bu tipyn o ddadlau yn y cyfryngau a'r wasg ynglŷn a'r awdl "Y Pethau Bychain". Erbyn hyn mae'r dadleuon trosodd ond erys dau beth yn fy nghof. Cofiaf sgwrsio ar y maes brynhawn Gwener - Y Parchedigion Eirian Davies a W.J. Gruffydd Elerydd oedd yn gwneud y siarad - ac Elerydd ddywedodd yn ei ffordd unigryw "Does neb call yn barnu baban diwrnod oed."

Wedi darllen y cyfansoddiadau sylweddolais fod y tri beirniad yn gytun - tri Prifardd sef T. Llew Jones, Donald Evans a Dafydd Owen fod "Carpe Diem" yn deilwng o'r gadair...

Ymddiddan y Pen a'r Galon Ynghylch "Y Pethau Bychein" oedd y thema - ac fel y gellid ddychmygu gan academydd o radd Aled yr oedd rhannau yn glinigol athronyddol - ond yr oedd rhannau 'y Galon' wedyn yn canu...


Gwylied gwawr a gwelen gwên
Fwyfwy'n llenw'r ffurfafen;
A'r haul hwyr a rydd i'r wlad
Wych liwiadau'r machludiad...


Buchedd o wyrthiau bychain,
Dirgelion y ganon gain
A glywsoch, a welsoch chwi
Oedd dwyfol fuchedd Dewi.


Fel cymynrodd, gwiw rodd rad,
Gwaddol yw ei ddatguddiad:
Mwyniant y pethau manion
Erys o hyd i'r oes hon.

Wedi'r fuddugoliaeth sylweddolodd yr ardal fwyfwy athrylith y gŵr diymhongar ac ymddangosai ei gerddi yn Y Caban - sef colofn farddol Y Glannau - a daeth Aled yn ei dro yn Olygydd arni...gŵr gwneud y pethau bychain lleol yn ogystal a'r llwyfan genedlaethol!

Darlun arall a gofiaf o'r Cadeirio yn Llanbed oedd boddlonrwydd hardd ar wyneb ei dad Yr Athro Stephen J. Williams oedd yn Gymrawd o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol! Gwasanaethodd Aled yntau yr Eisteddfod mewn sawl ffordd - ar Fwrdd yr Orsedd, ar ei Phwyllgor Sefydlog Llenyddiaeth ac am flynyddoedd bu ef ac Ann yn gyfieithwyr swyddogol yn trosi yn syth bin yr hyn ddigwyddai ar y llwyfan. Cynrychiolodd yr Orsedd yng Nghynulliadau'r Oriachtus sawl gwaith a hyd yn ddiweddar ni fethodd yr un cyfarfyddiad ohoni, boed yn Cyhoeddi neu Seremoni!

Tua'r adeg hwnnw ffurfiwyd tîm Talwrn y Beirdd yn y fro sef Tîm Tegeingl - yr unig dîm am gyfnod oedd chwedl Gerallt y Meuryn "efo dau Brifardd yn eu mysg a dau arall - na fyddant byth!" Einion Evans ac Aled oedd y prifeirdd a Moi Parri a minnau y ddau arall!

Ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy fe ymddeolodd Einion a daeth Dr Dafydd Evan Morris i'r adwy. Dyma olygfa...noson tafoli yr ymgeisiadau! Moi a minnau yn edrych ar ein gilydd yn ceisio penderfynu pa englyn, cywydd neu gwpled oedd y gorau - a'r ddau brifardd yn ddistaw edrych arnom!

Digwyddai'r cyfarfodydd hyn yng Nghilhendre ar y nos Sul wythnos cyn y recordio. Yn ddi-feth pan fyddai cynnig limrig, englyn neu delyneg ar y bwrdd, deuai'r bensel goch allan, a'r Dr yn troi'n ramadegwr ac yn rhoi bob llythyren yn ei lle - ac weithiau os oedd wedi ei ogleisio gan rhyw air - olrheiniai hwnnw yn ol i'w darddiad! Nosweithiau bythgofiadwy!

Cofiaf i Aled ac Ann ymweld â Beti a minnau yn y bwthyn - fy hen gartref yn Eryri un tro. Aethom am dro i fyny'r lon ac felly y bu. Y tro nesaf i mi fynd yno dywedodd Dafydd, un o'r ardalwyr "Pwy oedd efo chdi?" Eglurais innau fod Aled yn Brifardd! "Ew" meddai, "mae o'n edrych yn fardd bob modfedd ohono!" Credaf mai nid ceisio edrych fel hynny yr oedd - ond yr oedd yr hyn ydoedd.

Am flynyddoedd cafodd Moi, Dafydd a minnau elwa ar ysgolheictod y gwr arbennig hwn, un fu mewn sawl prifysgol - Abertawe, Rhydychen, Dulyn a Basle i ni wybod; y gŵr hwn oedd yn arbenigwr ar ddeddfau Hywel Dda, fu'n gweithio'n ddygn ar ein Geiriadur, un y cyfeiriodd T. Llew Jones, Donald Evans a Dafydd Owen ato fel cynganeddwr go arbennig.

Ie, y gŵr hwn oedd yn gefnogwr y Pethau Bychain ac a gyfrannodd gymaint. Un gyfrol o farddoniaeth adawodd ar ei ôl - 'Cywain' Gwasg Gwynedd - ac amryw o lyfrynnau cefnogol i Eisteddfodau Cenedlaethol fu yr y fro hon yn ystod ei arhosiad yma megis 'Cofiant' a Broliant ein Bro i hyrwyddo coffrau Eisteddfod Y Rhyl ym 1985. Rwy innau wedi ceisio rhoi ei fyd a'i waith mewn englyn:


Y fo oedd Plato'n ein plith - fo'r rhythmau,
Fo'r ieithmon mewn darlith,
Fo'r rhychor hen ddeddfau rhith,
I'r helyw fo'r athrylith.
Norman Closs Parry.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy