BBC HomeExplore the BBC

GWENER
8fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Capel yn Dathlu
Yn y rhifyn diwethaf bu Philip Lloyd yn sôn am y gwrthdaro rhwng y carfannau Cymraeg a Saesneg ymhlith Annibynwyr Y Rhyl ym mhumdegau'r 19 ganrif. Dyma ddiwedd yr hanes ...

Aeth pethau o ddrwg i waeth rhwng y ddwy garfan. Dyma adroddiad Huwco Penmaen am John Brereton y teiliwr a Robert Williams y pobydd (y ddau o blaid y Gymraeg) yn ymgiprys i Dafydd Lewis (argraffwr), a oedd 'o'r ochr arall':

Yr oedd Mr. Lewis i bregethu un Sul, pan geisiai y teiliwr ei rwystro i ddringo grisiau y pulpud. Faint bynnag o bennau oedd i'w bregeth y tro hwnnw, nid oedd yr un gynffon i'w got, oherwydd daeth honno i ffwrdd yn llaw y teiliwr. Buasai yn ddiddorol i gael gwybod a gafodd Mr. Brereton y ,job' o'i phwytho.'

'English Services'
Ceir cip ar yr ochr arall i'r anghydfod yn 'Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru', cyfrol IV (1875) gan Rees a Thomas. Adroddir mai ymhlith y 'Saeson' bu'r cynnydd mwyaf ar ôl dyfodiad Mr Francis. Nhw gafodd gapel newydd Queen Street bore a hwyr yn yr haf, gan ddadlau mai iddyn nhw y'i codwyd a bod ymwelwyr yn cyfeirio'n fynych at yr hysbysfwrdd a gyhoeddai 'English Services' ar nos Sul yn yr haf.

Aeth pethau o ddrwg i waeth, er gwaethaf ymgais i gymodi, ac o ganlyniad, yn ôl Huwco Penmaen: '[bu i] Mr Francis gael y capel un Sabboth wedi'i gloi yn ei erbyn. Aeth i'r Town Hall i gynal yr achos yn Saesneg yn benaf, ac yn fuan iawn ymroddodd yn gyflawn i lafurio yn mysg y Saeson.'

Capel Newydd
Dyna ddechrau achos Christ Church o ddifrif, ac agorwyd yr addoldy cyntaf yn dwyn yr enw hwnnw ym 1858. Ymhlith yr aelodau cynnar oedd y Dafydd Lewis y soniodd Huwco Penmaen amdano a Mr a Mrs J. Rhydwen Jones. Dyna ddau enw amlwg ym mywyd masnachol y dref, y naill yn a'r llall i siop ddodrefu Rhydwen Jones & Davies.

Ym 1973 unodd y rhan fwyaf o'r eglwysi'r Congregational Union of England and Wales a 'r Presbyterian Church of England i ffurfio enwad newydd yr United Reformed Church, a Christ Church yn eu plith. Bu Capel Cymraeg Queen Street yn gysylltiedig ag Annibynnwyr Cymru ar hyd ei oes, yn dwyn yr enw 'Carmel' o 1901 hyd nes iddo gau ym 1992.

Ymhen cant a hanner o flynyddoedd mae'r ffrae iaith wedi'i hen anghofio. Mae pedwar o bob pump o aelodau Ysgol Sul Christ Church yn mynd i Ysgol Dewi Sant neu Ysgol Glan Clwyd - a Bethan a Ben, plant y Gweinidog presennol, y Parchedig Simon Walkling, yn eu plith.

Pan ddatgorfforwyd Carmel gan y Dr R Tudur Jones (un o blant yr Eglwys), aeth y gynulleidfa i Ysgoldy Christ Church am de. Ac ymhlith dathliadau Christ Church eleni bydd Cymanfa Ganu ddwyieithog. Beth fyddai Huwco Penmaen, John Brereton. Robert Williams a Dafydd Lewis wedi meddwl am hyn oll?

Philip Lloyd


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy