BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Glannau
Hen Dractorau
Chwefror 2005
Fel y dywedais yn y rhifyn diwethaf o'r papur bro, yn 1975 sylwais fod na hen dractor yn cuddio mewn dalan poethion ar fuarth fferm.
Fel y dywedais yn y rhifyn diwethaf, yn 1975 sylwais fod na hen dractor yn cuddio mewn dalan poethion ar fuarth fferm Bryn Tyl, Cefnberain, ac felly es at ddrws cefn y tŷ i ofyn os oedd o ar werth.

Sais ddaeth i'r drws ac ar ôl egluro yn fy Saesneg gorau pam yr oeddwn yno, yn hollol ddi-ddisgwyl rhoddodd y dyn bris i mi ar ei union. Ond cyn i mi gytuno i'w brynu roedd yn rhaid cael golwg mwy manwl arno. Roedd yn amlwg nad oedd y tractor wedi rhedeg am rai blynyddoedd achos doedd 'na ddim radiator amo a roedd golwg fod rhywun wedi bod ym mherfedd yr injan. Roedd yr echel flaen wedi lledu i'r eithaf a'r olwynion ôl wedi eu rhoi at allan i ledu'r tractor.

I'r rhai ohonch sy'n adnabod y tir yng Nghefnberain bydd yn amlwg pam y gwneuthwyd hyn gan fod y tir yn flin iawn. Teiars car oedd ar y pen blaen gyda'r nesaf peth i ddim o wisgo ar ôl arnynt, ond roedd y teiars ôl mewn cyflwr da. Roedd y ddau dractor oedd gen i'n barod yn rhedeg neu o leiaf yn edrych fel pe baent am gychwyn yn eithaf rhwydd pan brynais hwy ond roedd hwn yn bell iawn o wneud hynny.

Es yn ôl at y perchennog a tharo bargen ond mynnodd fy mod yn nôl y tractor y noson honno a thalu blaendal cyn gadael. Y cwbwl oedd gen i yn fy mhoced oedd £3 i gael cinio a dyna beth roddais iddo a byw heb ginio.

Y noson honno daeth fy ffrind Ken Parry o Dremeirchion efo fi i nôl y tractor ar fy David Brown (lwc i mi brynu hwn). Wedi cyrraedd Cefnberain doedd Ken ddim mor frwdfrydig ag yr oeddwn i. Ddywedodd o ddim ond yr oedd ei wyneb yn dweud cyfrolau. Rhoddais wynt yn y teiars a gobeithio y byddent yn aros i fyny, rhwymo'r rhaff i'r echel flaen, talu gweddill yr arian a chychwyn am adref. Gofynnodd Ken yn ddigon diniwed os oedd y brêcs yn gweithio! I fynd o Gefnberain mae'n rhaid mynd i fyny ac i lawr elltydd - doedd y brêcs ddim yn gweithio a'r unig ffordd i stopio'r tractor newydd rhag rhedeg i gefn y David Brown oedd ei droi at y clawdd.

Wrth gwrs doedd gen i ddim lle i'w gadw adref ac felly ffwrdd â ni i Pen y Waen, Tremeirchion lle cefais le i'w gadw dros dro.

Hyd yn hyn dydwi ddim wedi sôn am wneuthuriad y tractor. Allis Chalmers Model B, wedi ei wneud ym Mhrydain yn 1948 oedd o. Cwmni o Wisconsin, America oedd 'Allis Chalmers. Gan fod na waharddiad ar fewnforio peiriannau gorffenedig i Brydain ar ôl y rhyfel deuai'r peiriannau drosodd mewn darnau. Sefydlodd cwmni Allis Chalmers ffatri yn Tatton er mwyn rhoi'r darnau at ei gilydd i wneud tractorau cyflawn. Ar ôl dwy flynedd dechreuwyd eu gwneud yn gyfan gwbwl yn Essendine ger Lincoln ac un o'r rhain yw fy un i. Yn ystod y rhyfel gŵr o'r enw Harry Merrit oedd prif weithredwr Allis Chalmers a chyfeiriodd ei ddatblygwyr i gynhyrchu tractor afuasai'n rhoi diwedd i oes y ceffyl ar y fferm, a'r tractor yma oedd eu cynnig hwy.

Roedd y tractor yn boblogaidd iawn yn yr UD gan ei fod wedi cael ei wneud i weithio rhwng rhesi cnydau yn hytrach nag i droi'r tir a gwneud gwaith cyffredinol ar fferm fel oedd yn fwy poblogaidd ym Mhrydain. Er bod Allis Chalmers wedi dechrau cynhyrchu peiriannau ym Mhrydain yn y 40au gan gynhyrchu y Model B ac yna y D270 a D272 ac yn olaf yr ED40 gorffenasantgynhyrchu tractorau yn 1968. Gwerthwyd yr adain Brydeinig i gwmni Bamfords a oedd hefyd wedi prynu cwmni Jones Balers, Rhosesmor.

Cafodd llawer iawn o dractorau Allis Chalmers Model B eu gwerthu i ffermydd yn nwyrain Lloegr lIe roeddent yn tyfu tatwsac yn y blaen ond ychydig iawn addaeth i Gymru. Treuliodd yr Allis B yma y rhan fwyaf o'i ddyddiau gwaith ar feithrinfa yn Nhalacre, Sir y Fflint a dydw iddim yn rhy siwr sut y cyrhaeddodd Gefnberain. Pan ddechreuais ar y dasg enfawr oadnewyddu'r tractor roedd yn rhaid edrych yn fanwl iawn ar yr injan, final drives, brecs a'r gerbocs.

Erbyn 1980 roedd wedi ei adnewyddu'n llwyr ac yn edrych fel newydd. Un dydd Sadwrn es am dro ar hyd yr A55 i Fae Colwyn arno a chefais fy stopio ym Modelwyddan gan y Heddlu gan fod rhes o geir am tua 2 filltir y tu ôl i mi. Yn ystod y cyfnod yma hefyd roeddwn wedi priodi, wedi gwneud llawer o waith ar y tŷ ac wedi cael dau o blant. Roeddwn hefyd yn gweithio oriau hir ar yr A55. Ond hefyd roeddwn wedi cael tractor arall yn 1976 y tro yma gyda help Eleri fy ngwraig.


Cyfrannwch

Gareth Davies o 'r Mwynglawdd, Wrecsam
Diddorol iawn, yn gobeithio ymuno a chlwb Allis Chalmers yn fuan.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy